Eich hawliau

Diweddarwyd y dudalen ar: 26/05/2018

Os nad ydych chi'n fodlon â'r ffordd y deliwyd â'ch cais, gallwch ofyn am adolygiad yn seiliedig ar benderfyniadau penodol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad i beidio â’u rhoi mewn band neu’n anghytuno â’r band y cawsant eu rhoi ynddo
  • Rydych yn credu y gwnaed penderfyniad ar sail gwybodaeth anghywir
  • Rydych wedi cael ei drin/thrin yn anghymwys oherwydd eu statws mewnfudo
  • Rydych wedi cael ei drin/thrin yn anghymwys i ymuno â’r gofrestr oherwydd ymddygiad anfoddhaol
  • Rydych wedi gwrthod cynnig rhesymol o lety

Mae'n rhaid i chi ofyn am gael adolygiad o benderfyniad o fewn 21 diwrnod i gael gwybod yn ysgrifenedig. Rhaid i chi roi rhesymau pam eich bod eisiau cael adolygiad o’r penderfyniad, gan gynnwys ymhle y credant y cafodd penderfyniad anghywir ei wneud. Mae gennych hawl i fod ynddo gyda chynrychiolydd, ei gynnal gan uwch swyddog yn y Cyngor. Ni fydd y swyddog adolygu wedi bod yn gysylltiedig â gwneud y penderfyniad gwreiddiol.

Byddwn yn ceisio cwblhau a rhoi gwybod i’r ymgeisydd yn ysgrifenedig beth yw’r penderfyniad o fewn pedair wythnos, wedi rhoi ystyriaeth i unrhyw wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd. Fel arall, rhoddir gwybod i’r ymgeisydd am unrhyw estyniad i’r amser sydd ei angen er mwyn gwneud y penderfyniad. Mae gennych hawl i fynd i’r Llys Sirol, ar ‘fater cyfreithiol’, os ydynt yn anghytuno â phenderfyniad yr adolygiad.

GWNEUD APÊL

Tai