Gofalwyr Sydd am Ddychwelyd i'r Gwaith
Diweddarwyd y dudalen ar: 21/02/2024
A yw eich rôl fel gofalwr wedi dod i ben?
A yw eich rôl fel gofalwr wedi newid?
A ydych chi’n ystyried dychwelyd i’r gwaith?
Y camau cyntaf
Os ydych yn ystyried dychwelyd i’r gwaith ond nad ydych yn siŵr beth hoffech chi ei wneud, dechreuwch drwy gydnabod y sgiliau a’r diddordebau sydd gennych.
Meddyliwch am yr hyn yr ydych wedi ei ddysgu o’r canlynol:
- unrhyw waith am dâl yr ydych wedi'i wneud
- tasgau a chyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â’ch rôl fel gofalwr neu riant, yn ogystal â chynnal cartref
- unrhyw weithgareddau eraill yr ydych yn eu gwneud, er enghraifft, gwaith gwirfoddol, pwyllgorau
Ar ôl hynny, nodwch eich diddordebau; meddyliwch am:
- yr hyn yr ydych yn mwynhau ei wneud
- sut yr hoffech chi ddefnyddio eich sgiliau
- y pethau yr oeddech yn arfer eu gwneud ond yr ydych bellach yn gweld eu heisiau e.e. eich gwaith blaenorol.
Siaradwch â’ch teulu neu’ch ffrindiau, rhannwch syniadau â nhw, gwnewch restr – ychwanegwch syniadau at y rhestr honno wrth ichi feddwl am bethau eraill.
Gallech hefyd baratoi rhestr o’r hyn nad ydych yn hoffi ei wneud.
Paratowch gynllun
Meddyliwch am nodau yn y tymor byr (efallai dros y chwe mis nesaf) a nodau yn yr hirdymor (12 - 18 mis neu hyd yn oed ar ôl hynny) gan baratoi cynllun o’r hyn yr hoffech chi ei wneud. Gwnewch yn siŵr fod modd cyflawni’r cynllun - cofiwch gynnwys camau bychain ynghyd â nodau y gallwch eu cyflawni yn yr hirdymor. Pan fyddwch yn gwybod yr hyn y dymunwch ei wneud, gallwch chwilio am y math o gymorth a fyddai fwyaf addas ar eich cyfer. Os ydych yn dal yn ansicr ynghylch yr hyn yr ydych yn dymuno ei wneud neu hyd yn oed yr hyn y gallwch chi ei wneud, mae’n bosibl y bydd y canlynol o gymorth i chi o ran cynnig rhai syniadau.
Gwaith rhan-amser - Dyma ffordd dda o sicrhau bod modd i’ch gwaith gyd-fynd â’ch cyfrifoldebau neu’ch ymrwymiadau eraill. Os yw eich gwaith rhan-amser yn golygu eich bod yn gweithio llai nag 16 awr yr wythnos, mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhai budd-daliadau o hyd.
Rhannu swydd |
Weithiau gall dau o bobl rannu swydd amser llawn. Edrychwch am swyddi a gaiff eu hysbysebu yn swyddi y gellir eu rhannu. |
Gweithio hyblyg |
Weithiau bydd cyflogwyr yn cytuno ar drefniadau gweithio hyblyg. |
Hunangyflogaeth |
Mae gweithio i chi eich hunan yn cynnig hyblygrwydd a’r math o her y mae rhai pobl yn ei fwynhau, ond byddwch yn ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol (er enghraifft, talu eich treth incwm eich hunan). |
Gwaith asiantaeth |
Gallech weithio mewn swydd am gyfnod penodedig o amser (fel arfer byddwch yn gweithio am hyd y prosiect neu byddwch yn cyflenwi dros aelod parhaol o staff). |
Gwaith am dâl yn y Sector Gwirfoddo |
Mae llawer o sefydliadau gwirfoddol yn cyflogi pobl a gallai hyn fod o ddiddordeb ichi. |
Gweithio yn ystod y tymor yn unig |
Gallai peidio â gweithio yn ystod gwyliau’r ysgol fod yn ddelfrydol os oes gennych blant sy’n mynd i’r ysgol. |
Gweithio yn ystod y gwyliau |
Dewis ymarferol os ydych yn dal i astudio. |
Gwaith Gwirfoddol |
