Cwestiynau Cyffredin

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/01/2024

Mae'r mwyafrif o berchenogion cŵn yn gyfrifol ac yn ofalus; fodd bynnag, weithiau bydd lleiafrif yn ymddwyn yn anghyfrifol. Mae adborth gan drigolion lleol yn gyson wedi codi'r mater o gŵn yn baeddu, ac ymddygiad niwsans gan gŵn nad ydynt dan reolaeth briodol.

Drwy fabwysiadu'r gorchymyn hwn, mae hi'n haws i'r awdurdod ddelio'n gyflym ac yn effeithlon â'r lleiafrif bach o berchenogion cŵn sy'n ymddwyn yn anghyfrifol, gan, ar yr un pryd, annog diwylliant cyfrifol o fod yn berchen ar gi.

Bydd y gorchymyn hwn, ynghyd â'n hymgyrch glanhau, yn fanteisiol mewn sawl ffordd, a bydd yn creu amgylchedd glanach, yn lleihau nifer y problemau iechyd sy'n gysylltiedig â baw cŵn, ac yn hybu perchenogaeth gyfrifol ar gŵn.

Mae'n ffordd fodern ac effeithiol o orfodi pan fydd angen, ac yn cynnig dull synhwyrol o ddelio â mater sy'n peri pryder parhaus i'n trigolion.

Rydym o'r farn bod y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn ymateb teg, cytbwys a chymesur i'r problemau sy'n bodoli yn y sir ar hyn o bryd. Rydym o'r farn ei fod yn angenrheidiol ac yn gymesur o ran y rheolaethau y mae'n eu gosod. Mae'n gosod rheolaethau rhesymol a ddylai, yn ein barn ni, fod yn berthnasol i bob perchennog ci, ar wahân i'r rhai rydym wedi'u heithrio.

Ni fydd y gorchymyn yn berthnasol i weithgareddau arferol cŵn gwaith, tra bo'r ci yn gweithio. Felly, ni fyddwn yn erlyn os byddwn yn fodlon bod y ci yn gweithio ar yr adeg y cafodd y gorchymyn ei dorri.

Er enghraifft, ni fyddwn yn erlyn unrhyw dramgwyddau a gyflawnir gan:

  • Gŵn sy'n cael eu defnyddio ar gyfer gwaith chwilio ac achub brys. 
  • Cŵn sy'n cael eu defnyddio ar gyfer gwaith gorfodi'r gyfraith.
  • Cŵn sy'n cael eu defnyddio gan Luoedd Arfog Ei Mawrhydi. 
  • Cŵn sy'n cael eu defnyddio i gorlannu neu yrru gwartheg neu ddefaid.
  • Cŵn sy'n cael eu defnyddio'n gyfreithlon i ddal neu ddifa fermin.
  • Cŵn neu gŵn hela sy'n cael eu defnyddio'n gyfreithlon ar gyfer hela.

Os oes gennych gi sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith, bydd y gorchymyn yn berthnasol pan na fydd y ci yn gweithio. Er enghraifft, os ydych chi'n defnyddio ci i hela, bydd rhaid i chi gydymffurfio â'r gorchymyn pan nad ydych chi'n hela gyda'r ci.

Mae Cŵn yn Baeddu a Chŵn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd yn droseddau ar hyd a lled y sir, felly bydd arwyddion rhybudd cynghorol yn cael eu gosod yn yr ardaloedd hynny sydd â phroblem.

Bydd arwyddion cynghorol yn cael eu gosod wrth fynedfeydd unrhyw ardaloedd lle mae cŵn wedi'u gwahardd dan y gorchmynion hyn.

Bydd y gorchymyn yn para am gyfnod o dair blynedd, ond efallai bydd y cyngor yn ei estyn maes o law. Bydd rhaid i ni ddilyn proses ymgynghori statudol os ydym yn penderfynu amrywio neu estyn y gorchymyn hwn, neu'n penderfynu gwneud gorchmynion ychwanegol.

Gall y cyngor hefyd ddefnyddio Hysbysiadau Gwarchod Cymuned i ddelio â Materion Rheolaeth ar Gŵn. Mae Hysbysiad Gwarchod Cymuned yn hysbysiad cyfreithiol sy'n gosod amodau ar ymddygiad rhywun sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol. Bwriad y rhain yw delio â phroblemau neu niwsans parhaus sy'n effeithio'n negyddol ar ansawdd bywyd y gymuned, trwy dargedu'r sawl sy'n gyfrifol.

