Dŵr yfed

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/12/2023

Mae dŵr yfed yn cynnwys y prif gyflenwad dŵr, a hefyd gyflenwadau dŵr preifat. Cyfrifoldeb Dŵr Cymru Welsh Water yw'r prif gyflenwad dŵr.

Rydym yn monitro ansawdd y dŵr o gyflenwadau preifat megis:

  • Ffynhonnau
  • Tyllau turio
  • Nentydd
  • Tarddelli
  • Afonydd

Gallai cyflenwad dŵr preifat wasanaethu un eiddo yn unig, neu gallai fod yn gyflenwad mawr gyda rhwydwaith eang o bibau sy'n cyflenwi dŵr i lawer o eiddo. Er mwyn sicrhau bod dŵr a ddefnyddir yn y cartref ac ar gyfer cynhyrchu bwyd o'r ansawdd uchel angenrheidiol i amddiffyn iechyd cyhoeddus, mae'r Llywodraeth wedi pennu safonau ansawdd cyfreithiol ar gyfer yr holl ddŵr a ddefnyddir i yfed, golchi a choginio, neu a ddefnyddir mewn busnesau sy'n cynhyrchu bwyd neu ddiod. Yr un safonau yw'r rhain ag a bennir ar gyfer y prif gyflenwad dŵr.

Mae Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017 yn gosod dyletswydd arnom ni i samplo ac asesu risgiau pob cyflenwad dŵr preifat yn ein hardal o fewn 5 mlynedd, ac eithrio cyflenwadau sy'n gwasanaethu un breswylfa yn unig. Pennir amlder y samplo a'r asesu risg yn y rheoliadau.

Taliadau

Mae'r ddeddfwriaeth wedi cyflwyno system o godi tâl am fonitro cyflenwadau dŵr preifat. Yn Sir Gaerfyrddin, mae'r taliadau isod ar gyfer samplo a dadansoddi cyflenwad dŵr preifat, asesu risg ac ymchwilio.

Math o gyflenwad Asesiad risg Ymweliad Gwirio sampl Cyfanswm: Ymweliad a'r samplo
Cyflenwadau mawr/masnachol Cyfradd yr awr £75 £100 £65 + £15.24 am sampl microfioleg £180.24 + TAW
Cyflenwadau bach Cyfradd yr awr £75 £75 £25 £100 + TAW
Cyflenwadau domestig sengl Cyfradd yr awr £75 – ar gais yn unig £50 £25 £75 + TAW

Gellir gwneud cais am samplo a dadansoddi cyflenwadau nad ydynt yn cael eu cwmpasu gan y rheoliadau, a bydd yr un taliadau'n berthnasol.