Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/04/2024

Mae adeiladau hanesyddol Sir Gaerfyrddin yn adrodd rhai o straeon pwysicaf ein sir. O Drefi Rhufeinig i Derfysgoedd Rebecca, o neuaddau marchnad hanesyddol, tafarndai a ffermydd i blastai mawreddog a chestyll, mae gan Sir Gaerfyrddin y cyfan. Mae ein hadeiladau hanesyddol yn bwysig gan eu bod yn darparu budd economaidd, diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol i Sir Gaerfyrddin.

Rydym yn rhoi cyngor arbenigol ynghylch gofalu am yr holl adeiladau hanesyddol yn y Sir, gan gynnwys 1,800 o strwythurau rhestredig a 28 o Ardaloedd Cadwraeth. Ein cyfrifoldeb ni, ynghyd â pherchnogion a gofalwyr yr adeiladau hanesyddol, yw helpu i warchod yr asedau gwerthfawr hyn, a chadw treftadaeth adeiledig ryfeddol gorllewin Cymru ar ein cyfer ni a chenedlaethau'r dyfodol.

Rydym yn gobeithio y bydd y gwe-dudalennau canlynol yn ateb eich cwestiynau ynghylch treftadaeth adeiledig Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys: y broses ganiatâd ar gyfer Adeiladau Rhestredig; gweithgareddau a fyddai'n cael eu cefnogi mewn Ardal Gadwraeth; cynnal ac atgyweirio adeiladau hanesyddol; a lle i gael rhagor o wybodaeth a hyfforddiant.

Os hoffech wirio a oes angen Caniatâd Adeilad Rhestredig cyn dechrau unrhyw waith, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio. Rhowch gymaint o fanylion am eich cynnig/cynigion ag y gallwch, gan gynnwys y lleoliad, unrhyw luniau a lluniadau (os oes gennych rai), i'r Tîm Treftadaeth Adeiledig.

Os oes angen i chi gael gwybod a yw eich eiddo mewn Ardal Gadwraeth, ac a oes angen Caniatâd Cynllunio arnoch i wneud y newidiadau rydych chi'n eu hystyried ai peidio, yna edrychwch ar y tudalennau Ardal Gadwraeth ar y wefan hon. (hyperddolen)

Gall y Tîm Treftadaeth Adeiledig yng Nghanolfan Tywi eich helpu drwy roi rhagor o wybodaeth. Cysylltwch â Chanolfan Tywi drwy anfon e-bost at canolfantywicentre@sirgar.gov.uk neu drwy ffonio 01558 824271 os oes gennych ddiddordeb mewn:

  • Beth yw atgyweiriad, gwaith cynnal a chadw, deunyddiau priodol ar gyfer adeiladau hanesyddol.
  • Sut i ddod o hyd i'r bobl a'r wybodaeth iawn i'ch cynorthwyo i gyflawni prosiect ar adeilad hanesyddol.
  • Gwneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig. Rydym yn cynnal cwrs rheolaidd o'r enw 'Caniatâd Adeilad Rhestredig: Gwneud Cais'