Bydd Hysbysiadau Gwarchod Cymuned yn cael eu defnyddio i ddelio ag unrhyw broblemau eraill fesul achos. Bydd hyn yn ein galluogi i osod amodau ar ymddygiad perchenogion cŵn anghyfrifol, heb effeithio ar berchenogion cŵn eraill sy'n ymddwyn yn gyfrifol.

Os oes yna dystiolaeth sy'n dangos bod problemau eraill yn bodoli yn y sir, ac os nad yw'r dull hwn yn gweithio'n foddhaol, bydd y cyngor yn gallu amrywio'r gorchymyn hwn neu lunio Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus pellach bryd hynny, i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau parhaus.

Ni fyddwn yn gorfodi Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996 o hyn ymlaen. Yn ei lle, byddwn yn defnyddio'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus i ddelio â materion yn ymwneud â chŵn yn baeddu.

Bydd yr is-ddeddfau presennol sy'n gwahardd cŵn yn ôl y tymor (o 1 Mai hyd at 30 Medi) o draeth Cefn Sidan a Llansteffan, a'r is-ddeddf sy'n mynnu bod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn bob amser ar Y Grîn yn Llansteffan, yn dal mewn grym.

Ni fydd yr is-ddeddf sy'n gwahardd cŵn o'r man chwarae ym Mharc Gwledig Pen-bre yn cael ei gorfodi mwyach. Caiff cŵn eu gwahardd o'r man hwnnw o hyd, ond byddwn yn gorfodi'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn lle'r is-ddeddf.

Yn ogystal â'r arogl annymunol a'r llanast a achosir pan rydych chi'n cael baw ci ar olwyn pram, cadair olwyn, esgid neu ddillad, mae yna risg i iechyd yn gysylltiedig â baw cŵn.

Mae Toxocara canis yn llyngyren sy'n byw ym mherfedd cŵn. Caiff wyau eu pasio gyda'r baw ci, a gallant oroesi mewn pridd am hyd at dair blynedd. Mae'r wyau'n deor i gynhyrchu larfâu a fydd, o'u hamlyncu, yn mynd i lif y gwaed. Mae gwaed dynol yn amgylchedd estron, a bydd y larfâu’n aros ynghwsg. Fodd bynnag, os yw larfa'n mynd yn sownd yn y capilarïau gwaed bychain sydd y tu ôl i'r llygad, gall beri i rywun golli ei olwg yn rhannol. Er bod hyn yn anghyffredin iawn, ac y bydd amddiffynfa naturiol y corff fel arfer yn dinistrio'r larfâu, bydd glanhau ar ôl eich ci yn cael gwared â'r risg.

Mae'r gorchymyn yn mynnu bod y sawl sydd yn gyfrifol am gi yn glanhau ar ei ôl ar unwaith, os yw’r ci'n baeddu ar dir y mae'r gorchymyn yn berthnasol iddo.

Bydd hi'n ofynnol i chi lanhau ar ôl eich ci ym mhob man cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin. Fodd bynnag, gall y perchennog, y preswyliwr neu'r sawl sy'n gyfrifol am fan cyhoeddus optio allan o'r gorchymyn, ac felly ni fydd yn berthnasol i'w tir hwy.

At y dibenion hyn, ystyr "man cyhoeddus" yw unrhyw fan y mae gan y cyhoedd, neu unrhyw garfan o'r cyhoedd, fynediad iddo, drwy dâl neu fel arall, fel hawl neu yn rhinwedd caniatâd datganedig neu ymhlyg.

Mae hyn yn cynnwys ardaloedd dan do a ddefnyddir gan y cyhoedd.

Ydy. Bydd y gofyniad i lanhau ar ôl eich ci yn berthnasol i bob darn o dir cyhoeddus sy'n cyfateb i'r disgrifiad a nodir uchod, gan gynnwys ardaloedd o dir preifat a ddefnyddir gan y cyhoedd (neu garfan o'r cyhoedd).

Fodd bynnag, gall y perchennog, y preswyliwr neu'r sawl sy'n gyfrifol am ddarn o dir cyhoeddus roi caniatâd i rywun sy'n gyfrifol am gi beidio â gorfod glanhau ar ôl y ci ar y tir. Gallant roi'r caniatâd hwn i unigolion, grwpiau o bobl, neu i bawb sy'n defnyddio eu tir. Drwy roi'r caniatâd hwn i bawb, gallant optio allan o'r gorchymyn, ac felly ni fydd yn berthnasol i'r tir.

