Premiymau'r dreth gyngor ar gyfer eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi

Diweddarwyd y dudalen ar: 10/03/2024

Tâl premiwm yw swm ychwanegol o'r dreth gyngor i'w dalu ar ben bil arferol y dreth gyngor.

Ers 1 Ebrill, 2017, mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gallu codi tâl premiwm ar anheddau gwag tymor hir ac anheddau wedi'u dodrefnu nad oes neb yn byw ynddynt (y cyfeirir atynt yn fwy cyffredin fel ail gartrefi) yn eu hardaloedd.

Daeth y gallu i godi premiwm yn sgil gwelliant i Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Bu'n rhaid i Gyngor Sir Caerfyrddin fod yn rhan o broses ymgynghori cyn y penderfyniad i gyflwyno tâl premiwm. Mae Cyfarfod y Cyngor ar 8 Fawrth, 2023 a gymeradwyodd ei gyflwyno.

Yn y cyfarfod hwn penderfynwyd byddai eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi yn Sir Gaerfyrddin yn atebol i premiwm y Dreth Gyngor o 1 Ebrill, 2024. 

Sylwer y bwriedir i'r disgresiwn a roddir i Awdurdodau Lleol yng Nghymru godi premiwm fod yn offeryn i helpu Cynghorau i:

  • wneud defnydd unwaith eto o dai gwag tymor hir i ddarparu tai diogel, sicr a fforddiadwy.
  • cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwneud cymunedau lleol yn fwy cynaliadwy.

 

Eiddo gwag tymor hir

Ystyr y term 'gwag tymor hir' yw annedd sy'n wag a heb ei ddodrefnu am gyfnod parhaus o flwyddyn o leiaf. Sylwch na fydd byw mewn annedd neu ei dodrefnu dros dro am gyfnod o 6 wythnos neu lai yn effeithio ar ei statws fel annedd wag tymor hir. Hefyd, pan fydd Cyngor yn penderfynu codi premiwm ar anheddau gwag tymor hir, gall nodi canrannau gwahanol ar gyfer anheddau gwahanol ar sail faint o amser maent wedi bod yn wag. Mae hyn yn galluogi cynghorau lleol i gymryd camau'n raddol, a chyflwyno codiadau dros amser. 

Ail gartrefi

Diffinnir ail gartref fel annedd nad yw'n unig neu'n brif gartref i rywun, sydd wedi'i ddodrefnu'n sylweddol. Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn cyfeirio atyn nhw fel anheddau sy'n cael eu meddiannu o bryd i'w gilydd, ond fel arfer, maen nhw'n cael eu galw'n 'ail gartrefi'.

 

Mae rhai eithriadau i'r premiwm a all ddod i rym ar 1 Ebrill, 2024.  Rhestrir y rhain isod: 

  • Dosbarth 1 - anheddau sydd ar y farchnad i gael eu gwerthu neu sydd â chynnig i'w prynu wedi'i dderbyn - mae'r eithriad hwn wedi'i gyfyngu i 1 flwyddyn - gweler rhagor o fanylion.
  • Dosbarth 2 - anheddau sydd ar y farchnad i gael eu rhentu neu sydd â chynnig i'w rhentu wedi cael ei dderbyn - mae'r eithriad hwn wedi'i gyfyngu i 1 flwyddyn - gweler rhagor o fanylion.
  • Dosbarth 3 – rhandai sy'n ffurfio rhan o'r brif annedd, neu sy'n cael eu trin fel rhan o'r brif annedd.
  • Dosbarth 4 – anheddau a fyddai'n unig gartref neu'n brif gartref person pe na bai'n byw mewn llety sy'n cael ei ddarparu gan y lluoedd arfog. 
  • Dosbarth 5 – safleoedd carafanau ac angorfeydd cychod sydd wedi eu meddiannu (ail gartrefi yn unig)
  • Dosbarth 6 - anheddau lle mae gwaharddiad, oherwydd amod cynllunio, ar feddiannaeth barhaol neu gydol y flwyddyn, neu lle nodwyd bod yr eiddo i'w ddefnyddio yn llety gwyliau yn unig neu'n atal yr annedd rhag cael ei defnyddio yn brif gartref neu'n unig gartref person (ail gartrefi'n unig)
  • Dosbarth 7 - anheddau sy'n ymwneud â swyddi (ail gartrefi'n unig) - gweler rhagor o fanylion.

