Trafnidiaeth gymunedol seiliedig ar alw a gwasanaethau tacsi yn ne-orllewin Cymru
Mae Metro Rhanbarthol De-orllewin Cymru, ar y cyd â'r ymgynghorwyr WSP, yn cynnal dadansoddiad manwl o wasanaethau bws a thacsi "ar alw" yn Rhanbarth De-orllewin Cymru (Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot).
Nod yr astudiaeth hon yw nodi set o argymhellion ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol sydd ar y gweill, er mwyn darparu trafnidiaeth seiliedig ar alw mewn modd mwy integredig a gwell i breswylwyr ac ymwelwyr ac annog gweithredwyr tacsis i barhau i wasanaethu'r ardaloedd mwyaf gwledig, y tu allan i oriau brig.