Canllaw Cais Cynllunio

Cam Cyn Ymgeisio

Gall edrych am gyngor cyn gwneud cais fod o gymorth i gynyddu’r gobaith o wneud cais o safon uchel fydd yn gynt i’w brosesu.

Gall hefyd:

  • Eich cynorthwyo i ddeall ein rhestr o ofynion lleol a sut y gall polisïau cynllunio a gofynion eraill effeithio ar eich cynigion.
  • Eich cynorthwyo i ddeall y cwestiynau a gymerir i ystyriaeth wrth benderfynu ar gais a sut y gall agweddau ar y safle, megis ffyrdd, llwybrau troed, dyfrffyrdd a chyfyngiadau eraill effeithio ar eich cynigion.
  • Trafod problemau posibl, megis sŵn a thraffig, ac a fyddai modd i amodau gael eu gosod (yn hytrach na gwrthod caniatâd cynllunio) i oresgyn y rhain.
  • Awgrymu ffyrdd y gallai eich cais ychwanegu gwerth i gymunedau lleol a’r tebygolrwydd y caiff caniatâd cynllunio ei roi.

Mae nifer o fuddion o gyflwyno ffurflen cyn ymgeisio:

  • Mae ffurflen cyn ymgeisio yn eich galluogi i archwilio eich syniadau datblygu
  • Arbed amser ac arian
  • Lleihau nifer y ceisiadau cynllunio aflwyddiannus
  • Mae gwybodaeth o ansawdd da yn gynnar yn y broses yn gymorth i fynd i’r afael â phroblemau yn gynt yn hytrach na hwyrach.
  • Os ydych chi eto i brynu’r eiddo neu’r tir, mae hyn yn ffordd dda iawn o fapio allan ddyluniadau posibl cyn prynu.

Beth sydd ei angen mewn Ffurflen Cyn Ymgeisio?

Rhaid i ymgeiswyr ddarparu'r wybodaeth ganlynol i ni yn y ffurflen ymholi cyn ymgeisio:

  • Manylion cyswllt y datblygwr / asiant (enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost)
  • Disgrifiad o'r datblygiad, fydd yn cynnwys maint arwynebedd y llawr, a nifer yr unedau sy'n cael eu creu
  • Cyfeiriad y safle
  • Cynllun y lleoliad (ar sail Arolwg Ordnans)
  • Cynlluniau, gwybodaeth ategol ychwanegol ac adroddiadau fydd yn gymorth i'r awdurdod cynllunio lleol ddarparu ymateb defnyddiol, â ffocws iddo.
  • Y ffi gywir

Mae’r gwasanaeth cyn ymgeisio statudol yn amodol ar dalu ffi safonol, yn seiliedig ar faint a graddfa datblygiad arfaethedig. Mae ein penderfyniad ni’n derfynol wrth bennu'r ffi briodol.

Y raddfa ffioedd, fel y’i nodir yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd Ceisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2016, yw:

  • Deiliad tŷ - £25
  • Datblygiad bach - £250
  • Datblygiad mawr - £600

Mae’r holl wybodaeth ar gyfer y gwasanaeth cyn ymgeisio i’w gweld yn y Gwasanaeth Cyn Ymgeisio (llyw. Cymru). Mae'r dudalen we yn darparu gwybodaeth am ffioedd, amserlen a'r ffurflen ymholiad.

CAIS CYN CYNLLUNIO   FFIOEDD CYN YMGEISIO


Cwestiynau Cyffredin ynghylch y Gwasanaeth Cyn Ymgeisio

Categori datblygiad arfaethedig Nifer y tai / Arwynebedd Ffi yn daladwy
Cais Deiliad Tai   £25
Codi Annedd/Tai 1 - 9 anheddau £250
  10 - 24 anheddau £600
  25 ney fwy £1,000
  Os nad yw anheddau yn hysbys, ewch yn ôl ardal y safle arfaethedig:  
  < 0.49 hectarau £250
  0.5 - 0.99 hectarau £600
  > 0.99 hectarau £1,000
Codi adeiladau (heblaw am annedd/tai) Arwynebedd llawr gros i’w greu gan y datblygiad arfaethedig:  
  < 999 metr sgwâr £250
  1,000 - 1,999 metr sgwâr £600
  > 1,999 metr sgwâr £1,000
  Lle nad yw’r arwynebedd llawr gros yn hysbys, ewch yn ôl arwynebedd y safle arfaethedig:  
  < 0.49 hectarau £250
  0.5 - 0.99 hectarau £600
  > 0.99 hectarau £1,000
     
