Canllaw Cais Cynllunio

Syniad Datblygu

Mae gennych brosiect adeiladu mewn golwg neu rydych yn dymuno newid defnydd adeilad neu dir yr ydych yn berchen arno neu'n ystyried ei brynu.


Datblygiad a Ganiateir

Datblygiad a ganiateir yw datblygiad y gellir ei gyflawni heb fod angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio, gan ei fod eisoes wedi cael ei roi drwy Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (GPDO), fel y’i diwygiwyd ar gyfer Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau cynllunio i gefnogi eu gwasanaeth ceisiadau. Mae'r canllawiau'n ymdrin â chyngor ynghylch rheoliadau cynllunio ac adeiladu ar gyfer llawer o brosiectau gwaith adeiladu cyffredin ar gyfer y cartref. Mae’r cyngor hwn yn benodol i’r rheolau cynllunio ac adeiladu yng Nghymru.

Bydd angen i chi gadarnhau a yw'r datblygiad hwn yn bosibl heb fod angen cyflwyno cais cynllunio. Gellir gwneud rhai newidiadau dan ddatblygiadau a ganiateir. Dilynwch y ddolen i ddod o hyd i rai prosiectau deiliaid tai cyffredin a all ddod o dan ddatblygiadau a ganiateir.

PROSIECTAU CYFFREDIN: CANIATÂD CYNLLUNIO


Datblygu neu newid eiddo presennol

Fe welwch y gellir caniatáu rhywfaint o waith heb ganiatâd cynllunio ar eiddo presennol. Gofynnwn i chi ddefnyddio'r ffurflen hon i gyflwyno'r holl syniadau datblygu ar gyfer eiddo presennol er mwyn i swyddog cynllunio asesu a oes angen caniatâd cynllunio.

ESTYN NEU NEWID EICH CARTREF


Os oes angen caniatâd cynllunio neu os oes gennych dir i’w ddatblygu

Ar gam y syniad datblygu, dylai ymgeiswyr ddechrau meddwl am ystyriaethau cynllunio perthnasol. Ystyriaeth berthnasol yw mater y dylid ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar gais cynllunio neu apêl yn erbyn penderfyniad cynllunio.
Gall ystyriaethau perthnasol gynnwys (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu) i’r canlynol:

  • Polisi cynllunio
  • Mynediad i’r briffordd
  • Map llifogydd
  • Edrych dros/colli preifatrwydd
  • Colli goleuni/bwrw cysgod
  • Traffig
  • Sŵn
  • Effaith ar adeilad rhestredig ac ardal gadwraeth
  • Gosodiad a dwysedd yr adeilad
  • Dyluniad, ymddangosiad a deunyddiau
  • Mynediad i bobl anabl
  • Cynigion yn y Cynllun Datblygu
  • Penderfyniadau cynllunio blaenorol (gan gynnwys Penderfyniadau apêl)
  • Cadwraeth natur

Fodd bynnag, nid yw materion, megis colli golygfa, neu effaith negyddol ar werth eiddo yn ystyriaethau perthnasol.

Byddwn yn mynd â chi drwy bob cam yn y broses gynllunio er mwyn rhoi dealltwriaeth glir o’r broses.


Cwestiynau cyffredin a ofynnir yn aml ynghylch datblygiad a ganiateir

Mae adeiladau allanol yn tueddu i ddod dan Ddatblygiad a Ganiateir; dilynwch y ddolen at Nodiadau Cyfarwyddyd Datblygiad a Ganiateir am ragor o wybodaeth.

Gofynnwn i chi ymweld â’n tudalen ar y we – Ymestyn / newid eich cartref. Cliciwch ar y botwm gwyrdd ‘Gwiriwch a oes angen caniatâd cynllunio arnoch?’ er mwyn llenwi’r ffurflen ar-lein. Bydd hyn yn rhoi’r holl wybodaeth angenrheidiol i’r swyddog cynllunio benderfynu a oes angen caniatâd cynllunio neu beidio.

Os yw unrhyw ddatblygiad yn mynd i ddod dan “Ddatblygiad a Ganiateir” yna dylid glynu at yr amodau ar y ddolen gyswllt hon:

CANIATÂD CYNLLUNIO: ADEILADAU ALLANOL

Byddai hyn yn dibynnu ar ble y byddai’r cyrb isel yn cael ei leoli, ar ffordd ddiddosbarth ynteu ffordd ddosbarthiadol. Pe gofynnid am gyrb isel ar gyfer ffordd ddosbarthiadol i greu mynediad, yna byddai angen caniatâd cynllunio; pe bai yn gorwedd ar ffordd ddiddosbarth yna mae’n annhebygol y byddai angen caniatâd cynllunio, ond gallai ffactorau eraill effeithio ar y penderfyniad hwn.

Am ragor o eglurder, awgrymwn eich bod yn ymweld â’n tudalen ar y we – Ymestyn / newid eich cartref. Cliciwch ar y botwm gwyrdd ‘Gwiriwch a oes angen caniatâd cynllunio arnoch?’’ er mwyn cwblhau’r ffurflen ar-lein. Bydd hyn yn rhoi’r holl wybodaeth angenrheidiol i’r swyddog cynllunio iddo benderfynu a oes angen caniatâd cynllunio neu beidio.

Cewch atodi lluniau/amlinelliad hefyd i gynorthwyo’r cynlluniwr.

Os ydych yn bwriadu dymchwel eich tŷ, rhan o adeiladau allanol eich tŷ neu unrhyw adeilad arall, efallai y bydd rhaid i ni gytuno ar fanylion y ffordd yr ydych yn bwriadu cyflawni’r dymchweliad a sut yr ydych yn cynnig adfer y safle wedi hynny.

Bydd arnoch angen gwneud cais am benderfyniad ffurfiol p’un a ydym yn dymuno cymeradwyo’r manylion hyn cyn i chi ddechrau’r gwaith dymchwelyd. Dyma a elwir yn “gais cymeradwyaeth ymlaen llaw” a gallwn egluro beth mae hyn yn ei olygu.

gwneud cais ar-lein am HYSBYSU YMLAEN LLAW AM GYNNIG I DDYMCHWEL

Efallai y bydd arnoch angen caniatâd adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth ar gyfer dymchwel adeiladau rhestredig neu adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth.

Dylech drafod hyn gyda ni cyn i chi benderfynu dymchwel adeiladau mewn lleoliadau sensitif er mwyn osgoi achos cyfreithiol yn eich erbyn.

gwneud cais ar-lein am GANIATÂD ADEILAD RHESTREDIG NEU NEWIDIADAU, ESTYNIAD NEU DDYMCHWEL ADEILAD RHESTREDIG

Nid oes angen cynlluniau proffesiynol ar gyfer ffurflenni ymholi rhagarweiniol ond mae’n rhaid i’r diagramau roi digon o fanylion i’r swyddog allu rhoi ateb. Os na fydd y diagramau’n ddigonol, efallai y bydd y swyddog yn gofyn am ddiagramau newydd, fydd yn gohirio unrhyw atebion.