Aseinio eich tenantiaeth i rywun arall

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/10/2023

Aseinio eich tenantiaeth i rywun arall (trosglwyddo contract diogel)

Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawl i drosglwyddo (aseinio) eich contract i rywun arall ond dim ond gyda'n caniatâd.

Gall hyn fod i ddeiliad contract diogel arall lle rydych chi'n cyfnewid cartrefi (a elwid gynt yn gydgyfnewid) neu i olynydd posibl (dim ond os oes ganddynt yr hawl i gymryd drosodd y contract os byddech yn marw).

Os ydych am gyfnewid cartrefi, rhaid i chi ddod o hyd i rywun i gyfnewid ag ef cyn gofyn am ein caniatâd i drosglwyddo'ch contract. Rhaid i'r person rydych yn cyfnewid ag ef fod yn ddeiliad contract diogel gyda "landlord cymunedol" arall (awdurdod lleol neu gymdeithas dai).

Os ydych am drosglwyddo eich contract i olynydd posibl, mae dau fath o 'olynydd' - olynydd â blaenoriaeth ac olynydd wrth gefn. Y math o bobl yn y categorïau hyn fydd aelodau o'r teulu a gofalwyr neu bobl sy'n briod neu'n bartner sifil i ddeiliad y contract os bu farw (neu'n byw felly).

Rhaid i chi ddweud wrthym ni os ydych am drosglwyddo eich contract.