Help gyda'ch bond

Diweddarwyd y dudalen ar: 21/06/2022

Caiff Cynllun Bond Sir Gaerfyrddin ei gynnal gan sefydliad Pobl a'i gyllido gan Lywodraeth Cymru. Mae tîm y Bond yn helpu pobl rhentu tŷ preifat a fyddai'n methu fforddio codi'r arian sydd ei angen ar gyfer Bond eu hunain.

Cynorthwyo unigolion, cyplau a theuluoedd i mewn i lety rhent preifat trwy ddarparu Dystysgrif Gwarant Bond sy'n cael ei gydnabod gan landlordiaid ledled Sir Gaerfyrddin. Mae'r Dystysgrif Gwarant Bond yn lle'r bond arian parod sydd ei angen fel blaendal ar gyfer eiddo rhent. Bydd Tîm y Cynllun Bond yn eich asesu chi i weld a oes modd iddynt eich helpu chi â bond. Bydd angen ichi:

  • bod yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref
  • bod â chysylltiad lleol â Sir Gaerfyrddin
  • bod yn hawlio budd-daliadau neu ar yr isafswm cyflog

Manteision allweddol y Cynllun Bond

  • eich helpu chi i gwblhau ffurflenni cais a chynnig cyngor am dai i chi gan gynnwys gwybodaeth am lwfans tai yr awdurdod lleol a'ch cyfeirio chi at asiantaethau perthnasol.
  • cynnal 'sesiynau galw heibio' ddydd Mawrth a dydd Iau rhwng 10am a 12 yn yr Hwb, 36 Stryd Stepney, Llanelli, SA15 3TR. I drefnu apwyntiad, cysylltwch â Thîm y Cynllun Bond drwy ffonio 01554 899327.
  • cyflwyno dystysgrif bond i landlordiaid sy'n ei yswirio rhag unrhyw ôl-ddyledion rhent neu ddifrod posibl ar ddiwedd y denantiaeth.
  • cynnig cyngor i chi a'ch landlord ynghylch sut i gael tenantiaeth lwyddiannus ac yn trafod cyfrifoldebau cyfreithiol llofnodi cytundeb tenantiaeth.
  • cynnal ymweliad cymorth dilynol 2 fis ar ôl i chi lofnodi eich tenantiaeth er mwyn sicrhau nad oes unrhyw broblemau.

Tai