Grant Tyfu Busnes

5. Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer

Mae'r gwariant anghymwys yn cynnwys: -

  • Gwariant refeniw cyffredinol megis costau staff neu unrhyw drethi eraill, hurbrynu/prydlesu
  • Cerbydau cyffredinol megis ceir a faniau
  • Gwella adeiladau a safleoedd/mân waith adeiladu
  • Costau atgyweirio, cadw a chynnal ac addurno
  • Amnewid ffitiadau cyffredinol, celfi ac offer swyddfa cyffredinol ac ati.
  • Costau a ffioedd 'wrth gefn' yr ymrwymwyd iddynt neu a wariwyd cyn i'r grant gael ei gynnig a'i dderbyn.
  • Costau cyfalaf gweithio megis stoc, rhent, ardrethi, gweinyddu.
  • Aelodaeth ac ymlyniad i gyrff llywodraethu ayyb
  • Costau gwaith a wneir sy'n ofyn statudol o dan y gyfraith, gan gynnwys caniatâd cynllunio.
  • Astudiaethau dichonoldeb
  • Os yw'r busnes wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, ni fydd TAW yn gost gymwys. Bydd TAW yn daladwy yn achos cwmnïau nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW.
  • Ni ddylid gwario unrhyw arian cyn i'r grant gael ei gymeradwyo gan na ellir rhoi grantiau'n ôl-weithredol. Ni allwn ystyried eitemau sydd wedi'u hymrwymo i'w prynu e.e. blaendal diogelwch heb ganiatâd ymlaen llaw gan y tîm grantiau. Rhoddir ystyriaeth i hyn fesul achos.
  • Ni ystyrir rhoi grantiau ar gyfer yr hyn sy'n cael ei brynu ag arian parod.
  • Ni fydd eitemau a brynir trwy brydlesu, hurbrynu, prydlesi cyllid/trefniadau credyd estynedig yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid grant.
  • Ffioedd proffesiynol sy'n gysylltiedig ag ymgynghorwyr busnes cyffredinol gan gynnwys cynlluniau busnes / ysgrifennu AGB ac unrhyw ffioedd sy'n gysylltiedig â chwblhau cais at ddibenion grantiau