Parod i Rentu

Diweddarwyd y dudalen ar: 30/06/2023

  • Sicrhewch eich bod yn gwybod pryd y mae eich rhent yn ddyledus
  • Mae talu'ch rhent yn rhan o'ch contract
  • Bydd angen i chi dalu'r gwahaniaeth os nad yw Credyd Cynhwysol neu fudd-dal tai yn talu'r rhent llawn

Debyd uniongyrchol
Dyma'r ffordd hawsaf a mwyaf diogel o dalu eich rhent. Mae landlordiaid preifat a chymdeithasol yn ei ffafrio.

Archeb sefydlog
Gallwch sefydlu archeb sefydlog gan eich banc i wneud taliadau rheolaidd. Cysylltwch â'ch swyddog tai i gael rhagor o wybodaeth.

Eiddo'r cyngor - cerdyn talu
Gallwch dalu'n bersonol drwy ymweld â'ch Canolfan HWB lleol yn Llanelli, Rhydaman neu Gaerfyrddin. Gallwch hefyd dalu mewn unrhyw Swyddfa Bost.

Eiddo'r Cyngor - talu dros y ffôn neu ar-lein.
01267 234567 neu 01267 679900.

Tai