Gwaith Coed

Diweddarwyd y dudalen ar: 13/07/2023

Nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflawni gwaith coed er mwyn eich cynorthwyo â'r canlynol:

  • Coed mawr neu dal – nid ydym yn tocio nac yn cwympo coed dim ond oherwydd eu bod nhw'n fawr, yn dal neu'n symud yn naturiol yn y gwynt.
  • Coed sy'n rhwystro golau a gwaith tocio cyffredinol.
  • Dail, hadau, paill, cnau neu ffrwythau sydd wedi syrthio.
  • Coed mewn eiddo cyfagos sy'n tyfu dros eich gardd (oni bai eu bod yn beryglus neu'n difrodi eich eiddo).
  • Derbyniad teledu gwael.
  • Cwteri wedi'u blocio.
  • Llanastr adar.
  • Pryfed yn bresennol/sudd.
  • Gwaredu gwastraff gardd.

 

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig cymorth ichi os yw'r canlynol yn berthnasol:

  • Mae'r goeden wedi marw, yn marw neu mae'n goeden beryglus.
  • Mae'r goeden yn achosi difrod uniongyrchol, neu mae'n cyffwrdd ag eiddo. Er enghraifft, mae canghennau'n cyffwrdd â'r to, neu mae difrod wedi'i wneud i strwythur oherwydd ei fod yn cyffwrdd â boncyff, gwreiddiau neu gorun coeden.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Canghennau sy’n gordyfu

Os yw canghennau coeden cymydog yn tyfu dros eich eiddo, gallwch eu torri'n ôl eich hun, oni bai bod y goeden wedi'i gwarchod gan Orchymyn Cadw Coed neu ei bod mewn ardal gadwraeth.

Gallwch docio'r canghennau yn ôl i ffin eich eiddo ond dim pellach. Mae'n rhaid gwneud y gwaith o'ch eiddo eich hun. Mae'n rhaid ichi waredu unrhyw doriadau eich hun. Peidiwch â'u gadael ar dir y Cyngor.

Dylech hefyd wirio nad yw'r goeden yn destun Gorchymyn Cadw Coed neu wedi'i lleoli mewn Ardal Gadwraeth, cyn gwneud unrhyw waith coed.
Coed (llyw.cymru)

Tai