Polisi Adennill Costau

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/07/2023

Yn nodi'r meini prawf ar gyfer pryd y codir tâl ar denant (deiliad contract) am atgyweiriadau sy'n
cyfrifoldeb nhw o dan y cytundeb tenantiaeth (Contract). Ein nod yw darparu tenantiaid
(deiliaid contract) gyda gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw gwerth am arian.

Rhestr wirio cyfrifoldebau am wneud gwaith atgyweirio

Gwaith Atgyweirio Nodiadau / Eithriadau Landlord Tenant (deiliad contract)
Allweddi – Wedi'u colli neu wedi'u dwyn Gall y Cyngor drefnu mynediad ond codir tâl am hynny. Os yw'r allweddi wedi eu dwyn, rhaid i chi gael rhif trosedd gan yr heddlu.   ✔ 
Basnau / sinciau Ac eithrio gosod plygiau, cadwyni a phaneli newydd. ✔   
Biniau sbwriel / whilfiniau / ailgylchu     ✔ 
Blychau llythyrau     ✔ 
Cawodydd Os cawsant eu gosod gan y Cyngor neu os oeddent yn eu lle ar ddechrau'r contract meddiannaeth. ✔   
Ceginau Os cawsant eu gosod gan y Cyngor neu os oeddent yn eu lle ar ddechrau'r contract meddiannaeth. ✔   
Cloch drws     ✔ 
Cwteri / pibellau dŵr glaw / wynebfyrddau / soffitiau   ✔   
Cynnal a chadw gerddi Oni bai y telir am hyn drwy dâl gwasanaeth (dim ond yn effeithio ar dai gwarchod a gerddi cymunedol).   ✔ 
Dreif/Llawr caled car Os cafodd ei osod gan y Cyngor neu os oedd yn ei le ar ddechrau'r contract meddiannaeth ✔   
Drysau / fframiau - allanol (yn y blaen a'r cefn) Ac eithrio gwaith cynnal a chadw sylfaenol fel iro colfachau. ✔   
Drysau / fframiau – mewnol Yn cynnwys dolenni, cloeon, colfachau, a stribedi trothwy ac addasu ar gyfer carpedi ac ati.   ✔ 
Erialau / ceblau / cysylltiadau Ac eithrio erialau cymunedol.   ✔ 
Ffaniau echdynnu   ✔   
Ffenestri Yn cynnwys silffoedd, dolenni, fframiau a gwydr dwbl y mae cyddwysiad rhwng y ddwy haen o wydr. ✔   
Ffensys/Waliau gardd Os yw'r terfyn yn eiddo i'r Cyngor a chawsant eu gosod gan y Cyngor yn wreiddiol neu os oeddent yn eu lle ar ddechrau’r contract meddiannaeth. ✔   
Ffitiadau golau – gan gynnwys switshis Ac eithrio bylbiau golau, ffiwsiau, tiwbiau fflwroleuol, a thanwyr. ✔   
Ffyrnau Yn cynnwys gwaith cysylltu a datgysylltu y mae'n rhaid iddo gael ei wneud gan beiriannydd cofrestredig Gas Safe (yn achos nwy) neu drydanwr (yn achos trydan).   ✔ 
Garej / tai allan Os cawsant eu hadeiladu gan y Cyngor neu os oeddent yn eu lle ar ddechrau'r contract meddiannaeth. ✔   
Gatiau Os cawsant eu gosod gan y Cyngor neu os oeddent yn eu lle ar ddechrau'r contract meddiannaeth. ✔   
Gosodiadau a ffitiadau Fel bachau cotiau, rheiliau llenni, rhimynnau drafftiau.   ✔ 
Grisiau Yn cynnwys canllawiau grisiau ac ati. ✔   
Gwaith plastro Ac eithrio atgyweiriadau/craciau bach ✔   
