Dioddefodd Caerfyrddin o lifogydd afonol mawr a digwyddiad llanwol ar yr un pryd. Cafwyd llifogydd helaeth i ddyfnder o 1.5 metr a chafwyd llifogydd yn yr orsaf reilffordd am y tro cyntaf.

Cafwyd llifogydd trwm y credir iddynt fod yn debyg i’r digwyddiad yn 1987.  Gwelwyd dyfnderoedd dŵr llifogydd o 3-metr ym Mhen-sarn.

Aeth llifogydd dros ben wal llifogydd Pen-sarn yng Nghaerfyrddin. Cafodd tai preifat ac eiddo busnes ar ddwy ochr Heol Pen-sarn lifogydd. Cafwyd llifogydd mewn eiddo busnes a thai preswyl ar hyd Hen Heol Llangynnwr. Cafwyd llifogydd yn adeiladau’r Swyddfa Bost a busnesau eraill ar hyd Heol yr Orsaf a Ffordd Steffan.

Aeth llifogydd dros ben wal llifogydd Pen-sarn unwaith eto. Credir fod dyfnder y llifogydd tua 0.17 metr yn is nag yn 1979. Cafwyd llifogydd a difrod helaeth i eiddo ar hyd Hen Heol yr Orsaf (6 eiddo), Hen Heol Llangynnwr (14 eiddo), Pen-sarn (13 eiddo), Cei Caerfyrddin (4 eiddo) a Heol yr Orsaf (4 eiddo). Amcangyfrifwyd fod cyfanswm o 41 eiddo wedi dioddef llifogydd yn ystod y digwyddiad hwn.

Yn Hydref 1987 cafwyd y llifogydd gwaethaf a gofnodwyd erioed. Aeth dŵr dros y waliau llifogydd am tua 15 awr gan gyrraedd uchder o tua 0.23 metr uwchben y wal a dioddefodd tua 65 eiddo lifogydd ym Mhen-sarn.

Llifogydd arwyddocaol yn nalgylch Afon Tywi ac ardaloedd yng Nghaerfyrddin ac Abergwili oedd ymhlith y gwaethaf a effeithiwyd.

Ym mis Hydref 2004 cafwyd y digwyddiad llifogydd uchaf a gofnodwyd erioed ers codi’r amddiffynfeydd llifogydd ym Mhen-sarn. Rhwystrodd hynny lifogydd o Afon Tywi, ond cafodd dŵr wyneb ei ddal tua’r tir ac nid oedd unman iddo fynd. Arweiniodd hynny at lifogydd dŵr wyneb ar Heol Pen-sarn a Ffordd Steffan.

Effeithiodd llifogydd o’r môr ar tua 11 eiddo yn Nhalacharn, a dioddefodd 30-40 carafán lifogydd mewn parc carafanau ym Mae Caerfyrddin.

Cafwyd llifogydd ym mhentref Llanddowror o Afon Hydfron, is-afon i Afon Taf. Cafodd tua 30 eiddo eu heffeithio gan y digwyddiad.

Roedd llifogydd arwyddocaol yn Llanelli yn cynnwys Llangennech, Bynea a Throstre.

Ar 4 Tachwedd 2012 bu’n rhaid achub naw oedolyn a chwe phlentyn o garafán ym Mhentywyn. Cafodd tua 60 carafán eu hamgylchynu gan ddŵr. Defnyddiodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gwch wrth wneud eu gwaith. Symudwyd tua 40 arall gan berchnogion y parc a chafodd pawb a effeithiwyd eu hailgartrefu mewn carafanau eraill ar dir uwch.

Ar y 24ain Rhagfyr 2012 derbyniwyd 80 galwad ynghylch llifogydd rhwng 8:00am a 7pm ar y dydd Sadwrn ac roedd dros 95% o’r galwadau o ardal Llanelli. Dywedodd y Rheolwr Gweithrediadau yn CSC mai’r ‘llifogydd ar hyd heol fynediad Parc Siopa Trostre oedd y gwaethaf a welais yn y 6 blynedd diwethaf ac roedd yn amhosib cael mynediad i’r maes parcio gorllewinol’.

