Ymweld â ni

Diweddarwyd y dudalen ar: 20/03/2024

Mae Archifau Sir Gaerfyrddin yn agored i unrhyw un sy'n dymuno defnyddio ein harchifau. Mae'r rhan fwyaf o'n gwasanaethau am ddim, ond rydym yn codi tâl am rai gwasanaethau a chymorth ychwanegol.

I gael golwg ar ddeunydd gwreiddiol yn yr ystafell chwilio gyhoeddus, archebwch fwrdd o leiaf 24 awr cyn eich ymweliad.

Rydym yn gweithredu system archebu gan mai dim ond hyn a hyn o leoedd sydd yn yr ystafell chwilio.

I archebu lle, cysylltwch â ni.

Mae'r ystafell chwilio ar ail lawr Llyfrgell Caerfyrddin

Ar y Trên

Y brif orsaf reilffordd agosaf yw Caerfyrddin, sydd ond 10-15 munud ar droed o'r llyfrgell.

Ar y Bws

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am fysiau a theithio, gan gynnwys cynlluniwr siwrneiau, i'w gweld ar y dudalen gwasanaethau bysiau.

Parcio

Mae Maes Parcio Heol San Pedr ochr arall i adeilad y Llyfrgell ac Archifau. Gweler y dudalen barcio i gael rhagor o fanylion.

Pan fyddwch yn ymweld â ni, bydd angen ichi ddod â'r canlynol:

  • Cerdyn Archifau: Mae'n rhaid i chi ddod â Cherdyn Archifau dilys os ydych am weld dogfennau gwreiddiol yn yr ystafell chwilio. Os nad oes gennych Gerdyn Archifau eisoes, cofrestrwch i gael un cyn eich ymweliad. Mae'r Garden Archifau yn rhad ac am ddim. Gallwch gwblhau y rhan fwyaf o'r broses gofrestru ar eich pen eich hunain. Yn anffodus, nid yw hen docynnau Rhwydwaith Ymchwil Archifau’r Sir (CARN) bellach yn ddilys.
  • Pensiliau: Er mwyn helpu i ddiogelu ein dogfennau, rydym ond yn caniatáu i chi ddefnyddio pensiliau yn yr ystafell chwilio.
  • Llyfr nodiadau/papur rhydd: Caniateir llyfrau nodiadau neu ddalenni rhydd o bapur yn yr ystafell chwilio. Ni chaniateir rhwymwyr cylch, ffolderi na phocedi plastig.
  • Gliniadur/Tabledi: Mae croeso i chi ddod â gliniaduron a thabledi i'w defnyddio yn yr ystafell chwilio.
  • Camera: Gellir defnyddio camerâu digidol, ond rydym yn codi tâl ac mae cyfyngiadau ar rai casgliadau.

Mae loceri y tu allan i'r ystafell chwilio ar gyfer storio eiddo personol fel cotiau, siacedi, bagiau a bag dogfennau gan na ellir mynd â nhw i'r ystafell chwilio. I gael rhagor o wybodaeth gweler ein rheolau ystafell chwilio.

Mae modd i chi defnyddio eich ffôn symudol yn yr ystafell weithio dan yr amod eich bod wedi ei ddistewi.

Mae ein hystafell chwilio gyhoeddus ar gyfer astudio annibynnol ac mae modd cael mynediad i'r adran Astudiaethau Lleol yn y llyfrgell. Mae'r ddesg ymholiadau ar gael ar gyfer ceisiadau am ddogfennau o'r ystafelloedd diogel dan oruchwyliaeth. Yn ogystal, mae gennym:

  • Digonedd o fyrddau astudio gan gynnwys man yn benodol ar gyfer gweld mapiau a dogfennau mwy o ran maint.
  • Silffoedd a droriau wedi'u llenwi â'n mynegeion a'n catalogau.
  • Ystod o lyfrau hanes teulu, hanes lleol a chyfeirlyfrau perthnasol i gefnogi eich ymchwil.
  • Wi-Fi cyhoeddus am ddim ar gael ym mhob rhan o'r adeilad.

Rydym yn gwneud ein gorau i fodloni gofynion mynediad ymwelwyr, felly mae croeso i chi ofyn a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i gynorthwyo yn ystod eich ymweliad.

  • Mae dolen sain wedi'i gosod wrth ddesg yr ystafell chwilio.
  • Gellir addasu uchder byrddau’r ystafell chwilio fel eu bod yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn.
  • Mae darllenwyr microffilm a fiche gydag adnodd chwyddhad mawr ar gael yn y llyfrgell.
  • Ni chaniateir anifeiliaid yn yr adeilad, ond mae croeso i gŵn cymorth.
  • Mae croeso i blant ym mhob man cyhoeddus gan gynnwys yr ystafell chwilio. Mae croeso i chi ddod â llyfrau neu deganau i'w difyrru.

Rydym yn cynnig ymweliadau i grwpiau sydd am gael gwybod mwy am Archifau Sir Gaerfyrddin a'i daliadau. Mae pob ymweliad yn gwbl hygyrch, ac yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i'r gwasanaeth
  • Taith o'r adeilad sy’n cynnwys:
  • Cyflwyniad ynghylch defnyddio'r ystafell chwilio
  • Blas o'n Hystafelloedd Diogel i weld lle mae ein dogfennau'n cael eu cadw
  • Cyfle i gael golwg ar nifer o ddogfennau gwreiddiol yn ymwneud â'ch ardal leol neu bwnc o ddiddordeb

 

Rydym yn darparu ystod o weithdai i grwpiau ysgol i gael golwg ar archifau mewn modd rhyngweithiol ac ymarferol. Mae'r gweithdai yn ymdrin â phynciau gwahanol megis hanes lleol, daearyddiaeth, gwyddoniaeth, rhifedd a llythrennedd.

I archebu gweithdy neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni i drefnu dyddiad a thrafod eich ymweliad. Rydym yn argymell eich bod yn ymweld â ni ymlaen llaw fel y gallwch gyfarfod ag un o’n tîm a fydd yn siarad â chi am y gweithdy ac yn eich tywys trwy’r adeilad.