Premiymau'r dreth gyngor ar gyfer eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi

Diweddarwyd y dudalen ar: 13/02/2024

Tâl premiwm yw swm ychwanegol o'r dreth gyngor i'w dalu ar ben bil arferol y dreth gyngor.

Ers 1 Ebrill, 2017, mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gallu codi tâl premiwm ar anheddau gwag tymor hir ac anheddau wedi'u dodrefnu nad oes neb yn byw ynddynt (y cyfeirir atynt yn fwy cyffredin fel ail gartrefi) yn eu hardaloedd.

Daeth y gallu i godi premiwm yn sgil gwelliant i Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Bu'n rhaid i Gyngor Sir Caerfyrddin fod yn rhan o broses ymgynghori cyn y penderfyniad i gyflwyno tâl premiwm. Mae Cyfarfod y Cyngor ar 8 Fawrth, 2023 a gymeradwyodd ei gyflwyno.

Yn y cyfarfod hwn penderfynwyd byddai eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi yn Sir Gaerfyrddin yn atebol i premiwm y Dreth Gyngor o 1 Ebrill, 2024. 

Sylwer y bwriedir i'r disgresiwn a roddir i Awdurdodau Lleol yng Nghymru godi premiwm fod yn offeryn i helpu Cynghorau i:

  • wneud defnydd unwaith eto o dai gwag tymor hir i ddarparu tai diogel, sicr a fforddiadwy.
  • cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwneud cymunedau lleol yn fwy cynaliadwy.

 

Am fwy o wybodaeth ewch i Premiwm Treth Cyngor

Tai