Ar y 25ain Ionawr 2013 achosodd glaw trwm ar brynhawn a nos Wener a’r tymheredd yn codi i’r eira doddi’n gynt na’r disgwyl ac arweiniodd hynny at lifogydd mewn sawl man. Cydweli gafodd ei heffeithio waethaf a dioddefodd eiddo ar Heol Newydd a Heol Ddŵr lifogydd tu fewn.

Bu Storm St Judes yn chwalu arfordir de Lloegr ac achosodd St Jude anrhefn ar draws sawl rhan o Ewrop. Bu pedwar person farw wedi i’r storm gyrraedd Prydain, a chollodd 625,000 o gartrefi eu trydan, a chafodd trenau ac awyrennau eu canslo.

Symudwyd miloedd o bobl o’u cartrefi a chafodd arfordir dwyrain Lloegr yr ymchwydd llanwol gwaethaf mewn 60 mlynedd. Rhagfyr 2013 oedd y mis mwyaf stormus er 1969.

Arweiniodd y cyfuniad o lanwau uchel, gwyntoedd cryfion a thonnau mawr at amgylchiadau a barodd y llifogydd môr gwaethaf ar hyd yr arfordir ers dros 15 mlynedd. Effeithiwyd eiddo ar hyd yr arfordir, ond yn enwedig felly yn Llangennech, Llansteffan, Cei Caerfyrddin, Talacharn. Ym Mae Caerfyrddin effeithiwyd ar tua 70 o garafanau.

Ar 24-27 Ionawr 2014, arweiniodd llifogydd ar wastadeddau Gwlad yr Haf at gyhoeddi digwyddiad mawr.

Ar y 8fed Hydref 2014 arweiniodd dibwysiant dros Fôr Iwerydd a llanwau uchel at lifogydd arfordirol ar hyd Sir Gaerfyrddin. Cofnodwyd tonnau yn torri dros wal y môr ym Mhentywyn.

Ar y 30ain Rhagfyr 2015 cafodd y timau y tu allan i’r oriau arferol wybod am tua 80 o ddigwyddiadau tywydd gan gynnwys llifogydd mewn eiddo ac ar y briffordd a chafnau wedi blocio. Dilynwyd hynny ar yr 31ain Rhagfyr gan 40 digwyddiad arall.

Ar y 3ydd Ionawr 2016 penllanw wythnos o dywydd gwael oedd 45 o ddigwyddiadau tywydd eraill. Dioddefodd tai a busnesau yn ardal Llanelli lifogydd a chafodd priffyrdd eu cau.

Ar y 1af Awst 2016 a thrwy’r nos cafodd ardal Llanelli lifogydd o bwys. Eiddo ar hyd Heol y Sandy a Heol y Traeth ddioddefodd fwyaf, ynghyd â thai yn Glyncoed Terrace, Halfway, Dafen, Llanelli.

Daeth y cyn gorwynt Ophelia â gwyntoedd cryfion o 70-80mya i’n harfordiroedd. Achoswyd y difrod disgwyliedig yn Sir Gaerfyrddin ond cafodd tri pherson yn Iwerddon eu lladd gan goeden yn syrthio.

Gwelodd Storm Callum y lefelau afonydd a gafodd eu hailgodio uchaf ers 1987. Cafwyd cryn lifogydd ym Mhen-sarn ac aeth dŵr dros wal lifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn Llangynnwr yng Nghaerfyrddin, a chafwyd llifogydd hyd at ddyfnderoedd o fwy na 1.5-metr mewn adeiladau busnes.

Dioddefodd dros 80 o adeiladau masnachol a phreswyl lifogydd mewnol a chafodd 100oedd lifogydd allanol. Cafodd y seilwaith trafnidiaeth ei effeithio’n sylweddol yn nyffrynnoedd Tywi a Theifi a thrwy Dref Caerfyrddin, ac yn drist iawn bu farw un dyn mewn tirlithriad ar yr A484 yng Nghwmduad. 

