FAQs

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/01/2024

Mae’r neuadd hardd hyn yn Radd 2 Rhestredig ac yn un o'r adeiladau hynaf yn y dref. Mae'r neuadd eang, ddeniadol yn darparu ar gyfer ystod eang o swyddogaethau - gan gynnwys priodasau, cyngherddau, cynadleddau a chyfarfodydd cyffredinol. Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer arddangosfeydd celf a chrefft a pherfformiadau cerddoriaeth / theatr.

I hurio ystafell yma galwch 01554 744327

Gall grwpiau ac unigolion logi'r Oriel ar gyfer arddangosfeydd, cyfarfodydd, lansiadau llyfrau, Ioga, ymweliadau ag ysgolion, sioeau ffilm a.y.b. Mae'r oriel yn ystafell agored mawr gyda waliau gwyn, sy’n cael digon o olau a aer, wedi leoli ar y llawr cyntaf gyda mynediad trwy lifft neu'r grisiau. Mae yna le i 60 o gadeiriau.

I hurio ystafell yma galwch 01269 598360

Ystafell Gynadledda all eistedd 8 o bobl yn gyfforddus.  Wedi'i leoli ar y llawr cyntaf gyda mynediad trwy lifft neu'r grisiau.

I hurio ystafell yma galwch 01269 598360

Mae ystafell eang a gweithredol yn ddelfrydol ar gyfer ystod o weithgareddau – arddangosfeydd Celf a Chrefft, cyngherddau bychain, cynadleddau, a digwyddiadau cymunedol amrywiol.  Yn medru cynnwys hyd at 60 o bobl yn eistedd. Mynediad i’r anabl drwy lifft.

I hurio ystafell yma galwch 01267 224824

Cynadleddau mawr, gofod pleserus ag awyrog sydd yn medru cynnwys hyd at 40 o bobl yn eistedd yn gyffyrddus. Mynediad i’r anabl drwy lifft.

I hurio ystafell yma galwch 01267 224824

Yn ddelfrydol ar gyfer dosbarthiadau bach, cyfweliadau, ayb. Mynediad i’r anabl drwy lifft.

I hurio ystafell yma galwch 01267 224824