Gosod eich tŷ rhannu ecwiti

Diweddarwyd y dudalen ar: 05/09/2023

Os ydych chi eisiau symud allan o'ch tŷ rhannu ecwiti, neu os oes angen i chi wneud hynny, ond nad ydych chi eisiau ei werthu, fel arfer gallwch chi ei osod dan gytundeb Adran 106. Dylech chi edrych ar eich cytundeb Adran 106 i gael rhagor o wybodaeth.

Fel arfer nodir y swm y gallwch chi ei godi am rent yn eich cytundeb Adran 106. Yn gyffredinol mae'n 20% yn llai na rhent cyfredol y farchnad.

Byddem ni'n defnyddio'r cyfraddau Lwfans Tai Lleol fel canllaw ar gyfer y rhent mwyaf y gallwch chi ei godi. Mae'r rhenti mwyaf ar hyn o bryd fel a ganlyn.

Maint yr eiddo Rhent wythnosol mwyaf
Un ystafell wely £80.55  
Dwy ystafell wely £97.81
Tair ystafell wely £110.47
Pedair ystafell wely £136.94

Dylai'r gost rhent wythnosol hon gynnwys unrhyw dâl am wasanaethau neu ffioedd rheoli. Cyn i chi allu gosod eich tŷ, byddai'n rhaid i ni gadarnhau eu bod yn gymwys i rentu tŷ fforddiadwy. Byddai angen arnom fanylion ynglŷn â phwy ydynt, eu hincwm, eu cynilion ac ati, i sicrhau eu bod yn bodloni'r meini prawf. Fel canllaw, ni ddylai'r tenantiaid ennill mwy na'r cyfanswm incwm cyfartalog yn yr ardal.

Ardal Incwm canolrif cyfartalog (2022/23)
Aman £30,072
Gwendraeth £31,562
Llanelli £28,297
Taf Myrddin £31,794
Teifi £29,741
Tywi £33,111  

Rhaid i'r tenant beidio:

  • bod yn berchen ar unrhyw eiddo arall neu fod â buddiant mewn eiddo arall (oni bai bod angen iddo/iddi symud oherwydd tor-perthynas); neu
  • bod â chynilion sylweddol.

Gallwn ni gysylltu â'r tenant os nad yw'n hapus i roi'r wybodaeth hon i chi. Gallwch chi hysbysebu'r eiddo gydag asiantaeth gosod tai ond ni all unrhyw ffi am wneud hynny gael ei hychwanegu at y rhent.

Ni fyddwn yn gofyn am unrhyw eirda ar gyfer darpar denantiaid. Chi fyddai'n penderfynu ar hyn. Yr unig beth y byddwn ni'n ei wneud fyddai gwirio bod y darpar denant yn bodloni'r meini prawf cymhwyso. Dylech chi gadarnhau gyda'ch cwmni morgais eich bod yn gallu gosod yr eiddo gan nad yw rhai cynigion morgais yn caniatáu hyn.

Hoffwn rentu fy nghartref rhannu ecwiti

Tai