Gwneud newid sylweddol yn y defnydd o adeilad neu dir Arwynebedd llawr gros i’w greu gan y datblygiad arfaethedig:Arwynebedd llawr gros i’w greu gan y datblygiad arfaethedig:  
  < 999 metr sgwâr £250
  1000 > 1999 metr sgwâr £600
  > 1,999 metr sgwâr £1,000
  Lle nad yw’r arwynebedd llawr gros yn hysbys, ewch yn ôl arwynebedd y safle arfaethedig:  
  < 0.49 hectarau £250
  0.5 > 0.99 hectarau £600
  > 0.99 hectarau £1,000

Mae'n rhaid cyflwyno'r ffi gywir gyda'ch cais neu fel arall ni fydd yn ddilys ac ni chaiff unrhyw waith ei wneud o ran prosesu ac asesu eich cais.

Dulliau talu

Bydd angen i chi ddarparu'r manylion canlynol wrth dalu - math o gais, cyfeirnod y cais neu enw a lleoliad y cais os nad oes cyfeirnod gennych eto, a'r ffi gywir.

  • Ar-lein - Talu ar-lein ar yr un pryd ag y byddwch yn cyflwyno eich ffurflen gais, dyma'r ffordd fwyaf effeithlon o dalu a bydd yn osgoi unrhyw oedi wrth brosesu eich cais.
  • Dros y ffôn - Rydym yn derbyn cardiau debyd Maestro neu Visa. Os hoffech siarad ag aelod o staff o'r tîm arianwyr, ffoniwch 01267 228686 yn ystod oriau swyddfa, 9 o'r gloch - 5 or'gloch.
  • Drwy'r post - Gwnewch eich siec yn daladwy i 'Cyngor Sir Caerfyrddin' a'i phostio i'r cyfeiriad isod: Y Gwasanaethau Cynllunio, Swyddfeydd y Cyngor, Heol Cilgant, Llandeilo, SA19 6HW.
  • Yn bersonol - Gallwch dalu ag arian parod, cerdyn credyd/debyd neu siec yn eich hwb gwasanaeth cwsmeriaid yn Rhydaman, Caerfyrddin neu Lanelli.
  • Taliad BACS - anfonwch neges e-bost at planningregistrations@sirgar.gov.uk i gael rhagor o fanylion a sefydlu taliad BACS.

Os byddwch yn dewis talu dros y ffôn, drwy'r post, yn bersonol neu drwy BACS, ni fydd eich cais yn cael ei brosesu nes bod y taliad wedi'i gysoni a fydd yn achosi ychydig o oedi.

Yn dilyn derbyn cais cyn cynllunio dilys a'r ffi gywir, bydd swyddog yn:

  • Ymchwilio i hanes cynllunio'r safle.
  • Nodi ac asesu'r cais arfaethedig yn erbyn polisïau, canllawiau a safonau'r Cyngor
  • Darparu ymateb ysgrifenedig, yn crynhoi'r uchod ac yn rhoi asesiad cychwynnol o'r datblygiad. Cyhoeddir hwn o fewn 21 diwrnod, oni bai y bydd cyfnod estynedig wedi cael ei gytuno.

Nid yw cais cyn ymgeisio yn ofyniad cynllunio a dim ond gwasanaeth atodol ydyw, yr ydym ni yn ei ddarparu, a'i fwriad yw rhoi cyngor anffurfiol fel gwybodaeth ar gyfer cyflwyno cais cynllunio dilynol. Felly, byddai angen o hyd i chi dalu’r ffi am gais cynllunio llawn yn dilyn cyngor cyn ymgeisio.

Os oes angen caniatâd cynllunio arnoch, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio cyn cyflwyno’ch cais i ni.

Mae’r ffioedd y gellir eu codi am wasanaethau cyn ymgeisio statudol yr un fath ledled Cymru, er eu bod yn amrywio yn ôl maint a graddfa’r datblygiad arfaethedig.

