Gwaith ac atgyweiriadau mawr

Diweddarwyd y dudalen ar: 29/02/2024

Caiff gwaith mawr ei ddiffinio fel unrhyw waith a fydd yn costio mwy na £250 i lesddeiliad unigol. Os yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwriadu adennill costau'r gwaith hwn gan y lesddeiliad, yna bydd angen ymgynghori ffurfiol â lesddeiliaid o dan adran 20 o Ddeddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985. Diwygiwyd y gofynion ymgynghori hyn gan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 Cymru.

Mae Adran 20 o Ddeddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985 yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi manylion i chi a gofyn am eich sylwadau am waith a gwasanaethau arfaethedig. Gelwir hyn yn ymgynghoriad. Gwneir hyn drwy anfon hysbysiad ffurfiol atoch o'r enw Hysbysiad Adran 20.

Os na fyddwn yn gwneud hyn, efallai na fyddwn yn gallu codi cost lawn y gwaith a'r gwasanaethau arnoch. Mae Adran 20 yn nodi'r ffordd y mae'n rhaid i ni ymgynghori â chi.

O fewn Cyngor Sir Caerfyrddin mae 10 o brydlesi gwahanol wedi cael eu defnyddio pan fydd tenantiaid wedi prynu'r eiddo gan yr awdurdod neu ei ragflaenwyr.

Gwaith cylchol i strwythur neu adeiladwaith yr adeilad yw gwaith mawr fel arfer. Gall hyn gynnwys paentio allanol neu ail-doi, lle mae'r les yn caniatáu i ad-daliad gael ei wneud i'r lesddeiliad adennill costau'r gwaith.

Tai