Rheoli plâu

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/12/2023

Rydym yn cynnig gwasanaeth triniaeth rheoli plâu i denantiaid tai Cyngor Sir Caerfyrddin, fodd bynnag, rydym yn barod i gynnig cyngor ynghylch pob safle.
Os ydych chi’n credu bod gennych broblem â phlâu ar eich tir, rydym yn argymell eich bod yn ceisio triniaeth gan arbenigwr rheoli plâu proffesiynol, a hynny am resymau iechyd a diogelwch, gan fod gwenwyn lladd llygod yn gallu bod yn niweidiol i anifeiliaid anwes a phlant os nad yw'n cael ei drin yn y modd priodol.
Os ydych chi'n credu bod y broblem yn cael ei hachosi gan eiddo sydd heb fod o dan eich rheolaeth, cysylltwch â ni. Byddwn yn ymchwilio i'ch cwyn ac yn helpu i fynd i wraidd y mater. Gellir cymryd camau priodol i sicrhau bod perchennog y tir yn gwneud unrhyw waith sy'n ofynnol i gadw'r tir yn rhydd rhag plâu.