Ynglŷn â'ch rhent

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/12/2023

Tâl a godir yn wythnosol am yr eiddo rydych yn byw ynddo yw eich rhent. Efallai y bydd rhaid ichi dalu am unrhyw wasanaethau ychwanegol rydych yn eu derbyn hefyd. Gallai'r rhain gynnwys:

  • system wresogi a rennir
  • taliadau gwasanaeth tai gwarchod
  • glanhau mannau a rennir ag eraill - mewn bloc o fflatiau, er enghraifft
  • Gwasanaeth Larwm Llesiant Delta

Os ydych yn byw mewn bloc o fflatiau sy'n cael ei wresogi a'i lanhau, mae'r costau'n cael eu rhannu rhwng holl breswylwyr y bloc ac mae eich cyfran chi yn cael ei hychwanegu at gyfrif eich rhent.

Wythnosau heb gasgliad

Rydym yn cyfrifo eich rhent ar y sail y byddwch yn talu'r rhent am y flwyddyn lawn drwy daliadau wythnosol. Bob blwyddyn, byddwn yn pennu hyd at bedair wythnos heb gasgliad, pan na fyddwn yn casglu'r rhent oddi wrthych. Os nad ydych chi ar ei hôl hi yn talu eich rhent, ni fydd angen y taliadau oddi wrthych yn ystod yr wythnosau 'heb gasgliad'.

Os ydych ar ei hôl hi yn talu eich rhent, bydd angen ichi barhau i dalu yn ystod yr wythnosau 'heb gasgliad' er mwyn lleihau neu glirio'r swm sy'n ddyledus gennych. Pan ddaw eich tenantiaeth i ben, ni fyddwn yn ad-dalu unrhyw swm am yr wythnosau heb gasgliad.

Wythnosau pan na fydd unrhyw rhent yn cael ei gasglu yw'r rhain. Bydd y cyfnod cyfrifyddu rhent am 2023/24 yn gyfnod o 52-wythnos o'r 3ydd Ebrill 2023 hyd y 31ain Mawrth 2024. Fodd bynnag, cyfnod o 48 wythnos a fydd yn cael ei ddefnyddio wrth gyfrifo eich rhent oherwydd y pedair wythnos "peidio â chasglu rhent" (sef yr wythnosau a fydd yn dechrau ar y 28ain Awst 2023, 18fed Rhagfyr 2023, 25ain Rhagfyr 2023, a'r 25ain Mawrth 2024) a fydd yn berthnasol i'r tenantiaid hynny sydd wedi talu pob taliad sy'n ddyledus.

Pryd mae'r rhent yn ddyledus?

Mae eich rhent yn ddyledus ar ddydd Llun a rhaid ei dalu erbyn diwedd yr wythnos. Mae'r rhan fwyaf o denantiaid yn talu eu rhent yn wythnosol, ond gall fod yn fwy hwylus i chi dalu'r rhent bob pythefnos neu'n fisol. Os ydych yn dymuno talu dros gyfnod hirach, rhaid gwneud y taliadau hyn ymlaen llaw (hynny yw, ar gyfer y mis sydd i ddod).

Mae'r rhent rydym yn ei gasglu yn helpu i gynnal a gwella ein gwasanaethau i'n tenantiaid. Os ydych yn hwyr yn talu eich rhent, rydych yn torri telerau eich cytundeb tenantiaeth. Rydym yn ystyried casgliadau rhent yn ddifrifol iawn oherwydd os na thelir y rhent, bydd llai o arian ar gael i dalu am bethau fel atgyweiriadau.

Gall methu â thalu'r rhent sy'n ddyledus ar amser arwain at Ddyfarniad Llys Sirol a fydd yn effeithio ar eich sgôr credyd a gallech chi golli eich cartref. Byddai hyn yn ei wneud yn anodd iawn ichi gael credyd neu gael tŷ gan y cyngor yn y dyfodol.

Newidiadau i'ch rhent

Mae swm y rhent rydych yn ei dalu yn cael ei adolygu ar ddechrau bob blwyddyn gan ddilyn canllawiau'r llywodraeth. Bydd unrhyw newid yn eich rhent yn cychwyn ym mis Ebrill a byddwn yn rhoi gwybod ichi o leiaf pedair wythnos cyn bod eich rhent yn newid.

Tai