Hysbysiad Treth y Cyngor 2024/25

Diweddarwyd y dudalen ar: 18/03/2024

Rydym wedi clustnodi £752.939m yn ein cyllideb i wario ar ddarparu gwasanaethau i'n trethdalwyr yn 2024/25 (o’i gymharu â ffigur o £702.196m yn 2023/24).

Telir swm pellach o £14.7m i gyrff cyhoeddus eraill ar ffurf taliadau treth a chyfraniadau. Y gwariant net yw £477.249m.

£1,602.80 fydd y dreth Band D a godir gan y Cyngor Sir ar Drethdalwyr y Cyngor ar gyfer 2024/25, sy’n cynrychioli codiad o 7.50% o ran Treth y Cyngor.

  2023/23 2024/25 2024/25

Gwasanaethau:

Gwariant Gros
            (£m)
Gwariant Gros
            (£m)
Gwariant Net
           (£m)
Gwasanaethau Canolog 50.378 48.759 41.169
Gwasanaethau Diwylliannol, Amgylcheddol a Chynllunio 79.704 102.609 62.847
Addysg a Gwasanaethau Plant 261.238 288.998 235.156
Gwasanaethau Priffyrdd, Ffyrdd a Thrafnidiaeth 34.913 35.355 25.076
Gwasanaethau Tai 110.475 101.392 2.313
Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion 165.488 175.826 121.292
Gwariant ar Wasanaethau 702.196 752.939 487.853

Trethi a godir ar gyfer:

     
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 0.152 0.158 0.158
Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru 13.014 14.367 14.367
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru 0.168 0.175 0.175
Gweddillion (-) / Diffygion y Cyfrif Masnachu 0.788 1.766 1.766
Llog Net a Newidiadau Cyfrifyddu Cyfalaf -17.694 -24.070 -24.070
Cyfraniadau i'r/o'r(-) Cronfeydd 0.000 -3.000 -3.000
Gwariant y Cyngor Sir 698.624 742.335 477.249

I'w ariannu drwy

     
Grant Cynnal Refeniw y Llywodraeth -276.430 -281.597  
Treth Annomestig Cenedlaethol -61.981 -69.050  
Grantiau Pensiwn 0.000 -4.052  
Grantiau/Ad-daliadau Penodol -110.639 -126.995  
Ffioedd, Taliadau ac Incwm Arall -137.644 -138.091  
Talwyr Treth y Cyngor -111.930 -122.551  
  -698.624 -742.335  

Rydym yn bwriadu gwario £86.9m yn 2024/25 ar brosiectau cyfalaf (£151.1m yn 2023/24), a ariennir o’r ffynonellau canlynol:

Ffynonellau   £m
Benthyciadau 27.2
Symiau a Neilltuwyd o Refeniw 16.7
Derbyniadau Cyfalaf o Werthu Asedau 0.4
Cymorth Grant 42.6
Cyfanswm    86.9

Mae angen cronfeydd cyffredinol (neu falansau) i ganiatáu ar gyfer lefelu’r codi a’r gostwng sy’n digwydd mewn gweithgareddau ariannol unrhyw flwyddyn.

Amcangyfrifir y bydd gweddillion o’r fath tua £9.4m ar y 31ain Mawrth 2025 (£9.4m ar y 31ain Mawrth 2024).

Rydym hefyd wedi rhoi cronfeydd eraill o’r neilltu i gwrdd â gwariant penodol ac amcangyfrifir y bydd eu cyfanswm hwy yn £57.4m ar yr 31ain Mawrth 2025 (£106.1m ar yr 31ain Mawrth 2024).

