Newyddion diweddaraf
Rhagor o wybodaeth, y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf ar Tyisha.
Prosiect Merched Coedcae yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
Mae aelodau o Brosiect Merched Coedcae yn Llanelli wedi nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl drwy greu murlun celf graffiti yn yr ardal.
Gan weithio gyda'r artist lleol Steve Jenkins o JenkArts, ysbrydolwyd y grŵp gan themâu twf, cyfeillgarwch, rhyddid a helpu eraill a ddeilliodd o gerdd a ysgrifennwyd gan yr aelodau.
Grŵp o ddisgyblion o Ysgol Coedcae yn Llanelli yw Prosiect Merched Coedcae sy'n cydweithio i gefnogi ei gilydd i fynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl.
Crëwyd y murlun gyda chymorth Cyngor Sir Caerfyrddin a chyllid gan People Speak Up.
Cafodd un o drigolion Clos Sant Paul hysbysiad cosb benodedig o £400 am dipio'n anghyfreithlon nifer o fagiau ailgylchu glas halogedig a phram yn yr ardal.
Mae modd rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon ar wefan y Cyngor.
Mae'r Grŵp Gweithredu Cymunedau Mwy Diogel yn agored i breswylwyr wardiau Tyisha a Glanymôr i ddarganfod beth sy'n digwydd yn eu cymuned a chael dweud eu dweud ar faterion diogelwch cymunedol.
Cynhelir grwpiau ar y trydydd dydd Iau bob mis am 2pm yn Neuadd Sant Barnabas, Stryd Llewellyn, Llanelli SA15 1BD.
Mae disgyblion o Ysgol Pen Rhos ac Ysgol Gynradd Bigyn wedi gweithio gyda'r Cyngor i lanhau ardal Tyisha.
Mae sesiynau codi sbwriel wedi cael eu cynnal ar draws ardal Tyisha gyda chymorth disgyblion ysgolion lleol a gafodd sioc wrth weld gweithredoedd anghyfrifol nifer sy'n dewis taflu sbwriel yn yr ardal, yn enwedig nifer y gorchuddion wyneb a ddaethpwyd o hyd iddynt wedi'u taflu.
Diolch i ddisgyblion o'r ddwy ysgol sy'n helpu i gadw Sir Gaerfyrddin yn lân.
Mae tri chynllun Gwarchod Cymdogaeth newydd wedi'u cyflwyno'n ddiweddar i ardaloedd yn Nhyisha gyda chymorth Cyngor Sir Caerfyrddin.
Mae'r cynlluniau Gwarchod Cymdogaeth bellach yn chwilio am wirfoddolwyr er mwyn helpu i sicrhau eu llwyddiant drwy helpu i gynyddu teimladau o ddiogelwch cymunedol a lleihau achosion o droseddu.
I gael rhagor o wybodaeth am ymuno â'r Cynllun Gwarchod Cymdogaeth neu am gyngor ar sut i sefydlu Cynllun yn eich ardal, anfonwch e-bost i: tyisha@sirgar.gov.uk.
Mae gweithio mewn partneriaeth wedi galluogi nifer o brosiectau diogelwch cymunedol yn ardal Tyisha i wneud cynnydd.
Mae hyn yn cynnwys unedau teledu cylch cyfyng newydd sy’n cwmpasu ardaloedd allweddol ledled Tyisha, yn ogystal â gosod systemau diweddaredig i roi mynediad drwy ffob drws mewn tai cymunedol sy’n eiddo i’r Cyngor i sicrhau diogelwch y trigolion.
Mae cam 3 y rhaglen ffensio yng Nghlos Sant Paul bellach wedi’i gwblhau hefyd. Mae hyn eisoes wedi cael effaith gadarnhaol ar leihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.
Mae cyfarfodydd rheolaidd rhwng y tîm Trawsnewid Tyisha a Thîm Plismona Bro Llanelli wedi galluogi’r ddau dîm i nodi’n gyflym ardaloedd problemus o ran troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae digwyddiadau Cwrdd â’r Stryd hefyd wedi rhoi cyfle i’r ddau dîm gwrdd â thrigolion lleol, casglu gwybodaeth a nodi ardaloedd problemus posibl o ran cyuriau
ac alcohol. Cynhaliwyd digwyddiadau diweddar yn Ger y Llan, Ffordd yr Orsaf, Ffordd Lakefield a Llys y Morwr.
Am fwy o wybodaeth am y prosiectau, cysylltwch â thîm Tyisha.
Mae pobl ifanc o grwpiau cymunedol yn Nhyisha wedi creu gwaith celf lliwgar ar y byrddau arddangos o amgylch Clos Sant Paul.
Mae Tîm 14 Ymddiriedolaeth y Tywysog a People Speak Up, sef prosiect Merched Coedcae, wedi creu darnau o waith celf sy’n codi calon yn seiliedig ar themâu sy’n bwysig iddyn nhw.
Cafodd y bobl ifanc o People Speak Up eu hysbrydoli gan gerdd a grëwyd gan y grŵp, ac mae rhan ohoni hefyd yn ymddangos yn y gwaith celf.
Mae’r gwaith celf a grëwyd gan Dîm 14 Ymddiriedolaeth y Tywysog yn seiliedig ar eu dehongliad o’r themâu canlynol: ‘cariad’, ‘Cymru am byth’, ‘ymdrechu’, ‘arweinydd’ a ‘chefnogaeth’.
Bu’r ddau grŵp cymunedol yn gweithio gyda’r artist grati, Steve Jenks, a’u helpodd i ddod â’u syniadau yn fyw.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cymryd y cam cyffrous nesaf yn ei gynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid ardal Tyisha yn Llanelli drwy chwilio am bartner i ailddatblygu sawl safle yn yr ardal.
Rydym nawr am ddechrau’r broses dendro swyddogol i ddod o hyd i bartner i’n helpu i wireddu’r cynlluniau ar gyfer y safl eoedd. Byddant yn cynnwys tai sy’n bodloni anghenion y gymuned, yn ogystal â chyfl eusterau i bawb eu mwynhau.
Mae pedwar safle allweddol sy’n rhan o’r cynllun, sy’n cynnwys tir gwag ac adeiladau adfeiliedig.
Dyma’r safleoedd allweddol:
- Tir gwag ar hen safle y Pedwar Tŷ (Maes-y-Gors)
- Hen Ysgol Maesllyn
- Hen Ysgol Copperworks
- Clos Sant Paul