Cynnal a Chadw Gerddi

Diweddarwyd y dudalen ar: 05/09/2023

Fel deiliad contract Cyngor Sir Caerfyrddin (tenant), eich cyfrifoldeb chi yw cynnal a chadw'r llystyfiant yn eich gardd eich hun, yn unol â thelerau eich contract meddiannaeth.

Telerau Contract Meddiannaeth - Cynnal a chadw eich gardd (A) 88. Mae'n rhaid ichi gadw eich gardd yn lân ac yn daclus, ac mae'n rhaid ichi ofalu am y lawnt, y cloddiau, y coed a’r llwyni. Os yw'r ardd wedi'i gordyfu, ac nad oes rheswm da pam na allwch wneud y gwaith, efallai y byddwn yn gwneud y gwaith ac yn codi tâl arnoch amdano.

Mae cynnal a chadw eich gardd yn cynnwys:

  • Gwaredu chwyn
  • Tocio cloddiau
  • Gwaith tocio cyffredinol ar goed a llwyni
  • Cynnal a chadw'r lawnt
  • Tocio iorwg
  • Gwaredu coeden fach
  • Gwaredu gwastraff gardd/sbwriel


Mae gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd yn yr ardd yn sicrhau bod gennych fan gwyrdd dymunol i'w fwynhau. Mae hefyd yn atal problemau sy'n niwsans i'ch cymydog ac yn lleihau'r risg o lystyfiant yn difrodi strwythurau yn yr ardd ac o bosibl eich eiddo. Mae mannau gwyrdd yn wych ar gyfer annog bywyd gwyllt, hyrwyddo iechyd da a llesiant meddyliol. Gallwch hyd yn oed dyfu eich ffrwythau a'ch llysiau eich hun, sy'n ffordd wych o arbed arian a mwynhau bwyd ffres.