 

Dosbarth 1: Anheddau sydd ar werth

Mae'r eithriad hwn yn berthnasol i'r premiwm ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi. Mae'r eithriad hwn yn berthnasol i anheddau sy'n cael eu marchnata i'w gwerthu. Mae hefyd yn berthnasol i anheddau sydd â chynnig i'w brynu wedi'i dderbyn ond lle nad yw'r gwerthiant wedi'i gwblhau hyd yn hyn.

I fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn rhaid i eiddo fod ar werth ar y farchnad am bris rhesymol.  Bydd yn rhaid i'r perchennog atebol foddhau'r awdurdod lleol ei fod yn marchnata'r eiddo am bris rhesymol sef pris y byddai disgwyl iddo werthu amdano ar y farchnad agored.

Wrth ystyried a yw eiddo yn gymwys i fod yn eithriad, mae'n bosibl y bydd Cyngor yn dymuno ystyried ystod o ffactorau sy'n ymwneud â gwerthu anheddau, megis:

  • ers pryd mae eiddo yn yr ardal wedi bod ar werth.
  • pris cyfartalog a'r hyd mae anheddau tebyg ar y farchnad yn yr ardal leol
  • a oes amodau cyfyngol gormodol, megis y pris, wedi'u gosod ar yr eiddo er mwyn atal ei werthu. 
  • unrhyw ffactorau rhesymol eraill

I benderfynu a yw annedd ar y farchnad i gael ei werthu neu beidio, efallai y bydd Cyngor yn dymuno ystyried y mathau amrywiol o dystiolaeth a allai gynnwys y canlynol:

  • eiddo yn cael ei restru ar wefannau hysbysebu, er enghraifft gwefannau gwerthwyr tai megis Rightmove a Zoopla, neu dystiolaeth o ffyrdd eraill mae'r eiddo yn cael ei farchnata. 
  • cytundeb gyda gwerthwr tai
  • rhestrau gwerthwyr tai neu fanylion gwerthiant os yw'n cael ei werthu'n breifat.
  • Tystysgrif Perfformiad Ynni (yn ofynnol pan gaiff eiddo ei adeiladu neu ei werthu)

Mae'r cyfnod eithrio yn para hyd at 12 mis o'r dyddiad y caiff eithriad ei roi, ond mae'n bosibl yr ystyrir ei ymestyn tu hwnt i'r cyfnod hwn, os bydd gwerthiant wedi'i gytuno ond heb ei gwblhau tan tu hwnt i'r cyfnod o 12 mis wedi dechrau'r cyfnod eithrio.  Byddai'r eithriad hwn yn dod i ben ar ddyddiad gwerthu'r eiddo. Ar ôl i eithriad ddod i ben, fydd eiddo sy'n cael ei farchnata i'w werthu ddim yn gymwys i gael cyfnod eithrio pellach heblaw ei fod wedi cael ei werthu.

 

Dosbarth 2: Anheddau sydd ar y farchnad i'w rhentu

Mae'r eithriad hwn hefyd yn berthnasol i'r premiwm ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi.   Nid yw hyn yn cynnwys anheddau sy'n cael eu marchnata i gael eu rhentu. Mae'n berthnasol hefyd i anheddau sydd â chynnig i'w rhentu wedi'i dderbyn ond nad yw'r tenant yn gymwys i fyw yno gan nad yw'r denantiaeth wedi dechrau.

I fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn, rhaid i berchennog atebol brofi i'r Cyngor ei fod yn marchnata'r eiddo am bris rhesymol e.e. y rhent y byddai disgwyl i rywun ei dalu am yr eiddo yn seiliedig ar y rhent a godir ar anheddau tebyg. 

