Dynodi Dŵr Ymdrochi 2026: Pont Droi Llandeilo
Rhaid i Weinidogion Cymru nodi dyfroedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru, monitro ansawdd eu dŵr a darparu gwybodaeth ar gyfer ymdrochwyr. Mae’r tymor ymdrochi’n para o 15 Mai tan 30 Medi.
Bob blwyddyn, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu a chyhoeddi'r rhestr o ddyfroedd ymdrochi dynodedig. Yn 2025, cynhaliwyd ymgynghoriad chwe wythnos ynghylch dynodi'r Bont Droi yn Llandeilo yn ddŵr ymdrochi. Roedd ymatebion i'r ymgynghoriad a barn rhanddeiliaid yn codi pryderon ynghylch a yw'r cais yn adlewyrchu niferoedd ymdrochwyr yn gywir – maen prawf allweddol o dan y Rheoliadau.
Yn seiliedig ar dystiolaeth yr ymgeisydd ac adborth yn yr ymgynghoriad, nid oedd yn bosibl dod i'r casgliad bod y prawf rheoleiddiol, sef bod nifer fawr o ymdrochwyr, wedi cael ei fodloni. Felly, rhoddwyd y cais o dan adolygiad er mwyn caniatáu i dystiolaeth ychwanegol gael ei chyflwyno.
Dim ond ynghylch yr wybodaeth wedi’i diweddaru a gyflwynwyd am niferoedd ymdrochwyr ar gyfer y cynnig i ddynodi'r Bont Droi yn Llandeilo yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor 2026, o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013, y mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio gwybodaeth.