Cŵn yn baeddu a rheoli cŵn mewn mannau cyhoeddus

Diweddarwyd y dudalen ar: 06/12/2023

Mae Sir Gaerfyrddin yn sir sy'n croesawu cŵn ac mae yma amrywiaeth o lwybrau cerdded a milltiroedd o draethau tywodlyd euraidd i chi a'ch ci gael eu mwynhau. Mae'r rhan fwyaf o berchenogion cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol drwy godi baw eu hanifeiliaid anwes a'u cadw o dan reolaeth mewn mannau cyhoeddus.

Fodd bynnag, rydym yn cael cwynion am gŵn yn baeddu ac am ymddygiad niwsans gan gŵn nad ydynt dan reolaeth briodol.

Ymestyn Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (Rheolaethau Cŵn) Cyngor Sir Caerfyrddin 2016

Daeth Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (Rheolaethau Cŵn) Cyngor Sir Caerfyrddin 2016 i rym ar 1 Gorffennaf 2016. Fe'i gwnaed am gyfnod penodol o 3 blynedd. Mae'r gorchymyn bellach wedi'i ymestyn hyd at 1 Gorffennaf 2025.

Dangosodd ymgynghoriad cyhoeddus fod 98% o'r ymatebwyr un ai yn cytuno neu'n cytuno'n gryf bod angen gorchymyn i berchnogion lanhau baw eu cŵn; roedd 89% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf fod angen gorchymyn i roi cŵn ar denynnau pan fydd swyddog awdurdodedig yn rhoi cyfarwyddyd i wneud hynny ac roedd 87% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf fod angen gorchymyn i beidio â chaniatáu cŵn mewn mannau chwarae i blant.

Mae'r gorchymyn yn cynnwys:

  • Codi baw eich ci
  • Cŵn ar dennyn drwy gyfarwyddyd
  • Gwahardd cŵn

Eithriadau

Mae rhai eithriadau ar gyfer pobl ag anableddau ac ar gyfer cŵn gwaith.

Dirwyon

Os ydych yn methu â chydymffurfio a'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus, rydych yn cyflawni trosedd a gallwch gael hysbysiad cosb benodedig o £100 ond os telir y ddirwy o fewn 10 diwrnod, caiff y swm ei leihau i £50. £1,000 yw'r ddirwy fwyaf os cewch eich erlyn yn y llys ynadon.

Is-ddeddfau presennol

Mae'r is-ddeddfau presennol sy'n gwahardd cŵn yn ôl y tymor (o 1 Mai hyd at 30 Medi) o draeth Cefn Sidan a Llansteffan, a'r is-ddeddf sy'n mynnu bod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn bob amser ar Y Grîn yn Llansteffan, yn dal mewn grym.