Canllaw Cais Cynllunio

Compliance / Enforcement

Gorfodi

Mae gennym dudalen we bwrpasol ar gyfer Achosion o Dorri Rheolau Cynllunio sy'n cynnwys yr holl wybodaeth a ffurflen ar-lein er mwyn i chi roi gwybod am unrhyw achosion o dorri rheolau cynllunio.

RHOI GWYBOD AM ACHOS O DORRI RHEOLAU


Cwestiynau Cyffredin ynghylch Gorfodi

Os ydych yn amau bod rhywun yn adeiladu, yn gwneud newidiadau, neu'n defnyddio tir neu adeiladau heb ganiatâd cynllunio:

RHOWCH WYBOD AM ACHOS O DORRI RHEOLAU

Nid oes angen caniatâd cynllunio arnoch i adeiladu ffens, wal neu gât ar yr amod nad yw'n fwy nag 1 metr o uchder os yw wrth ymyl priffordd a ddefnyddir gan gerbydau, neu 2 fetr o uchder mewn mannau eraill. Nid oes angen caniatâd cynllunio arnoch fel arfer i blannu gwrych oni bai bod amod cynllunio penodol yn effeithio ar eich eiddo a osodir ar ganiatâd cynllunio, ac os felly gallwch wneud cais i gael gwared ar yr amod.

Os ydych yn byw mewn ardal gadwraeth, neu os yw'r eiddo yn rhestredig neu os oes unrhyw amodau cynllunio'n effeithio arno dylech anfon neges e-bost atom planning@sirgar.gov.uk.

Mae'r holl gwynion a wneir i ni am faterion gorfodi rheolau cynllunio yn gyfrinachol ac nid ydynt yn cael eu datgelu i wrthrych y gŵyn. Mewn rhai amgylchiadau, fodd bynnag, efallai y caiff eich manylion eu datgelu i adrannau eraill y Cyngor (er enghraifft Diogelu'r Amgylchedd, Rheoli Adeiladu, Priffyrdd) os oes ganddynt bwerau i helpu i ymchwilio i'ch cwyn. Os gwneir cwyn am achos sy'n mynd cyn belled ag apêl neu erlyniad, efallai y bydd angen tystiolaeth wrthych i gynyddu'r siawns o gael canlyniad cadarnhaol, ond byddai'n rhaid cysylltu â chi am hyn ymlaen llaw i'ch galluogi i ystyried eich sefyllfa.

Ni ymchwilir i gwynion dienw fel arfer oni ystyrir y gellir arwain at niwed cynllunio difrifol. Mae hyn er mwyn sicrhau nad yw adnoddau cyhoeddus yn cael eu gwario'n ddiangen ar ymchwilio i geisiadau gwasanaeth ffug neu faleisus. Mae'n bwysig hefyd, pe bai angen cymryd camau cyfreithiol mewn perthynas â chwyn, y gall y Cyngor ddatgan yn y llys bod y mater wedi'i adrodd gan breswylydd lleol.

Sylwch y gall materion gorfodi gymryd cryn dipyn o amser i'w datrys oherwydd y weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn a nifer yr achosion rydym yn eu derbyn.

Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi i'r achwynydd yn rheolaidd drwy e-bost neu lythyr pan wneir penderfyniad allweddol.

Gellir gweld y wybodaeth lawn am y broses yma:

Datganiad gorfodi

Rydym yn blaenoriaethu pob achos yn seiliedig ar natur y mater fel y nodir yn ein datganiad Gorfodi. Ein nod yw ymweld â'r safle o fewn y terfynau amser a bennwyd.

Mae angen blaenoriaethu cwynion o ran effaith a niwed. Felly, bydd yr achosion mwyaf brys yn cael sylw yn gyntaf. Ar ôl canfod bod rheol wedi'i thorri neu heb ei thorri, bydd y swyddog gorfodi sy'n delio â'r achos yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost. Bydd y tîm gorfodi yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad unrhyw gamau gweithredu pan fydd yr ymchwiliad wedi'i gwblhau. Dim ond pan fydd penderfyniad allweddol yn cael ei wneud y cewch eich diweddaru o bryd i'w gilydd drwy e-bost neu lythyr.