A ydych wedi ystyried gwneud unrhyw waith gwirfoddol? Gallai hyn eich helpu i ailgynefino â’r byd gwaith. Gall gwaith gwirfoddol eich helpu chi i benderfynu ar yr hyn y byddech yn hoffi ei wneud ynghyd â phenderfynu ar nifer yr oriau y byddech yn dymuno ei weithio bob diwrnod / bob wythnos. Mae elusennau a sefydliadau gwirfoddol bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr. |
Mae Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CAVS) yn cynnig gwybodaeth am amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli yn Sir Gaerfyrddin. Mae pobl yn gwirfoddoli am nifer o wahanol resymau:
- Cwrdd â phobl newydd
- Cael profiad gwaith
- Dysgu sgiliau newydd
- Helpu pobl eraill yn y gymuned
- Sicrhau mynediad at hyfforddiant neu "gyfle yn syml i adael y tŷ"
- Rhoi rhywbeth yn ôl i gymdeithas
Gallwch gofrestru â Biwro Gwirfoddoli CAVS yn rhad ac am ddim a byddwch yn derbyn gwybodaeth reolaidd ynghylch swyddi i wirfoddolwyr, hyfforddiant a materion sy’n effeithio ar wirfoddolwyr e.e. gwirfoddoli gan dderbyn budd-daliadau ar yr un pryd.
Mae gan rai sefydliadau sector cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin fanylion am eu Cynlluniau Gwirfoddoli ar eu gwefannau a byddant yn gallu trafod cyfleoedd â chi’n bersonol.
Mae’r profiad o ofalu am rywun yn golygu bod gennych sgiliau gwerthfawr y byddwch am eu defnyddio o bosibl i gefnogi eraill.
Mae’n bosibl y byddwch yn dymuno gweithio ym maes gofal cymdeithasol a dechrau ar yrfa newydd gan ddefnyddio’r sgiliau gwerthfawr hynny. Mae dewis eang o yrfaoedd yn y Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Efallai y bydd yn well gennych weithio mewn strwythur tîm gyda chyflogwyr megis Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol neu ddarparwr gofal annibynnol. Efallai y byddwch am weithio wyneb yn wyneb â phobl sydd angen cymorth ac sy’n derbyn arian drwy’r system taliadau uniongyrchol. Efallai y byddwch yn teimlo’n hapusach yn gweithio gyda rhywun sydd angen cymorth ymarferol. Efallai y byddwch yn dymuno arwain prosiect penodol neu ddod yn weithiwr cymdeithasol. Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnig hyfforddiant cyn cyflogi i’w chleientiaid i’w cefnogi wrth iddynt ddychwelyd i waith yn y sector gofal.
Gwasanaethau Cymdeithasol
Os ydych chi eisiau cyfuno eich gwaith â’ch rôl fel gofalwr, mae’n bosibl y byddwch chi’n dymuno gofyn i Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol am Asesiad Anghenion Cymorth Gofalwyr. Yn unol â'r ddeddfwriaeth, rhaid i’r asesiad hwn ystyried eich dymuniad (neu’ch angen) i weithio, a’r cymorth y bydd ei angen arnoch o bosibl oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol neu asiantaethau eraill fel y gallwch wneud hynny. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y byddant yn cynnig y cymorth yn uniongyrchol, ond gallant eich helpu i ddod o hyd i gymorth. Hefyd, mae’n bosibl y bydd angen Asesiad Gofal Cymunedol ar y sawl yr ydych yn gofalu amdano i benderfynu a yw'n gymwys i gael gwasanaethau.
Yn y lle cyntaf bydd y staff yn gofyn ichi roi ychydig o wybodaeth amdanoch chi eich hunan a’r sawl yr ydych yn gofalu amdano. Byddant hefyd yn gallu rhoi gwybodaeth ichi am fathau eraill o ofal a allai fod ar gael e.e. gofal dydd, a byddant yn gallu rhoi cyngor am gymorth y gallwch ei gael oddi wrth sefydliadau gwirfoddol a fydd yn caniatáu i chi weithio neu hyfforddi o bosibl.
Rhestrir isod nifer o sefydliadau a all roi cymorth i'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith.