Cwynion sŵn

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/03/2024

Mae gan ein Tîm Llygredd swyddogion â chymwysterau cydnabyddedig ym maes acwsteg a rheoli sŵn. Mae'r tîm yn derbyn llawer o gwynion ynghylch sŵn yn ystod y flwyddyn.
Mae’n beth arferol clywed rhywfaint o sŵn gan eich cymdogion neu’n agos at eich cartref, er enghraifft:
  • Os yw eich cartref yn gysylltiedig ag adeilad arall neu’n agos ato, byddwch yn clywed rhywfaint o sŵn byw cyffredinol fel plant yn crio, drysau’n cau, sŵn curo, gweiddi/dadlau achlysurol, offer tŷ ac ati.
  • Mae'n arferol i gŵn gyfarth weithiau.
  • Bydd gwaith adeiladu neu waith cynnal a chadw yn achosi rhywfaint o sŵn am gyfnod o amser.
  • Efallai y bydd pobl yn cael partïon weithiau i ddathlu penblwyddi, priodasau, digwyddiadau crefyddol ac ati.
  • Bydd busnesau yn creu rhywfaint o sŵn yn ystod eu gweithgaredd. Gall hyn gael ei ganiatáu gan ddeddfwriaeth cynllunio neu drwyddedu. 
Fodd bynnag, os yw sŵn yn ormodol neu o ganlyniad i ymddygiad afresymol, efallai y byddwn yn gallu cynorthwyo mewn rhai achosion. Gall swyddogion asesu a yw'r sŵn yn niwsans statudol a pha gamau y gellir eu cymryd. 
Cyn i chi roi gwybod i ni am broblem sŵn, efallai y byddwch am geisio siarad â’ch cymydog nad yw o bosibl yn ymwybodol ei fod yn achosi problem (gweler isod). 
Mae’r hyn y GALLWN ymchwilio iddo yn cynnwys: 
  • Gweithgareddau cynnal a chadw yn ystod oriau afresymol
  • Ci yn cyfarth yn barhaus
  • Prosesau masnachol neu ddiwydiannol
  • Safleoedd adeiladu / dymchwel
  • Tafarnau/clybiau neu fannau adloniant cyhoeddus eraill
  • Cerddoriaeth Uchel
  • Larymau Eiddo/Cerbyd
  • Sŵn o ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol

Hefyd mae rhai ffynonellau sŵn na ellir delio â nhw o dan ddeddfwriaeth, gan gynnwys:

  • Synau byw bob dydd e.e. nifer yr ymwelwyr, gweiddi achlysurol, sŵn curo, drysau’n cau, fflysio toiledau
  • Defnydd arferol o offer cartref e.e., peiriant golchi dillad, hwfer
  • Gwneud gwaith cynnal a chadw ar adegau rhesymol o'r dydd.
  • Sŵn oherwydd inswleiddio sŵn gwael
  • Dadleuon / gweiddi / sgrechian.
  • Sŵn traffig ar ffyrdd cyhoeddus
  • Cyfarth rhesymol gan gŵn
  • Plant yn crio/chwarae

Nid oes lefel benodedig sy'n golygu bod sŵn yn mynd yn niwsans statudol, fel y diffinnir gan Adran 79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Rhaid rhoi ystyriaeth i nifer o ffactorau, megis pryd mae'r sŵn yn digwydd, hyd y sŵn, angenrheidrwydd y sŵn, lefelau sŵn, natur yr ardal ac ati.

Byddwn yn ymchwilio i gwynion yn unol â'n Polisïau a Gweithdrefnau mewnol (Dolen i'r polisi) 

CYFLWYNO CWYN YNGHYLCH SŴN         Gweithdrefn Sŵn

Cwestiynau Cyffredin

Nid yw hyn yn wir o gwbl. Mae barnu Niwsans Sŵn Statudol yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Er mai un ffactor yw amser o'r dydd, gallai sŵn gael ei ystyried yn Niwsans Statudol trwy gydol oriau'r dydd os bernir ei fod yn uchel, yn gyson a/neu'n eithaf aml.

Na, yn anffodus oherwydd problemau adnoddau nid yw gwasanaeth ‘tu allan i oriau’ pwrpasol yn bosibl.

Na, nid ydym yn rhoi gwybod iddynt am unrhyw ddyddiadau nac amseroedd o ran monitro. Rydym yn rhoi gwybod i'r sawl y mae'r gŵyn wedi ei gwneud yn ei erbyn am ein hymchwiliad gyda'r nod o ddatrys y mater ar y dechrau, ond ni ddatgelir amserlen fonitro.