 

Ydy. Caiff llwybrau tramwy eu hystyried yn dir sydd yn yr awyr agored ac y mae gan y cyhoedd hawl mynediad iddo.

Mae rhai llwybrau troed yn croesi tir preifat ond mae gan y cyhoedd hawl i'w defnyddio; felly os yw eich ci'n baeddu ar y llwybr troed ac nad ydych yn codi'r baw, gallwch dderbyn Hysbysiad Cosb Benodedig.

Byddem yn eich cynghori i fynd â rhaw faw neu fag plastig gyda chi wrth fynd â'r ci am dro.

Ni ddylech adael bagiau o faw ci ar hyd y lle, hyd yn oed os ydych chi'n bwriadu eu casglu yn hwyrach. Os gwnewch hynny, byddwch yn cyflawni trosedd dan adran 87 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (am ollwng sbwriel). Bydd hi'n haws cario'r baw ci os caiff ei roi mewn cynhwysydd neu fag sydd wedi'i ddiarogli.

Pan fyddwch chi'n mynd â'ch ci am dro, eich cyfrifoldeb chi yw cadw llygad arno drwy'r amser a sicrhau eich bod yn glanhau ar ei ôl. Ni fydd peidio â bod yn ymwybodol bod y ci wedi baeddu (naill ai oherwydd nad oeddech yn y cyffiniau neu am reswm arall), neu beidio â meddu ar ffordd addas o symud y baw, yn esgus rhesymol dros beidio â chydymffurfio â'r gorchymyn.

Os yw eich ci yn baeddu ar dir cyhoeddus, gellir rhoi'r baw, mewn bag, mewn unrhyw fin sbwriel cyhoeddus, bin baw cŵn, neu fin gwastraff cartrefi.

Oes. Ni fydd y rhan hon o'r gorchymyn yn berthnasol i unigolion sydd -

(a) wedi eu cofrestru'n rhannol ddall neu'n ddall, ar gofrestr a luniwyd dan adran 29 Deddf Cymorth Gwladol 1948; neu

(b) wedi eu cofrestru fel rhywun sydd â ”nam ar y golwg", "nam difrifol ar y golwg" neu "nam ar y golwg neu'r clyw sydd, gyda'i gilydd, yn cael effaith sylweddol ar eu bywyd bob dydd", ar gofrestr a luniwyd dan adran 18 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu

(c) ag anabledd sy'n effeithio ar eu symudedd, medrusrwydd corfforol, cydsymud corfforol, neu eu gallu i godi, cario, neu fel arall symud gwrthrychau bob dydd, sy'n golygu na ellir yn rhesymol ddisgwyl iddynt symud y baw; neu

(d) ag anabledd arall, sy'n golygu na ellir yn rhesymol ddisgwyl iddynt symud y baw.

At ddibenion y gorchymyn, ystyr “anabledd” yw cyflwr a ystyrir yn anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010.

Mae'r rhan hon o'r gorchymyn yn caniatáu i bobl a awdurdodwyd gan y cyngor ddweud wrth rywun sy'n gyfrifol am gi am ei roi ar dennyn nad yw'n fwy na dau fetr o hyd. Dim ond dan amgylchiadau penodol y caniateir iddynt roi cyfarwyddyd o'r fath. I gael rhagor o wybodaeth am yr amgylchiadau pan ellir dweud wrth rywun am roi ci ar dennyn, gweler y cwestiwn isod.

At y dibenion hyn, ystyr "tennyn" yw unrhyw raff, cortyn, tennyn neu eitem debyg a ddefnyddir i glymu, rheoli neu rwystro ci, ond nid yw'n cynnwys unrhyw eitem o'r fath nad yw'n cael ei defnyddio i rwystro'r ci fel ei fod dan reolaeth agos yr unigolyn. Felly, os ydych chi'n rhoi eich ci ar dennyn, ond yna'n methu dal gafael ynddo neu'n methu ei roi yn sownd yn rhywbeth addas er mwyn cadw'r ci dan reolaeth agos, byddwch yn cyflawni trosedd.