Gwifrau trydan gan gynnwys socedi a switshis   ✔   
Gwydr Os yw'n gysylltiedig â rhywun yn torri i mewn neu ddifrod troseddol arall, mae'n rhaid i chi gael rhif trosedd gan yr heddlu. Os yw'n gysylltiedig â difrod damweiniol, dylech naill ai hawlio ar eich yswiriant neu byddwn yn gwneud y gwaith atgyweirio ac yn codi tâl arnoch. ✔   
Larymau mwg Gosod batri lithiwm oes hir newydd yn lle un diffygiol neu larymau wedi'u cysylltu â'r cyflenwad trydan. ✔   
Larymau tân mewn mannau cymunedol   ✔   
Leiniau dillad Ac eithrio leiniau cymunedol / sychwyr troi cymunedol.   ✔ 
Lleoedd tân / tanau gosod Os defnyddir y rhain i losgi tanwydd solet. ✔   
Lloriau Ac eithrio gorchuddion llawr h.y. carped/finyl/leino neu laminiad pren. ✔   
Llwybrau / grisiau / rampiau Os cawsant eu hadeiladu gan y Cyngor neu os oeddent yn eu lle ar ddechrau'r contract meddiannaeth. ✔   
Mannau cymunedol Yn cynnwys mynedfeydd, coridorau, grisiau a chynteddau a rennir. Yn cynnwys larymau. Hefyd lifftiau, tyllau sbwriel, a goleuadau. ✔   
Mesuryddion nwy Cysylltwch â'ch cyflenwr nwy.   ✔ 
Mesuryddion trydan Cysylltwch â'ch cyflenwr.   ✔ 
Nenfydau Ac eithrio craciau bach a phaentio. ✔   
Offer cegin Oni bai eu bod yn cael eu darparu gan y Cyngor.   ✔ 
Paentio ac addurno y tu mewn Ac eithrio mannau cymunedol.   ✔ 
Paentio y tu allan   ✔   
Pibellau / dŵr yn gollwng Yn cynnwys pibellau draenio y tu mewn a'r tu allan. ✔   
Pibellau draenio / draeniau / pibellau gwastraff Codir tâl os cânt eu blocio dro ar ôl tro oherwydd camddefnydd tenantiaid. ✔   
Pibellau nwy Os ydych yn amau bod nwy yn gollwng, yn gyntaf, ffoniwch y Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol ar 0800 111 999 ac yna rhowch wybod i'r Cyngor. ✔   
Plâu Ac eithrio lle rydym yn gyfreithiol gyfrifol a bod risg i iechyd y cyhoedd e.e. llygod mawr neu chwilod duon.   ✔ 
Portshys Os cawsant eu gosod gan y Cyngor neu os oeddent yn eu lle ar ddechrau'r contract meddiannaeth. ✔   
Pwyntiau ffôn     ✔ 
Rheiddiaduron Ac eithrio gollwng aer o reiddiaduron. ✔   
Sgyrtin   ✔   
Simneiau / cyrn simneiau / ffliwiau Os cawsant eu gosod gan y Cyngor neu os oeddent yn eu lle ar ddechrau'r contract meddiannaeth. ✔   
Stordy / tŷ allan – brics neu goncrid   ✔   
Synwyryddion carbon monocsid Os bydd y larwm yn seinio, diffoddwch y boeler nwy / tân nwy / ffwrn nwy, agorwch y ffenestri a chysylltwch â ni. ✔   
Systemau agor a chau drysau   ✔   
Systemau gwresogi a dŵr twym gan gynnwys twymwyr tanddwr   ✔   
Tai gwydr     ✔ 
Tapiau / stopfalfiau   ✔   
Teils waliau Os cawsant eu gosod gan y Cyngor yn wreiddiol neu os oeddent yn eu lle ar ddechrau'r contract meddiannaeth. ✔   
Toeau   ✔   
Toiledau Ac eithrio seddi. ✔   
Waliau Gweler gwaith plastro hefyd. ✔   

 

Tai