Eiddo gwag

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/03/2024

Os ydych yn berchen ar eiddo sydd ar hyn o bryd yn wag ac nad ydych yn siŵr iawn beth i'w wneud ag ef, gallwn ni eich helpu. Ein nod yw defnyddio tai gwag unwaith yn rhagor a gallwn roi ystod o wybodaeth ichi ynghyd â'r opsiynau sydd ar gael.

Rydym yn awyddus i weithio gyda pherchnogion eiddo gwag i wneud unrhyw welliannau angenrheidiol ac ailanheddu'r eiddo.

Manteisio ychwanegol defnyddio eiddo gwag unwaith yn rhagor yw;

Byddwch yn:

  • Lleihau'r costau sydd gennych i'w talu ar gyfer yr eiddo, gan gynnwys y Dreth Gyngor a gwasanaethau eraill (nwy, trydan a dŵr).
  • Sicrhau bod rhywun yn byw yn yr eiddo ac felly bydd llai o debygolrwydd o ddifrod.
  • Atal dirywiad pellach i'r eiddo, ac unrhyw gamau gorfodi ffurfiol.

Gallwn eich helpu chi drwy ddarparu cyngor a chyfarwyddyd ar yr opsiynau canlynol;

Os yw eich eiddo mewn cyflwr gwael a bod angen gwneud gwaith sylweddol er mwyn dod ag ef i safon resymol, gallwn roi cyngor am ddim i chi ynglŷn â'r gwaith sydd angen ei wneud, a gallwn eich helpu i ddod o hyd i asiantiaid addas a fydd o bosib yn gallu rheoli'r gwaith adnewyddu ar eich rhan.

Rydym yn gweithio gyda'n tîm Safonau Masnach sydd wedi creu rhestr o gontractwyr cymeradwy y gallwch chi eu defnyddio o'r cynllun Prynu â Hyder. Rydym hefyd yn gallu darparu cyngor a chyfarwyddyd ichi ynglŷn â sut y mae cael yr arian sydd ei angen arnoch i gyflawni'r gwaith. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gymorth ariannol drwy fenthyciadau di-log a gallwn hefyd ddarparu cymorth ag eithriadau ag TAW.

 

Os yw eich eiddo mewn cyflwr da, gallech ennill ffrwd incwm sylweddol drwy rentu eich eiddo. Os byddai'r eiddo'n cael ei rentu ni fyddech chi'n gyfrifol am dalu'r Dreth Gyngor, a byddech yn arbed rhwng £900 a £1,200 ychwanegol y flwyddyn. Gallwch edrych ar ein tudalen Lwfans Tai Lleol i gael syniad o'r rhent y gallwch ei ddisgwyl am eich eiddo. Gallwn roi cyngor ac arweiniad ynghylch rheoli'r eiddo eich hun.

Os ydych yn dymuno defnyddio'r eiddo fel Aelwyd Un Person neu Dŷ Amlfeddiannaeth, gallwn roi cyngor ac arweiniad ichi ynglŷn â safonau tai a diogelwch tân, rheoliadau tai amlfeddiannaeth a Rhentu Doeth (Cymru). Bydd y dolennau canlynol hefyd yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd;

Mae gennym Asiantaeth Gosodiadau Cymdeithasol o'r enw Gosod Syml, sy'n gweithio mewn ffordd debyg â defnyddio asiantaeth gosod preifat, ond byddem yn darparu'r gwasanaeth rheoli i chi.


Mae tâl o 0% am ffioedd rheoli a dim ffioedd gweinyddol ac fel rhan o'n Pecyn Platinwm, gallwn gynnig i chi;

  • Cynllun dod o hyd i denant am ddim
  • Incwm rhent gwarantedig gan gynnwys cyfnodau gwag
  • Mae'r holl gostau atgyweirio a chynnal a chadw o ddydd i ddydd yn cael eu talu
  • Tystysgrif diogelwch nwy landlordiaid am ddim
  • Gwasanaeth gwres canolog a phlymwaith 24/7 am ddim
  • Adroddiad profi ac arolygu trydan am ddim  
  • Tystysgrif perfformiad ynni am ddim
  • Cyngor am ddim gan staff cymwys a rheoledig  
  • Adnoddau Digidol Proffesiynol
  • Contractau Meddiannaeth Am Ddim
  • Gwarant hawlildio difrod
  • Dim gofyniad i gael eich trwyddedu gyda Rhentu Doeth Cymru

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Gosod Syml drwy e-bostio: gosodsyml@sirgar.gov.uk

Gallwch werthu eich eiddo drwy werthwr tai lleol a gallwn roi rhestr i chi o werthwyr tai yn eich ardal chi neu gallwn drefnu i'ch eiddo gael ei brisio. Bydd hyn yn rhoi darlun clir ichi o werth cyfredol eich eiddo.

Fel arall, gallwch werthu'r eiddo drwy arwerthiant. Manteision defnyddio arwerthwyr yw eu bod yn gyflym, yn bendant, gyda chontract rhwymol pan gaiff y cynnig uchaf ei dderbyn, ac fel rheol bydd y gwerthiant cyn pen 28 niwrnod. Mae'r rhain yn arbennig o addas ar gyfer eiddo mewn cyflwr gwael na ellir ei forgeisio, gan fod arwerthiannau'n denu datblygwyr, adeiladwyr lleol a'r rhai sy'n prynu ag arian parod.

Os byddwch yn dewis gwerthu'r eiddo drwy arwerthiant, wrth ddewis gwneud hynny trwy'r Cyngor hwn bydd gennych hawl i ostyngiad yng nghanran y tâl mewn ffioedd a allai arbed dros £1000 i chi.

 

Tai