Gellir gofyn i rywun roi ci ar dennyn dim ond pan fydd swyddog awdurdodedig y cyngor o'r farn fod rhwystr o'r fath yn rhesymol angenrheidiol i arbed niwsans, neu i atal ymddygiad gan y ci sy'n debygol o achosi annifyrrwch neu aflonyddwch i rywun arall, neu boeni neu aflonyddu ar unrhyw anifail.

Ni fydd angen i chi roi eich ci ar dennyn os nad yw'n achosi, neu'n debygol o achosi niwsans neu annifyrrwch i eraill, neu boeni neu aflonyddu ar unrhyw anifail.

Gall y cyfarwyddyd gael ei roi gan "swyddog awdurdodedig y cyngor". Mae i hyn ystyr eang, ac mae'n golygu unrhyw un sydd wedi ei awdurdodi yn ysgrifenedig gan y cyngor i roi cyfarwyddyd dan y gorchymyn. Gall hyn gynnwys unigolyn nad yw'n cael ei gyflogi gan y cyngor, er enghraifft gweithiwr i gontractwr neu asiantaeth bartner.

Mae'r cyngor yn sylweddoli bod y mwyafrif helaeth o berchenogion cŵn yn gyfrifol ac yn cadw eu cŵn dan reolaeth pan fyddant ar dir cyhoeddus. Fodd bynnag, os na chânt eu goruchwylio'n briodol a'u cadw dan reolaeth, gall cŵn nad ydynt ar dennyn mewn ardaloedd cyhoeddus achosi damweiniau ffordd, a gallant achosi niwsans i'r cyhoedd ac i anifeiliaid eraill, neu eu hanafu.

Bydd yr hawl i orfodi rhywun i roi ci ar dennyn pan fydd yn achosi niwsans yn rhoi erfyn hyblyg, gweladwy i ni a'n hasiantaethau partner i fynd i'r afael â phroblemau pan fyddant yn codi.

Mae'r cyngor yn cydnabod bod angen i berchenogion cŵn allu ymarfer eu cŵn heb dennyn mewn mannau cyhoeddus, am resymau lles anifeiliaid. Rydym o'r farn fod y gorchymyn hwn yn sicrhau cydbwysedd teg a synhwyrol. Mae'n caniatáu i bobl fynd â'u cŵn am dro heb dennyn mewn mannau cyhoeddus, ond yn rhoi'r grym i ni i ddelio ag unrhyw broblemau wrth iddynt godi, drwy fynnu bod unigolyn yn rhoi ei gi ar dennyn.

Oes. Os gofynnir i chi roi eich ci ar dennyn, rhaid i chi ddefnyddio tennyn nad yw'n fwy na dau fetr o hyd.

Gallwch. Gallwch ddefnyddio tennyn estynadwy, ond ni ddylech ei estyn y tu hwnt i ddau fetr os gofynnir i chi roi eich ci ar dennyn nad yw'n fwy na dau fetr o hyd.

Bydd y rhan hon o'r gorchymyn yn berthnasol i bob man cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin.

Fodd bynnag, gall y perchennog, y preswyliwr neu'r sawl sy'n gyfrifol am fan cyhoeddus roi caniatâd i rywun sy'n gyfrifol am gi beidio â gorfod cydymffurfio â'r gorchymyn ar y tir. Gallant roi'r caniatâd hwn i unigolion, grwpiau o bobl, neu i bawb sy'n defnyddio eu tir. Drwy roi'r caniatâd hwn i bawb, gallant optio allan o'r gorchymyn, ac felly ni fydd yn berthnasol i'r tir.

At y dibenion hyn, ystyr "man cyhoeddus" yw unrhyw fan y mae gan y cyhoedd, neu unrhyw garfan o'r cyhoedd, fynediad iddo, drwy dâl neu fel arall, fel hawl neu yn rhinwedd caniatâd datganedig neu ymhlyg.

Mae hyn yn cynnwys ardaloedd dan do a ddefnyddir gan y cyhoedd.

Bydd y gorchymyn yn gwahardd cŵn o bob man chwarae caeedig, awyr agored i blant yn Sir Gaerfyrddin, a chaiff ei orfodi yn y mannau hynny lle bydd y cyngor wedi gosod arwyddion yn dweud bod cŵn wedi eu gwahardd.

Ystyr man chwarae i blant yw man sydd wedi'i neilltuo er mwyn i blant chwarae ynddo, ac sy'n cynnwys offer chwarae plant fel llithren, siglen, ffrâm ddringo neu gyfarpar chwarae arall tebyg.