 

Ar y 8fed Chwefror 2019 daeth Storm Erik â glaw trwm a gwyntoedd cryfion i Sir Gaerfyrddin a’r de-orllewin. Er y cafwyd marwolaethau yn Nyfnaint a Gorllewin Cymru oherwydd coed yn syrthio, dyrnaid yn unig o ddigwyddiadau y cafwyd gwybod amdanynt yn Sir Gaerfyrddin.

3-4 Mawrth 2019 daeth Storm Freya â choed i lawr ledled y sir a chafwyd dwsin o alwadau brys i Priffyrdd.

Daeth Storm Hannah â glaw a gwynt trwm a chafwyd rhybudd tywydd coch prin ar gyfer de orllewin Iwerddon. Collodd 1000oedd o gartrefi eu cyflenwad trydan, ond ni chafwyd unrhyw effeithiau difrifol yn Sir Gaerfyrddin.

Ildiodd Llwybr Arfordir Cymru ym Morfa Bucas, Llanelli i effeithiau erydu arfordirol o’r diwedd. Er y gellid ei gerdded yn ofalus o hyd, cafodd ei ddifrodi y tu hwnt i’w atgyweirio a phenderfynwyd ailgyfeirio’r llwybr i mewn o’r arfordir.

Bron flwyddyn i’r diwrnod wedi Storm Callum, parodd glaw trwm i Afon Teifi orlifo’i glannau eto. Cyhoeddwyd rhybudd oren gan y Swyddfa Dywydd a symudwyd pobl o’u cartrefi yn Llanybydder a Phont-tyweli. Daeth yr afon o fewn modfeddi i achosi digwyddiad llifogydd sylweddol arall, ond yn ffodus gostyngodd lefelau’r dŵr mewn pryd i osgoi cyrraedd y trothwy hwnnw.

Storm Atiyah.

Ar y 13eg Ionawr 2020, Storm Brendan.

Ar y 8fed Chwefror 2020, Storm Ciara

Ar y 15fed Chwefror 2020, Storm Dennis oedd y digwyddiad llifogydd mwyaf i effeithio Cymru ers llifogydd Rhagfyr 1979. Effeithiwyd sawl lleoliad ar draws de-orllewin Cymru, a chafodd 63 eu heffeithio gan lifogydd yn Sir Gaerfyrddin ac achoswyd cryn anawsterau yn

Ar y 28ain Chwefror 2020 Storm Jorge.

Ar y 19eg Awst 2020, Storm Ellen. 

Ar y 25ain Awst 2020, Storm Francis. 

Y 26-27ain Rhagfyr 2020, Storm Bella

Adroddiad y Swyddfa Dywydd yma 

Ar y 19eg Ionawr 2021, gwelodd Storm Christoph lefel yr afon ar Afon Tywi yn disgyn cyn i Bensarn gael ei foddi. Nid oedd dŵr wyneb yn gallu dianc a llifodd yr afon drwy’r systemau draenio i Ben-sarn lle y cafwyd llifogydd ar yr heol ac i fusnesau. Dioddefodd 150 eiddo lifogydd ar draws Cymru, gan gynnwys cymunedau a phentrefi anghysbell ar draws de orllewin Cymru. 

Adroddiad y Swyddfa Dywydd yma 

Ar y 19eg Chwefror 2021 rhybudd Oren – rhoddwyd y protocolau cynllunio brys llawn ar waith.

Yn ystod 2 achos o lifogydd yng Nghydweli ym mis Hydref 2021, dioddefodd 41 o anheddau preswyl a 7 busnes lifogydd mewnol. Mae ymchwiliad llawn i'r digwyddiad hwn ar gael.

ADRODDIAD YMCHWILIAD I LIFOGYDD CYDWELI

Ar y 26ain Tachwedd 2021, Storm Anwen. Rhybudd gwyntoedd coch i ogledd-ddwyrain Lloegr.

 

 

Ar y 7fed Rhagfyr 2021 Gwynt Storm Barra?

