Esboniad o'r Dreth Gyngor

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/04/2024

Bob blwyddyn rydym yn gwario oddeutu £742 miliwn ar ddarparu gwasanaethau i breswylwyr a busnesau yn Sir Gaerfyrddin sy'n ymwneud â gwasanaethau lleol fel Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol, Casglu Sbwriel ayb. Treth y Cyngor yw'r ffurf gyfredol ar drethi lleol mewn perthynas ag eiddo domestig, a ddefnyddir gan awdurdodau lleol arian i dalu am oddeutu 16.50% o'r gyllideb hon - tua £123 miliwn. Daw'r £620 miliwn sy'n weddill gan grantiau'r Llywodraeth ac incwm y cyngor.

Mae pob eiddo yn Sir Gaerfyrddin yn talu'r Dreth Gyngor, ac mae'r swm yn dibynnu ar beth yw gwerth eich eiddo.

Gallwch ddod o hyd i fand prisio'r dreth gyngor ar gyfer eiddo trwy ymweld â wefan www.Gov.uk.

Mae eich Treth Gyngor yn cynnwys tair rhan. Rydym yn casglu ar ran Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a'ch cyngor tref neu gymuned lleol, sy'n gosod eu cyllidebau eu hunain a lefelau'r Dreth Gyngor. Bydd eich bil yn dangos faint o'r tâl a delir i'r tri pharti. Gweler manylion Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yma https://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/y-swyddfa/cyllid/y-praesept-a-r-cynllun-ariannol-tymor-canolig/

Dewiswch eich band i gael gwybod am daliadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2024/25 (ar gyfartaledd ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned):

 

Gallwch ddod o hyd i fand prisio'r dreth gyngor ar gyfer eiddo trwy ymweld â wefan www.Gov.uk. Fodd bynnag, cofiwch y gall y band prisio gael ei ailasesu gan y Swyddog Prisio mewn amgylchiadau penodol e.e. os penderfynir bod yr asesiad diwethaf yn anghywir neu os oes cynnydd gwirioneddol wedi bod ym mhris eiddo a bod yr eiddo wedyn yn cael ei werthu neu ei brydlesu am 7 mlynedd neu ragor. Er Mwyn deal pam bod eich eiddo mewn band penodol ewch i ddolen Sut y Caiff Eiddo Domestig ei Asesu ar Gyfer Bandiau Treth Cyngor ar wefan Gov.uk.

Bydd y tâl blynyddol cyfredol am eiddo yn dibynnu ar y band prisio a aseswyd a'r gymuned y mae'r eiddo wedi'i leoli ynddi. Mae'r bil Treth Gyngor llawn yn cymryd yn ganiataol bod o leiaf dau oedolyn yn byw yn eich cartref. Fodd bynnag, mae'n bosibl eich bod yn gymwys i gael gostyngiad neu i gael eich eithrio rhag talu.