Cyngor Tref / Cymuned

Praesept 2023/24
(£)

Praesept 2024/25
(£)

Treth Cyngor Band D 2024/25
(£)

Abergwili 31,830.00 31,830.00 41.98
Abernant 3,500.00 4,500.00 31.93
Betws 52,000.00 57,000.00 62.67
Bronwydd 11,143.00 13,567.00 48.14
Caerfyrddin 793,011.00 874,221.00 150.58
Castell Newydd Emlyn 31,911.67 33,261.80 67.89
Cenarth 9,000.00 9,000.00 16.20
Cilycwm 5,000.00 5,000.00 20.96
Cilymaenllwyd 8,000.00 8,500.00 23.98
Cwarter Bach 114,851.40 120,594.00 121.59
Cwmaman 369,116.00 359,925.01 219.60
Cydweli 310,000.00 325,500.00 224.67
Cynwyl Elfed 17,357.16 18,398.58 39.40
Cynwyl Gaeo 6,600.00 7,000.00 15.13
Dyffryn Cennen 20,000.00 22,000.00 39.37
Eglwys Gymyn 6,500.00 6,500.00 32.80
Gorslas 122,828.00 132,000.00 63.26
Hendy-gwyn 62,490.00 64,490.00 81.31
Henllanfallteg 8,572.00 11,500.00 49.73
Llanarthne 23,655.34 25,863.69 59.48
Llanboidy 34,226.00 36,722.00 79.83
Llanddarog 19,363.89 20,334.55 36.35
Llanddeusant 4,536.00 5,000.00 37.87
Llanddowror a Llanmiloe 13,500.00 19,800.00 55.84
Llandeilo 78,090.00 81,994.00 99.97
Llandybie 180,000.00 180,000.00 39.95
Llandyfaelog 25,380.00 27,320.00 41.68
Llanedi 333,109.00 498,032.00 207.64
Llanegwad 15,000.00 15,000.00 20.27
Tref Llanelli 1,450,000.00 1,500,000.00 166.24
Llanelli Wledig 1,122,755.00 1,174,180.00 137.30
Llanfair-ar-y-Bryn 3,500.00 3,500.00 12.09
Llanfihangel Aberbythych 19,250.00 20,405.00 33.75
Llanfihangel Rhos-y-corn 6,500.00 7,000.00 31.08
Llanfihangel-ar-Arth 45,000.00 53,000.00 55.21
Llanfynydd 8,500.00 8,500.00 35.60
Llangadog 21,000.00 23,000.00 34.86
Llangain 11,257.00 12,540.00 42.80
Llangathen 9,000.00 9,000.00 32.19
Llangeler 32,245.47 32,245.47 20.93
Llangennech 271,624.00 292,357.00 145.25
Llangyndeyrn 84,206.04 90,942.52 57.14
Llangynin 9,400.00 9,100.00 65.50
Llangynnwr 38,000.00 41,000.00 34.98
Llangynog 7,000.00 7,000.00 27.61
Llanismel 36,332.00 38,239.00 47.00
Llanllawddog 8,147.00 8,147.00 22.03
Llanllwni 15,080.00 15,080.00 45.24
Llannewydd a Merthyr 6,500.00 6,500.00 20.32
Llannon 392,434.13 468,386.69 230.50
Llanpumsaint 10,106.40 10,271.10 30.00
Llansadwrn 7,000.00 7,000.00 29.59
Llansawel 5,500.00 8,000.00 37.74
Llansteffan a Llanybri 20,000.00 21,500.00 35.53
Llanwinio 4,000.00 6,000.00 28.38
Llanwrda 5,000.00 8,000.00 32.88
Llanybydder 80,000.00 60,000.00 95.47
Llanycrwys 1,500.00 1,650.00 15.09
Llanymddyfri 70,471.14 73,994.59 91.40
Manordeilo a Salem 18,000.00 17,000.00 21.15
Meidrim 12,500.00 12,500.00 44.79
Myddfai 3,499.99 3,586.00 19.24
Pen-bre a Phorth Tywyn 696,949.00 799,621.00 237.99
Pencarreg 13,500.00 13,500.00 23.66
Pentywyn 7,404.75 7,838.55 45.00
Pontyberem 123,078.87 125,410.32 120.24
Rhydaman 263,653.00 397,646.86 199.20
Sanclêr 108,532.22 113,958.83 81.45
Talacharn 31,800.74 33,511.87 55.43
Talyllychau 11,000.00 11,000.00 42.71
Trelech a'r Betws 0.00 0.00 0.00
Trimsaran 83,941.66 88,579.00 100.91

