Cyngor yn chwilio am bartner datblygu i helpu i drawsnewid Tyisha

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cymryd y cam cyffrous nesaf yn ei gynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid ardal Tyisha yn Llanelli drwy chwilio am bartner i ailddatblygu sawl safle yn yr ardal.

Mae Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw ffurfiol bellach yn fyw, sy'n cael ei gynnal gan GwerthwchiGymru. Mae hyn yn rhoi gwybodaeth am weledigaeth y Cyngor ar gyfer Tyisha a manylion y safleoedd y mae'r Cyngor wedi'u clustnodi ar gyfer eu hadnewyddu neu eu datblygu i ddarparu cartrefi a chyfleusterau sy'n diwallu anghenion y gymuned.