Ar rai adegau, er gwaethaf ein hymdrechion gorau, ni ellir cymryd camau pellach ynghylch cwyn am sŵn. Gall hynny fod oherwydd ein bod ni o'r farn nad oes niwsans sŵn yn bodoli, neu oherwydd bod diffyg tystiolaeth i gynnal achos cryf. Rydym yn deall y gallech deimlo eich bod yn cael cam oherwydd nad ydym yn cymryd camau pellach, ond rydym yn eich cynghori, o dan A82 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, y gallwch chi gymryd camau drosoch eich hun mewn perthynas â niwsans sŵn statudol honedig. 

Bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o bobl ymgymryd â gwaith DIY o amgylch y tŷ rywbryd. Gallai hynny amrywio o waith ar raddfa fach megis gosod llun ar y wal i waith ar raddfa fwy megis adnewyddu eiddo’n llwyr. Mae pobl yn aml yn gorfod ymgymryd â'r math hwn o waith y tu allan i’w waith o ddydd i ddydd, sy’n golygu bod y gwaith DIY yn aml yn cael ei wneud gyda’r nos neu ar benwythnosau. Gall hyn, ynghyd â'r ffaith bod gwaith o'r math hwn yn gallu bod yn swnllyd, beri i gymdogion gwyno. Bwriad y daflen hon yw darparu rhai camau syml y gellir eu cymryd i geisio sicrhau eich bod yn tarfu cyn lleied â phosibl ar eich cymdogion.

Nid oes unrhyw gyfyngiadau amser wedi'u nodi yn neddfwriaeth y DU o ran pryd y gellir neu na ellir ymgymryd â gwaith DIY. Nid yw hyn yn golygu bod gan bobl yr hawl i ymgymryd â gwaith o'r fath fel y dymunant, os yw'n debygol o darfu ar eu cymdogion. Wrth ymgymryd â'r gwaith, dylid rhoi ystyriaeth i'r sŵn y gallai’r gwaith ei greu a fydd yn tarfu ar gymdogion, trwy sicrhau bod cymdogion yn cael y seibiant sydd ei angen arnynt.

Amserau rhesymol i ymgymryd â gwaith DIY....

Amlinellir yr hyn y byddem yn ei ystyried yn amseroedd rhesymol i ymgymryd â gwaith DIY yn y rhan fwyaf o amgylchiadau isod:

  • Dydd Llun – Dydd Gwener - 08:00 – 20:00
  • Dydd Sadwrn - 09:00 – 19:00
  • Dydd Sul - 10:00 - 17:00

Beth i'w wneud cyn dechrau gwaith DIY

Siaradwch â'ch cymydog cyn dechrau unrhyw waith DIY. Rhowch wybod iddo beth yr ydych yn bwriadu ei wneud, pa mor hir y bydd y gwaith yn debygol o bara, a'r amserau yr ydych yn bwriadu gweithio. Pan fyddwch wedi cytuno ar yr amserau hyn, peidiwch â'u newid. Rhowch sylw priodol i unrhyw bryderon sydd ganddo a chyfaddawdu lle bo'n bosibl er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn.

Rhowch eich rhif cyswllt iddo fel ei fod yn gallu cysylltu â chi os oes ganddo unrhyw bryderon neu gwynion yr hoffai eu trafod.

Ystyriaethau wrth ymgymryd â gwaith DIY....

  • Radio - Mae gwaith DIY a gwrando ar gerddoriaeth/radio fel arfer yn mynd law yn llaw â'i gilydd. Dylech roi ystyriaeth i lefelau sŵn y radio/cerddoriaeth er mwyn sicrhau bod y sŵn yn tarfu cyn lleied â phosibl ar eich cymdogion.
  • Waliau Cydrannol - Mae'n bosibl y bydd gwaith ar waliau cydrannol yn swnio'n uchel iawn i'ch cymydog a gall hyd yn oed tasgau tawelach megis llyfnu'r wal swnio'n uchel os cânt eu gwneud ar wal gydrannol. Felly dylech roi ystyriaeth i nifer y weithiau yr ydych yn ymgymryd â'r math hwn o waith er mwyn sicrhau bod y sŵn yn tarfu cyn lleied â phosibl ar eich cymdogion. Mae'n bosibl y bydd angen ichi hefyd fodloni gofynion y Ddeddf Waliau Cydrannol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Rheoliadau Adeiladu.
  • Gwaith swnllyd - Ceisiwch ymgymryd â gwaith swnllyd megis drilio a morthwylio rhwng 10am – 4pm er mwyn lleihau tarfu ar eich cymdogion. Hefyd, bydd cael seibiant yn awr ac yn y man yn helpu'r sefyllfa.
  • Offer - Gwnewch yn siŵr bod yr offer yr ydych yn eu defnyddio yn cael eu cynnal a'u cadw mewn modd priodol a'u bod yn addas i'r diben. Yn aml, bydd offer anghywir ar gyfer y dasg neu hen offer sydd mewn cyflwr gwael yn creu mwy o sŵn nag sy'n angenrheidiol.