Wrth ystyried a yw eithriad yn berthnasol, efallai y bydd Cyngor yn dymuno ystyried ystod o ffactorau sy'n ymwneud â rhoi eiddo ar osod, megis y canlynol:

  • ers pryd mae eiddo yn yr ardal wedi bod ar gael i'w rhentu. 
  • rhent cyfartalog ac amser ar y farchnad ar gyfer eiddo rhent tebyg yn yr ardal leol
  • a oes amodau cyfyngol gormodol, megis y rhent, wedi'u gosod ar yr eiddo er mwyn atal yr eiddo rhag cael ei rentu.
  • unrhyw ffactorau rhesymol eraill

Er mwyn i Gyngor benderfynu a yw perchennog atebol yn marchnata'r eiddo i'w rentu, mae'n bosibl y bydd awdurdod lleol yn dymuno ystyried mathau amrywiol o dystiolaeth a allai gynnwys y canlynol:

  • cytundeb gydag asiantaeth osod 
  • rhestrau gwerthwyr tai neu daflenni asiantaethau gosod. 
  • tystiolaeth bod y landlord a'r asiant wedi'u cofrestru a'u trwyddedu ar gyfer annedd sy'n cael ei marchnata i'w rhentu drwy Rhentu Doeth Cymru 
  • rhestrau tai o eiddo sy'n cael eu cynnig i'w rhentu gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
  • Tystysgrif Perfformiad Ynni (pan gaiff eiddo ei adeiladu neu ei rentu)
  • tystysgrif diogelwch nwy ddilys sy'n ofynnol ar gyfer eiddo sy'n cael ei rentu

Mae'r cyfnod eithrio yn para hyd at 12 mis o ddyddiad rhoi'r eithriad. Ar ôl i'r cyfnod eithrio ddod i ben, fydd eiddo sy'n cael ei farchnata i'w rentu ddim yn gymwys i gael cyfnod eithrio arall heblaw ei fod yn destun tenantiaeth o 6 mis neu ragor.

 

Dosbarth 7: Anheddau sy'n gysylltiedig â swyddi

Mae'r eithriad hwn yn berthnasol i'r premiwm ail gartrefi yn unig ac i anheddau sy'n cael eu meddiannu gan berson cymwys. Mae'r meini prawf ar gyfer person cymwys wedi'i nodi o dan Rhan 1, Dosbarth 7.

Wrth ystyried cymhwysedd ar gyfer yr eithriad hwn, efallai y bydd Cyngor yn dymuno gwneud cais am fathau penodol o dystiolaeth i brofi bod angen person atebol mewn eiddo sy'n gysylltiedig â swyddi.  Gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • cytundeb cyflogaeth
  • hysbysiad galw am dalu'r dreth gyngor (i ddangos atebolrwydd mewn perthynas ag eiddo arall os yw'r prif neu'r ail gartref yn y DU)
  • ffurflenni treth neu ddatganiadau tâl.
  • Llythyr Enwadol (mewn perthynas â Gweinidog Crefydd)
  • Llythyr neu gytundeb ysgrifenedig gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn (mewn perthynas â'r Lluoedd Arfog)

Os ydych yn credu eich bod yn gymwys i gael eithriad a restrir, cysylltwch â'r adran Dreth Gyngor drwy e-bostio: counciltaxpremium@sirgar.gov.uk

 

Beth os nad yw fy eiddo yn gymwys i gael eithriad?

Yn weithredol o 1 Ebrill, 2024, ar gyfer eiddo gwag tymor hir, byddwch yn destun Premiwm y Dreth Gyngor o 50%. 

O 1 Ebrill, 2024, bydd pob ail gartref yn destun premiwm y dreth gyngor o 50%.

Os hoffech weithio gyda'r Cyngor i sicrhau bod eich eiddo'n cael ei ddefnyddio'n amser llawn unwaith eto, gallwn ni eich helpu o bosibl. Gallwch ddod o hyd i fanylion ar tudalenau Eiddo Gwag neu drwy e-bostio: sectorpreifat@sirgar.gov.uk