Ydych chi wedi derbyn eich contract meddiannaeth wedi'i drosi?

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/02/2024

Mae'r holl gontractau o 01/12/22 ac nid ydynt yn adlewyrchu unrhyw newidiadau ers hynny.

Dylai'r contract hwn gynnwys:

  • Enwau'r unigolion sy'n rhentu a chyfeiriad yr eiddo sy'n cael ei rentu.
  • Hawliau a chyfrifoldebau. Er enghraifft, cyfrifoldeb y landlord yw trwsio pethau yn y cartref.
  • Materion o ddydd i ddydd. Er enghraifft, dweud wrth y landlord os nad oes neb yn mynd i fod yn y cartref am 4 wythnos neu fwy.
  • Gwybodaeth arall. Er enghraifft, a ydych chi'n cael cadw anifeiliaid anwes neu beidio.

Mae'r Contract yn gontract cyfreithiol rhyngoch chi a Chyngor Sir Caerfyrddin (y Landlord Cymunedol). O dan y Contract ac yn unol â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (RHWA) mae'r contract hwn yn disodli eich cytundeb tenantiaeth. Rydych yn Ddeiliad Contract Diogel ac yn byw yn yr eiddo o dan amodau'r Contract. Mae'n bwysig eich bod yn darllen ac yn deall y Contract, yn enwedig y Datganiad Ysgrifenedig o Delerau ac Amodau.

Gellir gorfodi'r Contract drwy'r llysoedd felly mae'n rhaid ichi gadw at yr amodau a nodir yn y contract, neu fel arall gallech golli eich cartref. Rydych hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod aelodau eich cartref, eich perthnasau, a'ch ymwelwyr (gan gynnwys plant) yn cadw at yr amodau hyn.

Rhowch wybod os ydych yn ansicr am unrhyw beth yn y contract neu os oes gwallau o ran eich manylion yn y contract, cysylltwch â ni ar 01267 234567 neu e-bostiwch tai@sirgar.gov.uk

Os ydych am ddysgu mwy am Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ewch i wefan Llywodraeth Cymru:

Llywodraeth Cymru Rhentu Cartrefi Cwestiynau Cyffredin Tentantiaid

Llywodraeth Cymru Rhentu Cartrefi - Mae cyfraith tai yn newid

Tai