Ni fydd y gorchymyn hwn yn berthnasol i safleoedd megis cyrtiau tennis, parciau sglefrio, parciau amrywiol chwaraeon, cyfleusterau chwaraeon, ac ati.

Mae'r rhan hon o'r gorchymyn yn berthnasol i bob man chwarae caeedig i blant yn Sir Gaerfyrddin sydd yn yr awyr agored. Caiff ei gorfodi lle mae arwyddion priodol wedi’u gosod gan y cyngor neu ar ei ran, yn nodi bod cŵn wedi'u gwahardd o'r mannau hynny.

At y dibenion hyn, dylid ystyried bod tir sydd wedi'i orchuddio yn dir sydd "yn yr awyr agored" os yw'n agored ar o leiaf un ochr.

Bydd y gorchymyn yn berthnasol yn unig i fannau chwarae awyr agored i blant sydd wedi'u hamgáu'n llwyr ar bob ochr â ffensys, gatiau, waliau neu adeiladweithiau eraill sy'n nodi ffin y man chwarae. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i unigolion weld maint yr ardal lle na chaniateir cŵn.

Os oes man chwarae i blant yn eich parc lleol, sydd wedi'i wahanu oddi wrth weddill y parc, ni chaniateir cŵn yn y man chwarae sydd y tu mewn i'r ffens. Ni fydd hyn yn eich atal rhag mynd â'r ci i weddill y parc.

Os oes man chwarae nad yw wedi'i amgáu o fewn safle parc mwy, ni fydd y gorchymyn gwahardd yn berthnasol iddo.

Rhoddir rhai enghreifftiau isod. Sylwch fod y testun o dan bob llun yn nodi a fydd y gorchymyn yn berthnasol i'r man chwarae yn y cyflwr a ddangosir yn y llun. Maent wedi'u cynnwys fel enghreifftiau i esbonio beth yw “man chwarae caeedig i blant”, a dangos sefyllfaoedd lle na fydd mannau chwarae o fewn y gorchymyn. Gellir gwneud rhagor o waith ar rai o'r safleoedd a ddangosir yn y lluniau hyn, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gorchymyn.

Enghraifft 1

Dyma fan chwarae caeedig i blant. Mae wedi'i amgáu'n llwyr ar bob ochr ac mae'n cynnwys offer chwarae plant. Bydd y gwaharddiad yn berthnasol i'r man sydd y tu mewn i'r ffens, ond nid i'r parcdir sydd o'i amgylch. 

Enghraifft 2

Dyma fan chwarae caeedig i blant. Mae wedi'i amgáu ar bob ochr ac mae'n cynnwys offer chwarae plant. Bydd y gwaharddiad yn berthnasol i'r man sydd y tu mewn i'r ffens, ond nid i'r parcdir sydd o'i amgylch.

Enghraifft 3

Mae ffensys o amgylch y man chwarae hwn. Fodd bynnag, gan nad oes gât yn y fynedfa, nid yw wedi'i amgáu'n llwyr. Felly, ni fydd y gwaharddiad yn berthnasol iddo oni bai bod gatiau yn cael eu gosod i'w amgáu'n llwyr.

Enghraifft 4

Mae ffensys a gwrychoedd o amgylch y rhan fwyaf o'r man chwarae hwn. Fodd bynnag, gan fod rhannau o'r ffensys ar goll, nid yw wedi'i amgáu'n llwyr. Felly, ni fydd y gwaharddiad yn berthnasol iddo oni bai bod rhagor o gatiau/ffensys yn cael eu gosod i'w amgáu'n llwyr.

Enghraifft 5

Nid yw hwn yn fan chwarae caeedig i blant. Er ei fod yn cynnwys offer chwarae plant, mae'n fan chwarae heb ei amgáu o fewn parc cyffredinol.

Nid yw'r man chwarae wedi'i amgáu ar bob ochr â ffensys, gatiau, waliau neu adeiladweithiau eraill sy'n nodi ffin y man chwarae ac yn ei wahanu oddi wrth weddill y parc. Felly, ni fydd y gwaharddiad yn berthnasol iddo oni bai bod rhagor o waith yn cael ei wneud i amgáu'r man chwarae yn llwyr a'i wahanu oddi wrth weddill y parc.

