Pibelli cyddwysiad wedi'i rhewi

Diweddarwyd y dudalen ar: 10/01/2023

Os ydych wedi cael boeler nwy newydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, y tebyg yw ei fod yn foeler effeithlonrwydd uchel. Mae hyn yn golygu bod mwy o ynni yn cael ei dynnu o'r cyflenwad nwy, a bydd yr allyriadau carbon a'r biliau tanwydd yn llai. Cafodd boeleri effeithlonrwydd uchel eu gosod fel rhan o raglen Safon Tai Sir Gaerfyrddin.

Mae boeleri effeithlonrwydd uchel yn cynhyrchu anwedd dŵr fel rhan o'r broses danio sy'n cynhyrchu cyddwysiad dŵr ar ôl iddo oeri.  Byddwch yn gwybod a oes gennych foeler effeithlonrwydd uchel os gallwch weld pibell blastig ymysg y pibelli metel sy'n dod o'ch boeler. Hon yw'r bibell cyddwysiad.

Fel arfer bydd y bibell cyddwysiad yn mynd o'ch boeler i ddraen fewnol, ond ambell waith - lle nad oes modd gwneud hyn wrth osod y boeler - bydd y bibell cyddwysiad yn cael ei rhoi drwy'r wal i ddraen allanol. Dylai'r bibell fod ar lefel y llawr fel rheol er mwyn gallu ei chyrraedd yn rhwydd pan fydd angen.

Yn ystod tywydd eithriadol o oer mae'r pibelli hyn yn gallu rhewi weithiau a gall hynny stopio'ch boeler rhag gweithio'n iawn.  Os bydd hyn yn digwydd, efallai y gwelwch gôd diffyg ar eich boeler, neu byddwch yn clywed sŵn dŵr yn byrlymu. Ambell waith, bydd symbol ‘dim fflam’ yn dangos.  

Beth ydw i’n ei wneud nesaf?

Os ydych yn meddwl bod eich pibell cyddwysiad wedi rhewi – yn enwedig os yw'r bibell yn mynd i'r tu allan - mae ffordd syml i'w dadrewi a chael eich boeler i weithio drachefn.

Rhowch gynnig ar y canlynol dim ond os yw eich pibell ar lefel y llawr ac mae'n hawdd ei chyrraedd. Peidiwch â dringo ysgol na defnyddio unrhyw beth i gyrraedd unrhyw bibelli sydd wedi cael eu gosod uwchlaw lefel y llawr.

Os nad ydych yn teimlo y gallwch wneud hyn, ffoniwch ni (os ydych yn denant y cyngor) neu ffoniwch blymwr (os ydych yn denant preifat neu'n berchen ar eich cartref).

  1. Ceisiwch ddod o hyd i'r rhan o'r bibell sydd wedi rhewi. Mae'n fwyaf tebygol o fod ym mhen agored y bibell, ar droad neu benelin, neu mewn pant yn y bibell lle gall cyddwysiad gasglu.
  2. Defnyddiwch degell neu ficro-don i dwymo rhywfaint o ddŵr nes ei fod yn boeth ond nid yn berwi. Yna arllwyswch y dŵr dros y rhan o'r bibell sydd wedi rhewi gan ddefnyddio cynhwysydd addas, megis can dŵr.  Gall hyn gymryd hyd at 30 munud yn dibynnu ar faint o iâ sydd yno.
  3. Ffordd arall i ddadmer yr iâ yw drwy ddal potel dŵr twym neu rwymyn gwres (a ddefnyddir i leddfu poen yn y cyhyrau) yn erbyn y bibell sydd wedi rhewi.
  4. Ar ôl i'r bibell cyddwysiad ddadrewi'n llwyr, bydd angen ichi ailgynnau'r boeler drwy bwyso'r swits ailgynnau. Yna dylech glywed y boeler yn tanio fel arfer.

Tai