Mae’r rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i ni ddarparu ymateb ysgrifenedig i bob ymholiad cyn ymgeisio dilys o fewn 21 diwrnod, oni bai y cytunir ar estyniad amser rhyngom ni a’r ymgeisydd.

Fel isafswm, dylai ymgeiswyr am ddatblygiadau deiliaid tai ddisgwyl cael y wybodaeth ganlynol yn eu hymateb ysgrifenedig:

  • Hanes cynllunio perthnasol y safle
  • Polisïau cynlluniau datblygu perthnasol y bydd y cynnig datblygu yn cael ei asesu yn eu herbyn
  • Canllawiau cynllunio atodol perthnasol (h.y. dylunio, cadwraeth ac yn y blaen)
  • Unrhyw ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill
  • Asesiad cychwynnol o'r datblygiad arfaethedig, yn seiliedig ar y wybodaeth uchod

 

Ar gyfer pob cynnig datblygu arall, dylai ymgeiswyr dderbyn yr holl wybodaeth a amlinellwyd uchod, yn ogystal ag a yw'n debygol y ceisir unrhyw gyfraniadau Adran 106 ac amcangyfrif o gwmpas a swm y cyfraniadau hyn. Mae’n ofynnol hefyd i ymgeiswyr gyflwyno adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn ymgeisio ar gyfer pob cais cynllunio amlinellol neu lawn yn achos cynigion ‘mawr’.

Heb dalu’r ffi briodol, ni fyddwn dan unrhyw rwymedigaeth i dderbyn ffurflen ymholiad cyn ymgeisio.

Os, yn ein barn ni, y cyflwynir ffurflen ymholi cyn ymgeisio heb y ffi gywir, byddwn yn egluro’n ysgrifenedig i’r ymgeisydd cyn gynted â phosibl na all y gwasanaeth cyn ymgeisio ddechrau nes bod y ffi gywir wedi dod i law a nodi pa daliad sy’n ddyledus.

Os telir ffi i ni ond y caiff yr ymholiad cyn ymgeisio wedyn ei wrthod fel un annilys am unrhyw reswm heblaw am dalu ffi anghywir, caiff y ffi ei had-dalu.

gwneud cais ar-lein

FFIOEDD

Bwriad ymholiad cyn ymgeisio yw rhoi cyngor cychwynnol, mae angen atodi llai o wybodaeth wrtho, nid yw'n mynd drwy broses ymgynghori lawn, a bydd yn rhoi syniad i chi a yw eich cynnig yn dderbyniol ai peidio. Nid yw'r cyngor a roddir yn gyfreithiol rwymol, ac nid yw'n rhoi unrhyw ganiatâd i chi ddechrau datblygu.

Mae cais cynllunio yn gofyn yn ffurfiol am ganiatâd cynllunio, sy’n mynd drwy broses statudol, ac ar ddiwedd y broses honno byddwn yn gwneud penderfyniad ffurfiol, naill ai’n cymeradwyo neu’n gwrthod eich cynnig datblygu. Os rhoddir cymeradwyaeth gallwch ddechrau ar y datblygiad, yn amodol ar ac yn unol ag unrhyw amodau neu gytundebau cyfreithiol fydd ynghlwm wrth y caniatâd hwnnw.

Ni fydd unrhyw gyngor a roddir gan swyddogion y Cyngor mewn ymateb i ymholiadau cyn ymgeisio yn dynodi penderfyniad ffurfiol. Caiff barn neu safbwynt a fynegir ei roi yn ddidwyll ar sail y wybodaeth sydd ar gael ar y pryd, ac hyd eithaf gallu, heb niweidio ystyriaeth ffurfiol unrhyw gais cynllunio fydd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus statudol, y materion a godwyd a gwerthusiad o’r holl wybodaeth fydd ar gael.

Dylech fod yn ymwybodol felly na all swyddogion roi sicrwydd ynghylch y penderfyniad ffurfiol terfynol a wneir ar eich cais cynllunio neu geisiadau cysylltiedig. Fodd bynnag, bydd y nodyn cyngor a gyhoeddwyd yn cael ei ystyried fel ystyriaeth o bwys wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio cysylltiedig yn y dyfodol, yn amodol ar yr amod y gall amgylchiadau a gwybodaeth newid neu ddod i'r amlwg a allai newid y sefyllfa. Dylid nodi y bydd y pwysau a roddir ar nodiadau cyngor cyn ymgeisio yn lleihau dros amser.

