Cŵn strae a chŵn sydd ar goll

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/02/2024

Mae ein wardeiniaid cŵn yn gyfrifol am ddal cŵn strae, ac yn aml gwnânt hynny o ganlyniad i alwadau gan y cyhoedd neu wrth fod ar batrôl yn y sir. Bydd cŵn strae yn cael eu cadw mewn cynelau a'u harchwilio gan filfeddyg os bydd angen.

Caiff cŵn sy'n gwisgo coleri a thagiau mewn lleoedd cyhoeddus, sy'n rheidrwydd cyfreithiol o dan Orchymyn Rheoli Cŵn 1992, eu dychwelyd i'w perchnogion yn rhad ac am ddim am y tro cyntaf yn unig os yw'r warden cŵn yn dod o hyd i'r ci a bod modd cysylltu â'r perchennog ar unwaith. Os ydym yn methu â chysylltu â pherchennog y ci, caiff y ci ei locio a bydd ffi ryddhau mewn grym.

Os bydd eich ci wedi cael ei ddal, bydd yn cael ei gadw yn Tegfan Kennels, Heol Abergorlech, Llansawel, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 7LX, 01558 685599 (oriau agor - 9am tan 5pm, saith diwrnod yr wythnos).

Cysylltwch â ni neu ffoniwch y cynelau'n uniongyrchol a fydd yn rhoi gwybod ichi a yw eich ci wedi cael ei locio. £80.00 am y diwrnod cyntaf, neu ran o ddiwrnod, o gronni a £ 15.00 y dydd ar ôl hynny.

Gwneud taliad:

  • Talu dros y ffôn: 01267 234567
  • Talu'n bersonol: Ymweld ag un o'n desgiau arian yn eich Hwb lleol

Pan fyddwch wedi talu, byddwch yn cael derbynneb y mae'n rhaid ei chyflwyno yn y cynelau pan fyddwch yn casglu eich ci. Rhaid i'r ci gael ei gasglu erbyn 5pm. Ar ôl saith diwrnod clir, ceisir dod o hyd i gartref newydd ar gyfer cŵn sydd heb gael eu hawlio. Mae gennym bolisi i beidio â dinistrio'r cŵn.

Mae nifer o gamau syml y gallwch chi eu cymryd er mwyn sicrhau os yw eich ci ar goll y bydd yn cael ei ddychwelyd ichi gyda chyn lleied o oedi a chyn lleied o drawma â phosibl. Sicrhewch fod gan eich ci labed enw sy'n dangos eich cyfeiriad a'ch rhif ffôn. Mae hyn yn rheidrwydd cyfreithiol - Deddf Rheoli Cŵn 1992.

Bellach mae’n ofynnol yn gyfreithiol yn unol â Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015 ichi sicrhau bod microsglodyn gan eich ci.

Caiff sglodyn maint darn o reis ei osod dan groen y ci. Mae’r sglodyn yn cario rhif gwybodaeth arbennig sy’n ei gysylltu â manylion y perchennog.

Mae sganwyr gan wardeiniaid cŵn, milfeddygon, cenelau ac eraill. Os bydd y ci’n mynd ar goll, gellir ei sganio a chysylltu â’r perchennog yn syth. Rhaid i gŵn bod yn 12 wythnos oed neu mwy ac wedi eu brechu yn llawn.

Os ydych chi'n poeni am gi strae neu ar goll yn eich ardal chi, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib.

Rhoi gwybod am gi strae neu ar goll