Parod yn Ariannol

Diweddarwyd y dudalen ar: 05/09/2023

Credyd Cynhwysol yw’r budd-dal y mae gan y rhan fwyaf o bobl hawl iddo bellach. Fodd bynnag, os oes gennych gais cyfredol am Fudd-dal Tai gyda Chyngor Sir Caerfyrddin, efallai y byddwch yn gallu parhau ar y budd-dal hwn.
Mae Credyd Cynhwysol yn cynnwys gwahanol elfennau y mae gennych hawl iddynt, megis eich elfen bersonol, elfen tai, plentyn ac unrhyw elfennau anabledd/salwch, lwfans gofalwr. Nid yw’r Credyd Cynhwysol yn cynnwys Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) na Lwfans Byw i’r Anabl (DLA).
I wneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd angen y canlynol arnoch:

  • Cyfrif banc
  • Ffôn symudol
  • Cyfeiriad e-bost
  • Mynediad i'r rhyngrwyd

Cwblheir y cais ar-lein.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais am yr elfen rhent ar y diwrnod y bydd eich tenantiaeth yn dechrau.
Bydd angen i chi wirio eich hunaniaeth a dangos ystod o ddogfennau.
Bydd Hyfforddwr Gwaith yn cael ei neilltuo i chi, gan eich helpu i sefydlu a llofnodi ymrwymiad gwaith.

Os ydych yn credu y byddwch yn ei chael hi'n anodd cadw at eich cynllun ymrwymiad gwaith oherwydd salwch neu resymau eraill, talu am gludiant i'r Ganolfan Waith neu i gyfweliad, mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i'ch hyfforddwr gwaith ymlaen llaw fel y gall helpu. Os na fyddwch yn cadw at eich ymrwymiad gwaith, gallwch gael eich sancsiynu. Mae hyn yn golygu efallai na fyddwch yn cael eich Credyd Cynhwysol i gyd.

Bydd taliad Credyd Cynhwysol yn cymryd 5 wythnos wedi i chi gyflwyno’ch cais.
Gallwch wneud cais ymlaen llaw am hyd at 100% o'ch dyfarniad cyn gynted ag y bydd eich hunaniaeth wedi'i wirio - benthyciad yw hwn a rhaid ei dalu'n ôl.
Bydd cymryd y blaendaliad hwn yn lleihau eich taliadau misol am hyd at 12/24 mis.

Caiff Credyd Cynhwysol ei dalu yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc.
Os telir yr elfen tai (arian rhent) yn uniongyrchol i chi, rhaid i chi ei ddefnyddio i dalu eich rhent.
Os ydych yn credu na fyddwch yn gallu rheoli eich arian, gallwch drefnu bod eich rhent yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch landlord yn lle hynny.