Addasu eich cartref

Diweddarwyd y dudalen ar: 30/11/2023

Oes gennych chi broblemau symud o amgylch eich cartref oherwydd salwch, cyflwr iechyd neu anabledd? Efallai y byddwn yn gallu addasu'ch cartref i'ch helpu i fyw'n fwy annibynnol. Pan fydd eich cartref yn cael ei addasu, bydd yn cael ei newid fel ei fod yn fwy addas i ateb eich anghenion corfforol. Gall addasiadau gynnwys unrhyw beth o ramp, i lifft grisiau neu lifft o un llawr i’r llall, neu cawod mynediad hwylus.  Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr, ond bydd yr addasiadau y gallwn eu cynnig yn dibynnu ar eich anghenion a'ch cartref yn dilyn asesiad gan Therapydd Galwedigaethol.

Os ydych yn berchennog tŷ neu'n denant preifat, yn y rhan fwyaf o achosion mae cymorth ar gael os ydych chi (neu rywun sy’n byw gyda chi) yn anabl, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer grant cyfleusterau i'r anabl i helpu i dalu am addasiadau neu gyfleusterau. Uchafswm y grant sydd ar gael yw £36,000. Nid oes angen ichi fod wedi’ch cofrestru’n anabl i wneud cais.

Hyn a hyn o adnoddau sydd gennym i wneud addasiadau, felly rydym yn ceisio helpu'r rheiny sydd â lleiaf o arian i dalu am waith ar eu tai gyntaf. Byddwn yn gofyn ichi roi gwybodaeth inni am eich incwm a'ch cynilion er mwyn inni asesu a oes gennych fodd ariannol i dalu am y gwaith.

Efallai y gofynnir ichi dalu cyfraniad tuag at gost y gwaith, ond byddem yn trafod hyn gyda chi cyn symud ymlaen. Os yw'r addasiad ar gyfer plentyn, nid ystyrir prawf modd mewn perthynas â'r plentyn na'i riant neu warcheidwad.

Hefyd, os ydych yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol sy'n gysylltiedig ag incwm, mae'n annhebygol y bydd yn rhaid ichi dalu cyfraniad:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai
  • Credyd Pensiwn Gwarantedig
  • Lwfans Ceisio Gwaith - yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Treth Gwaith (ac incwm blynyddol sy'n llai na £15,050)
  • Credyd Treth Plant (ac incwm blynyddol sy'n llai na £15,050)
  • Y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm

Os nad ydych eisiau datgelu eich manylion ariannol neu os ydych yn teimlo na fyddwch yn gymwys, ni fyddwn yn gallu symud ymlaen ag unrhyw addasiadau ar eich rhan. Fodd bynnag, gallwch gysylltu â'n hadeiladwyr cymeradwy o hyd i drefnu gwaith yn annibynnol ar yr Awdurdod.

Os ydych yn denant tŷ cyngor, ni chodir tâl am y gwaith y byddwn yn ei wneud ar eich cartref. Mae'n annhebygol y bydd eich rhent yn cynyddu o ganlyniad i'r addasiad i'ch cartref, ond byddwn yn trafod hyn gyda chi cyn symud ymlaen â'r gwaith os bydd eich rhent yn cael ei effeithio.

Gallwch chi neu aelod o'ch teulu gyflwyno cais yn uniongyrchol (neu gallwch gael eich atgyfeirio gan weithiwr proffesiynol ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol). Bydd asesiad yn cael ei gynnal gan therapydd galwedigaethol a fydd yn cydweithio â ni i ganfod pa newidiadau y gallwn eu gwneud i'ch helpu i fyw'n fwy diogel ac annibynnol yn eich cartref. Os na fyddwn yn gallu addasu eich cartref, gallwn siarad â chi ynghylch symud i gartref arall sydd eisoes wedi'i addasu, neu y gellir ei addasu fel ei fod yn addas ar gyfer eich anghenion.

Mae'n hanfodol ein bod yn siarad â chi pan fyddwn yn cymryd y cais gan fod angen inni sicrhau ein bod yn casglu'r wybodaeth gywir. Ffoniwch ni ar 01554 899231 – dydd Llun i ddydd Iau 8.45 – 5pm and 8.45 – 4.30 ar ddydd Gwener. Os ydych chi'n denant Gwalia / Pobl, Cymdeithas Teulu, Bro Myrddin, Cymdeithas Cymru a Gorllewin, bydd angen i chi alw Llesiant Delta ar 0300 333 22 22.

Tai