Cwynion am fwyd a safleoedd bwyd

Diweddarwyd y dudalen ar: 22/01/2024

Rydym yn ymchwilio i gwynion a wneir ynglŷn â hylendid bwyd mewn safleoedd bwyd a bwyd yr ydych yn meddwl ei fod yn anniogel.

Sylwch, os gwelwch yn dda: Nid ydym yn ymchwilio i bob cwyn.

Byddwn yn ymchwilio i’r canlynol:

  • Hylendid bwyd mewn safleoedd bwyd (e.e. amodau brwnt, staff ddim yn trin bwyd mewn ffordd lanwaith)
  • Bwyd a allai fod yn gysylltiedig â gwenwyn bwyd neu sydd wedi ei halogi
  • Bwyd sy'n cynnwys cyrff estron e.e. gwydr, metel, pren, pryfed
  • Bwyd wedi llwydo
  • Bwyd sydd wedi mynd heibio ei ddyddiad 'defnyddiwch erbyn'

Ni fyddwn yn ymchwilio i’r canlynol:

  • Bwyd a brynwyd y tu allan i ardal Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Unrhyw hawliadau am iawndal neu ad-daliadau. Mater rhwng y prynwr a'r gwneuthurwr yw hwn
  • Cwynion am ansawdd bwyd e.e. llysiau a ffrwythau goraeddfed
  • Bwyd sydd wedi mynd heibio ei ddyddiad 'Ar ei orau cyn'. Nid yw'n anghyfreithlon gwerthu bwyd ar ôl ei ddyddiad ‘ar ei orau cyn’. Mae ar ei orau cyn yn golygu bod y gwneuthurwr yn gwarantu y bydd y bwyd o'r ansawdd gorau hyd at y dyddiad hwnnw.
  • Bwyd o ansawdd gwael
  • Cwynion dienw
  • Cwynion na all yr achwynydd eu cefnogi na'u cadarnhau. (Dylai achwynwyr fod yn barod i gefnogi unrhyw gŵyn benodol â Datganiad Tyst).

Sut i wneud cwyn am fwyd

1. Dywedwch wrthym ni amdano yn Iechyd yr Amgylchedd Sir Gaerfyrddin

Gwnewch gŵyn am fwyd

2. Cadwch dystiolaeth o'r bwyd

Os yw eich cwyn yn ymwneud ag eitem o fwyd rhaid i chi wneud y canlynol:

  • Cadw’r bwyd yn eich meddiant
  • Cadw unrhyw dderbynebau, labeli a deunyddiau pecynnu
  • Ceisio cadw'r bwyd neu'r ddiod yn ei gyflwr gwreiddiol
  • Storio bwydydd sy’n darfod yn yr oergell neu'r rhewgell. Os ydych chi'n cwyno am lwydni, yna rhowch ef yn yr oergell, nid y rhewgell
  • Os byddwch yn cadw bwyd yr ydych yn cwyno amdano yn yr oergell, gwnewch yn siŵr na all halogi unrhyw fwyd arall

Sylwch, os gwelwch yn dda: Ni allwn dderbyn bwyd sydd wedi cael ei dynnu o'r bin, gan ei fod yn debygol o fod wedi ei halogi â phob math o facteria.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd y canlyniad a'r amser ymchwilio yn dibynnu ar natur y gŵyn.

Ni fyddwn yn rhoi gwybod i chi am ddatblygiadau arwyddocaol nac unrhyw gamau a gymerir ond os yw'n briodol.

Caiff y wybodaeth a ddarperir ei hasesu gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd a chaiff ei chloriannu o ran risg i iechyd y cyhoedd. Ystyrir pob cwyn yn ôl ei haeddiant a bydd y Swyddog Ymchwilio yn penderfynu ar lefel yr ymyrraeth sydd ei hangen a'r cam gweithredu mwyaf priodol i'w gymryd.

Ni allwn anfon ateb i bob cwyn a dderbynnir. Nid yw materion yr eir i’r afael â hwy’n uniongyrchol neu a ddefnyddir fel ffynhonnell gwybodaeth, fydd yn arwain at wyliadwriaeth barhaus neu sydd i gael sylw yn ystod ymyriad sydd ar ddod, yn debygol o dderbyn gohebiaeth bellach

Os cymerir camau cyfreithiol, mae'n debygol iawn y bydd angen i chi roi datganiad tyst a thystiolaeth yn y llys.

A fyddaf yn cael iawndal?

Na, iechyd y cyhoedd yw ein blaenoriaeth ni. Ni allwn weithredu ar eich rhan i hawlio iawndal. Fodd bynnag, gallwch gymryd camau preifat a gofyn am gyngor gan gyfreithiwr.

Gallwch ddelio â chwynion am fwyd eich hun drwy roi gwybod i'r siop a werthodd y bwyd i chi, neu i'r gwneuthurwr (weithiau, ceir rhif ffôn gofal cwsmeriaid ar y pecyn bwyd). Byddant yn aml yn cynnal ymchwiliadau tebyg i’r awdurdod lleol ar gyfer eu gweithdrefnau sicrhau ansawdd a diogelwch eu hunain ac efallai y byddant yn rhoi iawndal i chi.

Cwynion ffug

Mae'n drosedd gwneud cwynion ffug am fwyd.

Rydym wedi derbyn nifer o achosion lle mae unigolion wedi cyflwyno cwynion ffug er mwyn cael iawndal. Byddwn yn cysylltu â’r heddlu os byddwn yn meddwl bod cwyn ffug wedi cael ei chyflwyno.