Er na ellir gwarantu hyn, mae’n debygol, os yw’r rhan fwyaf o’r materion allweddol wedi cael sylw yn ystod trafodaethau cyn ymgeisio, y bydd prosesu’r cais cynllunio yn llawer mwy effeithlon.

Ni chynhelir unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o’r broses cyn ymgeisio.

Unwaith y byddwch wedi derbyn eich ymateb heb fod angen unrhyw newidiadau/ystyriaethau pellach:

  • Os nad oes angen diwygiadau neu ystyriaethau pellach yn dilyn y cyngor cyn ymgeisio, gallwch symud ymlaen i gyflwyno cais cynllunio.

Unwaith y byddwch wedi derbyn eich ymateb a bod angen diwygiadau/ystyriaethau pellach: 

  • Gallwch benderfynu a ydych am ddiwygio'r cynnig yn dilyn y cyngor cyn ymgeisio.
  • Gallwch ofyn am gyngor anffurfiol pellach ar eich cynllun diwygiedig, fodd bynnag, cofiwch fod ffi bellach yn daladwy am y cyngor hwn.
  • Os dewiswch ddiystyru'r cyngor cyn ymgeisio wrth gyflwyno cais, esboniwch pam wrth gyflwyno'r cais.

Unwaith y byddwch wedi derbyn eich ymateb ond ddim yn dymuno gwneud cais mwyach:

  • Os nad ydych yn dymuno symud ymlaen â'ch cynnig, nid oes unrhyw ofyniad i chi wneud hynny.

Na chewch, nid yw ymateb llafar yn briodol ar gyfer ymholiadau cyn ymgeisio.

Cynghorir ymgeiswyr na fydd swyddogion achos yn cynnal unrhyw drafodaethau yn ystod y broses cyn ymgeisio. Os bydd angen unrhyw wybodaeth ychwanegol, bydd y swyddog achos yn cysylltu â chi.

Cewch. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod cynlluniau:

  • yn glir
  • yn gywir
  • wedi eu gwneud i raddfa (yn cynnwys bar graddfa)

Nid oes angen cynlluniau proffesiynol ar gyfer cais cyn ymgeisio. Fodd bynnag, rydym yn eich atgoffa y bydd y penderfyniadau yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir gennych. Felly, byddai cynlluniau manwl yn fwy buddiol.

Dylech gofio hefyd, wrth gyflwyno cais cynllunio, bod angen i unrhyw gynlluniau a gyflwynir gwrdd â’r gofynion dilysu cenedlaethol. Wrth lunio cynlluniau, mae angen ystyried rheoliadau adeiladu.

Ni allwn argymell asiantiaid cynllunio neu benseiri penodol. Gall y gwasanaethau a ddarperir a’r prisiau a godir amrywio, ac felly fe'ch cynghorir i ofyn am ddyfynbrisiau gan nifer o wahanol gyflenwyr.

Nac oes, er efallai y byddwch yn dymuno darllen drwy'r nodiadau uchod sy'n nodi manteision gwneud hynny.

Cewch, fe gewch gyflwyno ymholiad cyn ymgeisio a byddai ffi yn daladwy.

Bydd y broses ymholi cyn ymgeisio yn addas ar gyfer rhai ceisiadau ond efallai na fydd ei hangen ar gyfer pob cais. E-bostiwch y manylion llawn i’n Hwb Cynllunio i gael eglurhad.

Os byddwn yn derbyn cais, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOIA) neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR), i ddatgelu gwybodaeth sy’n ymwneud â’r ymholiad cyn ymgeisio hwn bydd yn rhaid i ni wneud hynny oni bai bod y wybodaeth yn cael ei hystyried wedi ei heithrio o dan y Ddeddf.

