Amser i mi - Cefnogaeth ariannol

Diweddarwyd y dudalen ar: 21/02/2024

Fel gofalwr di-dâl i oedolyn, rydych yn gymwys i dderbyn 18 awr o gymorth am ddim a ddarperir gan wasanaeth gofal / cymorth lleol, annibynnol (rhan o gyfeiriadur y prosiect Catalydd Gofal).

Pwrpas y cymorth hwn yw rhoi seibiant i'r gofalwr ond rhoi cyfle i'r sawl sy'n derbyn y gofal i ailymgysylltu â'r gymuned leol gyda chymorth microfenter.

Rydym yn deall y gall 'seibiant' olygu gwahanol bethau yn dibynnu ar ddymuniadau, anghenion ac amgylchiadau unigolyn. Felly, nod y grant hwn yw darparu cyfle am seibiant byr wedi'i deilwra i gefnogi anghenion y Gofalwr a'r unigolyn y mae'n gofalu amdano.

Mae'r grantiau hyn wedi bod yn boblogaidd iawn a nifer cyfyngedig sydd ar gael.

i gael rhagor o wybodaeth ac I wneud cais

Cyfeiriadur Mentrau Gofal a Chymorth yn Sir Gaerfyrddin ‘Catalyddion Gofal’