Adroddiad y Swyddfa Dywydd yma

Ar y 29ain Ionawr 2022 Cyrhaeddodd Storm Malik a Corrie gefn wrth gefn ond ni chafwyd unrhyw effeithiau o bwys yn Sir Gaerfyrddin gan y daeth y storm hon o Fôr y Gogledd, ond roedd y Swyddfa Dywydd yn ei rhoi yn y deg storm waethaf i fwrw gwledydd Prydain.

Adroddiad y Swyddfa Dywydd yma

Ar y 16eg Chwefror 2022 Cyrhaeddodd Storm Dudley, Eunice a Franklin o fewn wythnos i’w gilydd a chyhoeddwyd dau rybudd coch prin ar gyfer gwynt, ond nid yn Sir Gaerfyrddin. Arweiniodd y rhybudd oren am wynt at ddwsin o ddigwyddiadau FCERM, a chafodd Storm Eunice effaith fawr ar y tywydd.

Bu farw pedwar person yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon oherwydd coed yn cwympo. Gadawyd dros filiwn o gartrefi heb drydan wrth i wyntoedd cryfion gwympo coed, ac aeth y toriadau trydan ymlaen am sawl diwrnod. Caewyd ysgolion a busnesau ledled Cymru a chafwyd anawsterau mawr gyda thrafnidiaeth, wrth i drenau gael eu canslo, a heolydd yn cael eu cau gan goed yn cwympo a dymchwelodd nifer o lorïau ar yr M4. Cafodd cannoedd o hediadau eu canslo yng ngwledydd Prydain a chafodd llawer o awyrennau anhawster i lanio yn y gwyntoedd cryfion.

Adroddiad y Swyddfa Dywydd yma 

Roedd 2022 yn flwyddyn gymharol dawel, a dim ond 114 o ddigwyddiadau FCERM a gofnodwyd, ac roedd 34 o’r rheiny yn ddigwyddiadau llifogydd mewn eiddo.

Ar y 18fed Hydref 2023, daeth Storm Babet â llifogydd difrifol i’r Alban a Gogledd Lloegr ond arbedwyd Sir Gaerfyrddin. Hwn oedd y trydydd cyfnod 3 diwrnod gwlypaf a gofnodwyd erioed, a dywedwyd y bu o leiaf saith person farw oherwydd y storm. Yn Yr Alban, dioddefodd cannoedd o gartrefi a busnesau lifogydd, a dywedwyd y cafodd dros 1000 o gartrefi yn Lloegr eu heffeithio gan lifogydd hefyd a chafodd 500 o dai yn Retford (Swydd Nottingham) eu gwagio.

Adroddiad y Swyddfa Dywydd yma

Tachwedd 2023, Storm Ciaran a Debi – cafwyd problemau sylweddol yn Sir Gaerfyrddin am hyd at 5 diwrnod cyn y stormydd hyn ac am y dyddiau wedyn. Cafwyd llifogydd mewn 28 o dai preifat a 3 adeilad masnachol. Cymunedau Cydweli, Glanyfferi, Talacharn, Pontyberem a Bronwydd gafodd eu bwrw waethaf.


Adroddiad y Swyddfa Dywydd yma

Rhagfyr 2023 arweiniodd Stormydd Elin a Fergus at fân ddigwyddiadau yn unig yn Sir Gaerfyrddin a chofnodwyd dwsin o ddigwyddiadau llifogydd gan y tîm FCERM.

Adroddiad y Swyddfa Dywydd yma

Rhagfyr 2023 ac Ionawr 2024 Storm Gerret a Storm Henk
Cafwyd llifogydd arwyddocaol yn Sir Gaerfyrddin wedi Storm Gerret ar 30 Rhagfyr yn dilyn pythefnos gwlyb iawn. Cafwyd 9.7mm o law mewn un awr a chyfanswm glawiad o 16mm mewn 4 awr y prynhawn hwnnw.

Ar 2ail Ionawr 2024 cynhyrchodd Storm Henk storm bron yn union yr unfath.
Dioddefodd cymunedau Glanyfferi a Llansteffan waethaf a chafodd dros 30 annedd lifogydd yn Llansteffan.

Llwythwch mwy