Ymchwiliad i wenwyn bwyd a amheuir

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/12/2023

Mae gwenwyn bwyd yn salwch sy’n ganlyniad bwyta bwyd wedi ei halogi. Nid yw'n ddifrifol fel arfer, a bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwella o fewn ychydig ddyddiau heb driniaeth.

Mae symptomau gwenwyn bwyd fel arfer yn dechrau o fewn diwrnod neu ddau ar ôl bwyta bwyd wedi ei halogi, er y gallant ddechrau ar unrhyw adeg rhwng ychydig oriau a nifer o wythnosau’n ddiweddarach. Mae hefyd yn bwysig nodi y gellir priodoli symptomau gwenwyn bwyd i achosion heblaw bacteria, megis firysau a methiant i oddef rhai bwydydd.

Yr unig ffordd i gadarnhau presenoldeb organeb gwenwyn bwyd yw drwy gyflwyno sampl o garthion drwy eich meddyg teulu. Os byddwch yn meddwl bod gennych wenwyn bwyd bydd angen i chi gysylltu â'ch meddyg teulu i drefnu prawf.

Os byddwch yn amau eich bod wedi dal gwenwyn bwyd ar ôl bwyta mewn unrhyw fusnes neu siop fwyd fasnachol, gellwch roi gwybod i ni drwy lenwi’r ffurflen isod. Byddwn yn monitro’r wybodaeth a roddwch ond ni fyddwn yn cysylltu â chi ond os bydd gwir angen.

Tra bydd eich symptomau’n parhau mae'n bwysig cynnal safonau uchel o hylendid personol ac osgoi coginio bwyd i eraill. Os yw eich gwaith ym maes gofal iechyd, arlwyo neu gyda chleientiaid ifanc neu oedrannus a’ch symptomau yn dal i fod gennych, y canllawiau yw aros adref o'r gwaith hyd nes y byddwch wedi cael cyfnod o 48 awr heb unrhyw symptomau.

Os cadarnhawyd drwy brofion labordy fod gennych ganlyniad positif ar gyfer organeb gwenwyn bwyd, bydd yr adran yn cysylltu â chi naill ai'n ysgrifenedig neu dros y ffôn er mwyn i ni gael rhagor o wybodaeth am eich salwch.

Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r rheolydd data ar gyfer y wybodaeth bersonol a roddir gennych ar y ffurflen hon. Defnyddir eich gwybodaeth i ddarparu'r gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdano ac ni chaiff ei defnyddio i unrhyw ddiben arall. Ni fyddwn yn rhannu eich data ag unrhyw drydydd parti heb eich caniatâd penodol oni bai bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni neu'n caniatáu hynny.

Mae cyfraith ddiogelu data yn disgrifio’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn sicrhau ein buddiannau cyfreithlon. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn defnyddio eich data personol, gan gynnwys eich hawliau fel gwrthrych data, gwelwch ein hysbysiad preifatrwydd corfforaethol ar ein gwefan.

Taflen gwenwyn bwyd