Mae ward Tyisha yn Llanelli yn ganolbwynt prosiect adfywio gwerth miliynau o bunnau sy'n bwriadu trawsnewid yr ardal.

Mae Tyisha wedi'i nodi fel un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y wlad, gyda heriau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol. Yn dilyn ymgynghori â phreswylwyr a busnesau yn y ward, bwriad y Prosiect Trawsnewid Tyisha yw mynd i'r afael â'r heriau hyn.

Caiff ardal Tyisha ei hystyried yn ardal o bwysigrwydd strategol, sy'n darparu cyswllt hanfodol rhwng canol tref Llanelli a Phentre Awel.

Bydd y prif gynllun uchelgeisiol i drawsnewid yr ardal yn edrych ar adeiladu cyfleusterau a thai newydd sy'n bodloni anghenion y gymuned, gwella'r amgylchedd a mynd i'r afael â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae grŵp llywio cymunedol Trawsnewid Tyisha sy'n cynnwys y Cyngor a phartneriaid amrywiol fel Heddlu Dyfed-Powys a Chyngor Tref Llanelli yn rhoi hwb i'r prosiect.