Beth yw prydles?

Diweddarwyd y dudalen ar: 29/02/2024

Mae prydles yn gontract cyfreithiol rwymol rhyngoch chi (y lesddeiliad) a Chyngor Sir Caerfyrddin (eich landlord). Mae'n nodi'ch hawliau a'ch cyfrifoldebau a hawliau eich landlord.
Cyn i chi brynu eich eiddo, dylai eich cyfreithiwr fod wedi egluro'ch prydles yn llawn fel eich bod yn deall eich cyfrifoldebau fel lesddeiliad, a chyfrifoldebau'r cyngor fel landlord. Dylech fod wedi derbyn copi o'ch prydles gan eich cyfreithiwr.
Dylai eich benthyciwr morgais gadw'r copi gwreiddiol o'ch prydles a gellir cael copïau ganddynt. Gallwn hefyd roi copi i chi os yw'n berthnasol. Os nad oes gennych forgais, dylech gadw'r copi gwreiddiol o'ch prydles a sicrhau ei fod yn cael ei storio'n ddiogel.
Mae'n rhoi'r hawl i chi fyw yn yr eiddo am gyfnod penodol o amser cyn belled â'ch bod yn cydymffurfio â'r amodau a nodir ynddo. Bydd hyd ac amodau'r brydles yn amrywio yn dibynnu ar yr hyn a gytunwyd ar adeg ei werthu. Mae prydles fel arfer yn rhedeg rhwng 99 a 125 o flynyddoedd, ac yn y rhan fwyaf o achosion mae'n dyddio o'r tro cyntaf i eiddo gael ei werthu yn y bloc. Os ydych wedi prynu eich cartref gan lesddeiliad arall, bydd gennych hawl i fyw yno am nifer y blynyddoedd sy'n weddill ar y brydles wreiddiol.

Tai