Sylwer:

Dim ond os yw'r wybodaeth yn dod o dan un o'r esemptiadau (FOIA) neu eithriadau (EIR) a nodir mewn deddfwriaeth y cawn atal gwybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu EIR. Ar gyfer rhai materion cyn ymgeisio, fe'ch cynghorir i gwblhau'r rhestr wirio fasnachol sensitif a ddylai nodi'r rhesymau pam, ac am ba hyd, y teimlwch fod angen i unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â'r achos aros yn gyfrinachol. Fodd bynnag, er y byddwn yn ystyried y safbwyntiau hyn, y Cyngor fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol a ddylid cadw'r wybodaeth yn ôl. Mae’r Cyngor yn parhau i gydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data ac ni fyddwn yn rhyddhau unrhyw wybodaeth bersonol i drydydd partïon.

Cewch ond sylwch, er eich bod yn dal i allu gwneud cais am gyngor cyn ymgeisio, nid yw'r cyngor hwn yn benderfyniad ffurfiol gan y Cyngor ac ni ellir ei ddefnyddio i awdurdodi unrhyw ddatblygiad sydd heb gael caniatâd cynllunio.

Mae'r broses a'r gost yr un fath â chyngor lle nad yw datblygiad wedi dechrau.

Ydynt. Efallai yr hoffech ddarllen y Canllaw Dylunio Priffyrdd gan fod y ddogfen hon yno i helpu i roi gwybodaeth i sicrhau bod y broses ymgeisio yn effeithlon.

Gallwch. Bydd eich hysbysiad o benderfyniad cynllunio yn cynnwys manylion y rheswm/rhesymau dros wrthod eich cais cynllunio.

Gan gymryd y rheswm/rhesymau i ystyriaeth, efallai y byddwch yn dymuno paratoi cynnig diwygiedig i gael sylwadau arno cyn cyflwyno cais cynllunio pellach.

Gallwch. Gellir cyflwyno ymholiad cyn ymgeisio a byddai’r ffi yn uniongyrchol gysylltiedig â chategori’r datblygiad gwreiddiol.

Os ydych yn ystyried gwneud newidiadau i eiddo presennol, gan gynnwys gwaith o fewn terfyn eich eiddo / eich gardd, efallai y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio deiliad tŷ. 
Nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer yr holl waith adeiladu ar eich cartref gan fod rhai prosiectau yn dod o dan reolau datblygiad a ganiateir. Mae hyn yn golygu y gallwch chi gyflawni nifer o brosiectau heb ganiatâd cynllunio, ar yr amod eu bod yn cwrdd â chyfyngiadau ac amodau penodol. 
Os nad ydych yn siŵr, ar ôl gwirio'r uchod, a oes angen caniatâd cynllunio arnoch, anfonwch fanylion eich gwaith arfaethedig atom drwy ein ffurflen ar-lein isod.
Caiff y wybodaeth a roddwch ei hadolygu gan swyddog cynllunio a bydd ef yn rhoi ymateb anffurfiol i chi o fewn 20 diwrnod gwaith. 
Bydd arnoch angen y wybodaeth ganlynol: 
  • Eich manylion 
  • Manylion y safle 
  • Gwybodaeth am y gwaith arfaethedig gan gynnwys: 
    • y deunyddiau yr ydych yn bwriadu eu defnyddio 
    • y dimensiynau mewn metrau 
    • y lleoliad oddi wrth gymdogion/ffordd 
    • braslun manwl yn dangos unrhyw goed ar y safle 
Sylwch mai gwiriad anffurfiol yw hwn. Os bydd arnoch angen ymateb pendant, bydd angen i chi wneud cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon

Fel rhan o’r gwasanaeth cyn ymgeisio statudol, mae gennym 21 diwrnod i ddarparu ymateb ysgrifenedig i’r ymgeisydd.

Caniateir estyniadau amser, ar yr amod ein bod ni a'r ymgeisydd yn cytuno'n ysgrifenedig ar ddyddiad diwygiedig ar gyfer dychwelyd ymateb ysgrifenedig i'r ymgeisydd.

Cewch, cewch wneud cais cyn ymgeisio.

Os nad ydych yn berchen ar y tir, mae’n rhaid i chi gyflwyno hysbysiad i unrhyw berchennog (perchnogion) neu bartïon â diddordeb cyn cyflwyno ffurflen gais cynllunio lawn.

Llwythwch mwy