Parth Twf Cross Hands
Deilliodd Parth Twf Cross Hands fel project Trawsnewid o gasgliad cyffrous o ddatblygiadau unigol sy’n clystyru ar gyrion ardal drefol Cross Hands, a all wneud argraff anferth ar adfywiad yr ardal. Mae’r rhain oll ar wahanol gyfnodau yn eu datblygiad ac, yn eu crynswth, byddant yn cyfrannu’n sylweddol at dwf economaidd Dinasranbarth Bae Abertawe.
Mae pum safle datblygu blaenllaw o fewn Parth Twf Cross Hands. Yn fasnachol, mae’r hyn mae Parth Twf Cross Hands yn ei gynnig yn ddeniadol iawn. Cynigir cymysgedd ddymunol o ddefnyddiau a chyfleoedd ac mae’r holl elfennau yno i esmwytho llwybr unrhyw fuddsoddwr. Mae’r parth yn un aeddfed ond yn dal i gynnig posibiliadau twf economaidd anferth, gyda’r pum safle newydd sy’n datblygu o’i fewn. Cynllunir rhyw 500 o gartrefi newydd, £50m o fuddsoddi gan y sector preifat, a 1,500 o swyddi.
Bydd y Parth yn cydgyfnerthu’r hyn a fu’n ardal o hunaniaethau amrywiol er y 1980au. Gyda gwelliannau arfaethedig i drafnidiaeth yn ogystal â’r buddsoddi helaeth a welwyd hyd yma, lleoliad cyfleus i farchnadoedd, arddull byw, gweithlu, ac argaeledd grantiau o bosib, mae Parth Twf Cross Hands yn caniatáu i chi adeiladu ar sail ei hanes ar gyfer y dyfodol.
Mae safle Sir Gaerfyrddin yn Ninas-ranbarth newydd Bae Abertawe yn un cyffrous. Mae meddwl yn uchelgeisiol bellach yn rhagamod hanfodol ar gyfer gwaith adfywio – mae Parth Twf Cross Hands yn enghraifft berffaith. Fe’i cyflawnir trwy gydweithrediad a dulliau arloesol o fynd ati er mwyn cwblhau’r gwaith a darparu twf cynaliadwy a swyddi. Rhagwelir y bydd Parth Twf Cross Hands yn cynhyrchu rhyw £50m o fuddsoddi gan y sector preifat erbyn 2020 – mae’n bryd i chi fod yn rhan o hyn. Er mwyn cofnodi eich diddordeb yn unrhyw un o ddatblygiadau Parth Twf Cross Hands, e-bostiwch ni ar BusinessSupport@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01269 590214.
Datblygu a Buddsoddiad
Pentre Awel
- Parth 1
- Parth 2
- Parth 3
- Parth 4
- Gwaith Safle
- Gweithio gyda ni
- Gweithio gyda Phobl Leol
- Gweithio gydag Ysgolion
- Gweithio gyda Chymunedau Lleol
- Gweithio gyda'r Gymraeg
- Gweithio'n Gynaliadwy
Parth Twf Cross Hands
- Parth Bwyd
- Parth Busnes
- Parth Cyflogaeth
- Parth defnydd cymysg
- Parth preswyl a defnydd cymysg
- Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands
Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol De-orllewin Cymru (RET)
Tyisha
Mae Tyisha yn newid - Chwilio am bartner datblygu
- Mae Llanelli yn newid
- Trawsnewid Tyisha
- Tai gwell mewn amgylchedd gwell
- Adfywio Tyisha
- Cysyniad dylunio - potensial cyffrous
- Gwybodaeth Atodol - Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw (PIN) ynghylch Trawsnewid Tyisha
Porth Tywyn
Traeth Pentywyn
Mwy ynghylch Datblygu a Buddsoddiad