Canllaw i Orfodi Rheolau Cynllunio yn Sir Gaerfyrddin

Adolygu a monitro'r cynllun hwn

Wrth lunio'r cynllun hwn, mae'r Cyngor yn cydnabod yr angen i sicrhau ei fod yn cael ei adolygu o bryd i'w gilydd a'i ddiweddaru yn ôl yr angen i sicrhau ei fod yn parhau'n addas i'r diben yn y dyfodol. Felly, bydd yr adran gynllunio yn cynnal adolygiad o'r cynllun bob tro y bydd newid sylweddol yn y ddeddfwriaeth (gan gynnwys cyfraith achosion) neu bolisïau'r cynllun datblygu.