Mynd i'r afael â Lleithder a Llwydni

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/11/2023

Pan welwch smotyn du o lwydni, efallai y byddwch yn meddwl bod gennych ddŵr yn gollwng neu leithder codi ond, yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn cael ei achosi gan anwedd ac mae'n hawdd cael gwared arno.

Beth yw Anwedd?

Mae lleithder bob amser yn yr aer, hyd yn oed os nad ydych chi'n gallu ei weld. Mae aer cynnes yn dal lleithder, dydy aer oer ddim. Bydd lleithder yn yr aer yn ffurfio anwedd (defnynnau o ddŵr hylifol) pan ddaw i gysylltiad ag wyneb oer, fel ffenestr. Rydyn ni i gyd yn cael anwedd ar ein ffenestri o bryd i'w gilydd, ond nid yw hyn o reidrwydd yn broblem os yw'n clirio'n gyflym.

Mae anwedd yn digwydd yn arbennig mewn tywydd oer - hyd yn oed pan mae'n sych y tu allan. Fe'i gwelir fwyaf ar ffenestri a drychau pan fyddwch yn cael bath neu gawod, ond gall ffurfio ar unrhyw wyneb oer, gan gynnwys waliau. Mae anwedd yn waeth os nad oes awyru.

Pan fydd anwedd yn cronni ar wynebau, ac maen nhw'n llaith am beth amser, gall achosi i lwydni dyfu.

Felly sut ydych chi'n sylwi ar anwedd?

  • Mae dŵr yn rhedeg i lawr ffenestri a waliau.
  • Gall mannau llaith ymddangos ar waliau, yn enwedig y tu ôl i gelfi ac mewn corneli.
  • Gall papur wal ddechrau rhaflo.
  • Mae tyfiant llwydni, llwydni du fel arfer, yn dechrau ymddangos ar fframiau ffenestri, waliau a nenfydau.
  • Mae llwydni’n dueddol o dyfu ar gelfi meddal a ffabrigau.
  • Mae arogl llaith llwydni cyson yn yr eiddo.

Y prif bwyntiau i atal anwedd a llwydni

  • Gallwch hefyd geisio lleihau'r lleithder yn eich cartref, drwy:
    • hongian golch y tu allan i sychu, neu yn yr ystafell ymolchi ar rac sychu gyda'r drws ar gau. Peidiwch byth â sychu golch ar reiddiaduron.
    • os ydych chi'n defnyddio peiriant sychdaflu dillad, gwnewch yn siŵr fod yr agorfa awyr y tu allan.
    • sicrhewch fod caeadau ar sosbenni wrth goginio a defnyddiwch y ffan echdynnu.
    • wrth lenwi eich bath, rhedwch y dŵr oer yn gyntaf i leihau stêm.
  • Yn hytrach nag agor eich ffenestri, yn ystod misoedd oerach yr hydref neu'r gaeaf, gadewch holltau awyru eich holl ffenestri ar agor.
  • Cadwch ddrysau'r gegin a'r ystafell ymolchi ar gau wrth goginio neu wrth gael cawod/bath a gadewch ffenestr ar agor am 20 munud wedi hynny.
  • Cadwch gelfi ychydig oddi wrth y waliau i gynyddu llif aer.
  • Sychwch wynebau sydd wedi'u gorchuddio ag anwedd yn rheolaidd.
  • Os oes gennych lwydni, defnyddiwch olch ffyngladdol a gwisgwch fenyg rwber.
  • Peidiwch â chael gwared ar lwydni gan ddefnyddio brwsh neu hwfer - mae hyn yn gwasgaru'r sborau.
  • Ac, yn olaf, cynheswch eich cartref fel ei fod ar dymheredd cymedrol cyson o 16 i 18 gradd Celsius, yn hytrach na'i gynhesu ar dymheredd uchel am gyfnodau byr yn y bore a'r nos.

Nid anwedd yw unig achos lleithder

Achosir 'lleithder treiddiol' gan leithder sy'n dod i mewn i'r tŷ drwy bibellau sy'n gollwng neu sydd wedi cracio, to wedi'i ddifrodi, gwteri wedi'u rhwystro, bylchau o amgylch fframiau ffenestri a gwaith rendro a gwaith brics sydd wedi cracio neu'n ddiffygiol. Gellir unioni'r holl broblemau hyn.

Mae 'lleithder codi' yn deillio o gwrs lleithder diffygiol (neu ddim cwrs lleithder o gwbl). Bydd hyn yn gadael marc tua metr uwchben y llawr. Mae datrys lleithder codi yn waith i adeiladwr cymwys.

D.S.: Mae cartrefi sydd newydd eu hadeiladu weithiau'n gallu teimlo'n llaith oherwydd bod y dŵr sy'n cael ei ddefnyddio yn ystod y gwaith adeiladu yn dal i sychu.