Gofal cymdeithasol
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/08/2023
Mae'r Tîm Cymorth Cynnar yn rhoi cymorth i blant/pobl ifanc ag anableddau/awtistiaeth a'u teuluoedd. Rydym yn cynnig gwasanaeth ymyrraeth gynnar yn y tymor byr, a'n nod yw cynorthwyo plant/pobl ifanc a'u teuluoedd i oresgyn heriau a chyflawni eu potensial.
Pwy maent yn helpu
- Pobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin
- Rhaid i chi fod rhwng 0 a 25 oed
- Rhiant/gofalwr rhywun sydd rhwng 0 a 25 oed
- Plant/pobl ifanc ag anableddau/awtistiaeth (wedi cael diagnosis neu heb gael diagnosis) a'u teuluoedd
Beth maent yn gallu ei gynnig
- Cynllun cymorth y byddwn yn ei ddatblygu gyda'n gilydd ac yn ei adolygu yn ôl yr angen
- Cymorth pwrpasol o ran anghenion synhwyraidd, cydnerthedd, dulliau ymarferol o reoli ymddygiad a gorbryder.
- Gallwn eich helpu i gamu ymlaen i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant
- Gallwn eich helpu chi a'ch teulu i nodi gweithgareddau, cymorth a gwasanaethau perthnasol yn y gymuned a fydd yn eich galluogi i gyflawni eich nodau.
- Gallwn eich helpu i ddeall mwy am eich anabledd/awtistiaeth.
Mae’r Tîm Camau Bach yn rhan o'r Tîm Cymorth Cynnar ac mae'n gallu cynnig cymorth yn y tymor byr i rieni sydd â phlentyn anabl rhwng 0 ac 16 oed.
Gall hyn gynnwys cymorth gyda chyfathrebu, cysgu, gallu dal dŵr, ymddygiad, deiet, chwarae, datblygiad plant a chymorth i frodyr a chwiorydd. Maent yn cynnig:
- Cymorth yn y cartref.
- Cymorth Cyn-ysgol
- Gweithdai Anableddau.
- Cymorth grŵp i rai rhwng 0 ac 16 oed; megis boreau coffi, Gweithdai Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol a grwpiau cymorth i blant ac ati.
Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Anabledd - Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin
Rhif Ffôn – 01267 246673
Cyfeiriad e-bost: disabilityreferrals@sirgar.gov.uk
Tîm Anableddau 0-25
Mae Plant Dewi yn sefydliad sy'n rhoi cymorth i deuluoedd sydd â phlant rhwng 0 ac 11 oed. Maent yn cynnig cymorth i rieni, cyrsiau rhianta, gwybodaeth ynghylch ffordd iach o fyw a gweithgareddau diogelwch yn y cartref, ac yn meithrin hyder.
Rhif ffôn: 01267 221551
Mwy ynghylch Cynnig Lleol