Enghraifft 6

Nid yw hwn yn fan chwarae caeedig i blant. Mae'n gyfleuster chwaraeon ac nid yw'n cynnwys offer chwarae plant fel y diffinnir yn y gorchymyn. Felly, ni fydd y gwaharddiad yn berthnasol iddo.

Bydd y cyngor yn codi arwyddion clir yn yr holl fannau chwarae lle rydym yn gorfodi'r gorchymyn gwahardd, er mwyn rhoi gwybod i bobl fod cŵn wedi'u gwahardd.

Ni fyddwn yn gorfodi'r gorchymyn mewn mannau chwarae lle nad oes arwyddion o'r fath.

Mae'r cyngor o'r farn y dylai plant fod yn rhydd i chwarae ar yr offer chwarae sydd yn yr ardaloedd hyn heb orfod poeni am sefyll mewn baw ci neu ddod i gysylltiad ag ef. Gall cŵn sydd mewn mannau chwarae i blant hefyd droi'n ymosodol os cânt eu dychryn.

Oes. Ni fydd y gwaharddiad ar gŵn yn berthnasol i gŵn cymorth a ddarparwyd gan elusen gofrestredig.

Os yw'r sawl sy'n gyfrifol am gi yn methu cydymffurfio â gofynion y gorchymyn, byddant yn cyflawni trosedd oni bai:

  • fod ganddynt ganiatâd y perchennog, y preswyliwr neu'r sawl sy'n gyfrifol am y tir, i beidio â chydymffurfio â'r gorchymyn;
  • bod ganddynt esgus rhesymol dros beidio â chydymffurfio; neu
  • fod un o eithriadau eraill y gorchymyn yn berthnasol iddynt, fel yr eithriadau ar gyfer pobl anabl, cŵn cymorth a chŵn gwaith.

Y sawl sydd fel arfer â'r ci yn ei feddiant sy'n cael ei ystyried yn gyfrifol amdano ar unrhyw adeg, oni bai fod rhywun arall yn gyfrifol am y ci ar adeg y drosedd.

Mae hyn yn golygu, os yw eich ci yn baeddu mewn man cyhoeddus neu'n mynd i fan chwarae i blant, mai chi fydd yn gyfrifol amdano, oni bai eich bod yn gallu dangos bod rhywun arall yn gyfrifol amdano ar y pryd. Os ydych chi wedi caniatáu i rywun arall fynd â'ch ci am dro, nhw fydd yn gyfrifol amdano drwy gydol y daith.

Gall rhywun a ddyfernir yn euog o drosedd mewn llys ynadon, o gael collfarn ddiannod, fod yn agored i ddirwy nad yw'n uwch na lefel tri ar raddfa safonol dirwyon y llys (£1,000 ar hyn o bryd).

Gellir. Gellir rhoi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw un sy'n torri'r gorchymyn hwn. Mae hyn yn cynnig iddynt gyfle i osgoi cael eu herlyn drwy dalu cosb benodedig o £100 cyn pen 14 diwrnod.

Yn y mwyafrif o achosion, bydd y cyngor yn rhoi hysbysiad cosb benodedig i'r sawl sy'n torri'r gorchymyn. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn penderfynu erlyn yr unigolyn yn lle hynny, os byddwn o'r farn y byddai hynny'n fwy priodol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn ystyried erlyn yn hytrach na rhoi hysbysiad cosb benodedig os yw'r unigolyn yn ymddwyn yn amhriodol tuag at ein swyddogion gorfodi, neu os yw eisoes wedi derbyn hysbysiad cosb benodedig am ymddygiad tebyg.

Bydd y gosb benodedig yn £100, ac rydym yn caniatáu 14 diwrnod iddi gael ei thalu. Rydym hefyd yn gweithredu cynllun taliad cynnar, sy'n caniatáu i unigolion dalu swm llai, sef £50, cyn pen 10 diwrnod.

Os na fyddwch chi'n talu'r gosb benodedig, mae'n debygol y cewch eich erlyn yn y llys ynadon.

Bydd ein staff wedi eu hawdurdodi i orfodi'r gorchmynion.

Gall Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus gael eu gorfodi gan swyddogion sydd wedi'u hawdurdodi i wneud hynny gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Gall hyn gynnwys unigolyn nad yw'n cael ei gyflogi gan y Cyngor, er enghraifft gweithiwr i gontractwr neu asiantaeth bartner.

Hefyd, gall Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu roi hysbysiadau cosb benodedig.

Llwythwch mwy