Gostyngiad i bobl sy'n gadael gofal

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/12/2023

O 1 Ebrill 2019, cyflwynodd Senedd Cymru ryddhad newydd ar y dreth gyngor ar gyfer unrhyw berson sy'n gadael y system gofal. Rydych yn cael eich ystyried yn berson sy'n gadael gofal os fuoch mewn gofal am gyfanswm o 13 wythnos neu ragor ar ôl eich pen-blwydd yn 14 oed a'ch bod mewn gofal ar unrhyw adeg o ddyddiad eich pen-blwydd yn 16 oed neu ar ôl hynny.

I fod yn gymwys i gael eich eithrio rhag talu'r dreth gyngor (neu ostyngiad o 25% os ydych yn byw gyda rhywun nad yw'n berson sy'n gadael gofal, yn fyfyriwr amser llawn neu'n berson â nam meddyliol difrifol) rhaid bodloni'r amodau canlynol:

Os ydych yn gymwys i gael yr eithriad/gostyngiad hwn, cysylltwch ag adran y dreth gyngor ar 01554 742110 neu drwy anfon e-bost at trethcyngor@sirgar.gov.uk.

Fel arall, gallwch gysylltu â'r adain Rhianta Corfforaethol ar 01267 246399 neu drwy anfon e-bost at corporateparenting@sirgar.gov.uk. Yna bydd yr adain yn cysylltu â ni ar eich rhan.