Côd Cefn Gwlad

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

Parchwch bobl eraill

  • Meddyliwch am gymuned yr ardal ac am y bobl eraill sy’n mwynhau’r awyr agored
  • Gadewch glwydi ac eiddo fel yr oedden nhw ac arhoswch ar y llwybrau oni bai fod mynediad agored ar gael

Diogelwch yr amgylchedd naturiol 

  • Peidiwch â gadael unrhyw arwydd eich bod wedi bod yno, ac ewch â’ch sbwriel gyda chi
  • Cadwch gŵn dan reolaeth effeithiol

Mwynhewch a gwnewch yn siŵr eich bod yn saff

  • Cynlluniwch eich taith a byddwch yn barod am unrhyw beth annisgwyl
  • Dilynwch y cyngor a’r arwyddion lleol

Yn ogystal â'r Côd Cefn Gwlad, dyma rai canllawiau pwysig y dylech bob amser eu cofio pan fyddwch yn mynd i gerdded:

  • Cofiwch wisgo esgidiau cadarn neu esgidiau cerdded a dillad addas.
  • Os ydych yn cerdded ar eich pen eich hun rhowch wybod i rywun i ble rydych yn mynd a thua phryd y byddwch yn dod yn ôl.
  • Edrychwch ar ragolygon y tywydd cyn mynd i gerdded llwybrau ar dir uchel.
  • Cofiwch fynd â bwyd a diod gyda chi os ydych yn mynd ar daith hir.
  • Os ydych yn cerdded ar dir uchel ewch â chwmpawd, chwiban, bag goroesi, 2 bryd bwyd, tortsh.