Gwneud cwyn ynghylch sŵn...

Os bydd gwaith DIY yn tarfu arnoch, rydym yn eich cynghori, os yw'n ddiogel gwneud hynny, i fynd at eich cymydog a thrafod eich cwyn gyda nhw yn gyntaf. Os na fydd y mater yn cael ei ddatrys, mae croeso ichi gysylltu â ni ar 01558 825340, neu gallwch cyflwyno cwyn ar-lein ynghylch sŵn neu e-bostio diogelurcyhoedd@sirgar.gov.uk​. Byddwn yn ymchwilio i'ch cwyn yn unol â'n gweithdrefn cwynion sŵn. Ein nod yw datrys cwynion yn anffurfiol lle bo hynny'n bosibl, ond mae gennym bwerau cyfreithiol pe bai'r sŵn yn ormodol ac yn Niwsans Statudol. Yn yr achosion hyn, byddwn yn ystyried cyflwyno rhybudd cyfreithiol i'r person sy'n gyfrifol, gan ofyn iddo gymryd mesurau i leihau'r sŵn, megis cyfyngu ar yr amseroedd y caniateir iddynt ymgymryd â'r gwaith.

Rydym yn delio â chwynion sŵn sy'n deillio o leoliadau adloniant cyhoeddus, yn cynnwys tafarnau, clybiau, digwyddiadau awyr agored, ac achlysuron cysylltiedig â chwaraeon.

Mae gofyn bod gan fwyafrif y lleoliadau sy'n darparu adloniant drwydded i wneud hynny.

Ewch i'r tudalennau Trwyddedu ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth am y broses hon neu i gyflwyno cais.

Ceir darpariaethau yn adrannau 60 a 61 o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974 er mwyn rheoli sŵn o safleoedd adeiladu neu ddymchwel.

Mae Adran 61 o'r Ddeddf yn galluogi person sy'n bwriadu gwneud gwaith ar safle adeiladu i wneud cais am ganiatâd ymlaen llaw. Mae camau y mae'n rhaid eu dilyn wrth ystyried cais am ganiatâd ymlaen llaw, a rhaid sicrhau bod digon o amser cyn cychwyn y gwaith er mwyn i ganiatâd gael ei roi. Os rhoddir caniatâd, bydd fel arfer yn cynnwys amodau y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn cyfyngu gymaint ag sy'n rhesymol bosibl ar y sŵn.

Ceir rhagor o wybodaeth am y broses hon ac amlinelliad o'r math o wybodaeth sydd angen arnom yn y ddogfen hon:

Mae llawer o gwynion ynghylch sŵn yn ymwneud â larymau byrgleriaid sy'n ddiffygiol neu'n seinio heb angen. Mewn achosion lle mae'r ffaith bod larwm yn seinio'n barhaus yn creu niwsans sŵn statudol, mae gennym bŵer i sicrhau gwarant er mwyn mynd i mewn i eiddo ac atal y larwm rhag seinio. Os cymerir y cam hwnnw, fe'i gwneir fel arfer yng nghwmni heddwas, ac arbenigwr ar larymau.

Er mwyn osgoi gorfod cael gwarant a mynd i mewn i eiddo trwy rym i ddelio â larwm diffygiol, rydym yn cadw cofrestr o ddeiliaid allweddi a enwebwyd ar gyfer eiddo sydd â larymau. Cofrestr gyfrinachol yw hon, ac mae'n golygu mai proses syml yw cysylltu â rhywun a all gynorthwyo gyda larwm diffygiol os yw perchennog y tŷ i ffwrdd.

Cofrestr manylion deiliaid allweddi ar gyfer Larymau Tresbaswyr Clywadwy