Dylid cofio nad yw cyflawni datblygiad heb ganiatâd cynllunio yn drosedd a gall gymryd amser sylweddol i unioni achos o dorri rheolau cynllunio. Fodd bynnag, bydd y tîm gorfodi yn ceisio datrys achosion o dorri rheolau cynllunio mor hwylus â phosibl o fewn cyfyngiadau'r ddeddfwriaeth bresennol.

Gallwch weld y broses ar gyfer cwyn ynghylch mater gorfodi ar y dudalen we ganlynol:

Datganiad gorfodi

Ystyrir bod y wybodaeth a gyflwynir i ni sy'n rhan o gŵyn yn ddata personol, sydd felly wedi'i heithrio o ddarpariaethau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (fel y'i diwygiwyd) ac nid oes yn rhaid i ni ei datgelu. Yr unig fanylion a ddatgelir yw natur y gŵyn a wneir, h.y. wal wedi'i hadeiladu heb ganiatâd cynllunio.

Gall ein Hadain Rheoli Adeiladu roi Cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu ar gyfer datblygiad os yw'n cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu. NID yw hwn yn rhoi Caniatâd Cynllunio. Mae rheoliadau adeiladu a chaniatâd cynllunio yn faterion cwbl ar wahân ac yn cael eu rheoli gan ddeddfwriaeth hollol wahanol. Mewn llawer o achosion, bydd hefyd angen caniatâd cynllunio a byddai angen gwneud cais amdano ar wahân.

Mae hawl i apelio yn erbyn y rhan fwyaf hysbysiadau gorfodi cynllunio ac mae hyn, yn ogystal â'r gwaith y mae ei angen i ymchwilio'n briodol i rai achosion, yn golygu y gall y broses o ddatrys achos o dorri rheolau cynllunio gymryd amser hir. Rydym yn cydnabod pa mor rhwystredig y gall yr oedi hwn fod a byddwn yn ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i achwynwyr yn y cyfnodau allweddol ond mae'n bwysig deall bod angen i ni fynd drwy weithdrefnau a gofynion y system gyfreithiol ar gyfer cynllunio.

Ewch i'r dudalen ganlynol:

torri rheolau cynllunio 

Ewch i'n tudalen benodol i gael y wybodaeth lawn:

Datganiad gorfodi

 

Yn y rhan fwyaf o achosion byddwn yn ceisio datrys yr achos o dorri rheolau drwy drafodaeth gan fod yn rhaid i ni roi cyfle rhesymol i berchnogion tir 'unioni' y sefyllfa.

Pan fydd trafodaethau wedi methu neu os nad yw trafod yn opsiwn, mae'n rhaid i ni ystyried a oes angen cymryd camau ffurfiol yn fanteisiol er budd ehangach y cyhoedd.

Mae Gorfodi Rheolau Cynllunio yn bŵer disgresiwn y byddwn ond yn ei ddefnyddio os gallwn ddangos bod yr achos o dorri rheolau yn achosi niwed difrifol i amwynder cyhoeddus neu'r amgylchedd. Bydd y camau a gymerir yn dibynnu ar ddifrifoldeb y niwed.

Mae'n bwysig nodi na fydd pob achos o dorri rheolau cynllunio yn arwain at gymryd camau gorfodi, yn enwedig os nad oes tystiolaeth gadarn bod yr achos o dorri rheolau yn 'niweidio' amwynder cyhoeddus neu'r amgylchedd.

Gellir gweld y wybodaeth lawn ar ein tudalen benodol:

Datganiad gorfodi

Mae'n rhaid cymryd camau gorfodi o fewn 4 blynedd mewn perthynas â datblygiad gweithredol megis codi adeiladau, ac o fewn 10 mlynedd mewn perthynas â newidiadau i'r defnydd (oni bai ei fod yn ymwneud â newid defnydd i fod yn breswylfa), a thorri amodau. Nid oes terfyn amser ar gyfer gorfodi mewn perthynas â thorri deddfwriaeth adeilad rhestredig.

Gellir gweld y wybodaeth lawn ar ein tudalen benodol:

Datganiad gorfodi

Llwythwch mwy