 

Mae Llywodraeth Cymru yn pennu Asesiad Gwariant Safonol ar ein cyfer. Dyma’r swm y mae Llywodraeth Cymru yn asesu sydd ei angen, mewn termau cymharol, i ddarparu lefel safonol o wasanaeth yn yr ardal. Nodir isod yr asesiad ar gyfer 2024/25 ynghyd â chymhariaeth â'n gofynion cyllidebol: 

Asesiad/Gofynion Cyllidebol        (£m)

Treth Cyngor Band D

(£)

Asesiad Gwariant Safonol  471.555 1,581
Gofynion Cyllidebol (gan gynnwys Praeseptau Cymuned) 472.936 1,716

Mae'r Cyngor yn pennu'r tâl ar eiddo sy'n lefel Band D ond bydd y symiau a delir ar eiddo mewn bandiau eraill yn fwy neu'n llai yn ôl y cymarebau canlynol.

Band Prisio A B C D E F G H I
Cyfran o'r Dreth 6/9 7/9 8/9 9/9 11/9 13/9 15/9 18/9 21/9
Y Cyngor Sir (£) 1068.53 1,246.62 1,424.71 1,602.80 1,958.98 2,315.16 2,671.33 3,205.60 3,739.87
Heddlu Dyfed Powys (£) 221.35 258.25 295.14 332.03 405.81 479.60 553.38 664.06 774.74
Cynghorau Cymuned (cyfartaledd) (£) 75.47 88.04 100.62 113.20 138.36 163.51 188.67 226.40 264.13

Mae pob preswylfa wedi cael ei rhoi yn un o’r 9 band prisio canlynol:

Band Gwerth yr Eiddo
A Hyd at £44,000
B £44,001 - £65,000
C £65,001 - £91,000
D £91,001 - £123,000
E £123,001 - £162,000
F £162,001 - £223,000
G £223,001 - £324,000
H £324,001 - £424,000
I £424,001 a rhagor

Mae preswylfeydd yn cael eu gosod yn y Band sy’n cynrychioli eu gwerth ar y farchnad agored yn Ebrill 2003. Bydd preswylfeydd newydd a adeiladwyd ar ôl Ebrill 2003 yn cael eu prisio yn ôl prisiau Ebrill 2003. Mae eich bil Treth y Cyngor yn dangos ym mha fand y cafodd eich preswylfa ei gosod.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio – cangen o Gyllid y Wlad – yn gyfrifol am brisio Treth y Cyngor. Os ydych o’r farn fod band prisio eich preswylfa yn anghywir, gallwch apelio i’r Swyddfa Brisio (gweler y cyfeiriadau isod):

Tŷ Glyder
339 Stryd Fawr
Bangor
LL57 1EP
ctonline@voa.gov.uk

Llinell Gymorth: 03000 505505

Y gellwch hefyd apelio os ydych o’r farn fod gwerth eich preswylfa wedi gostwng, er enghraifft, oherwydd dymchwel rhan o’r adeilad, newid yng nghyflwr ffisegol yr ardal leol, neu addasiadau i wneud y breswylfa’n un addas ar gyfer rhywun ag anabledd corfforol.

Mae rheolau a therfynau amser ar gyfer apelio. Felly, byddai’n dda o beth ichi gysylltu â llinell gymorth y Swyddfa Brisio i gael cyngor a chyfarwyddyd.

Apelio yn erbyn atebolrwydd i dalu

Gellwch apelio hefyd os credwch nad ydych yn gorfod talu treth y cyngor, er enghraifft, am nad chi yw’r preswylydd neu’r perchennog, neu am fod eich eiddo wedi’i eithrio; neu os yr ydyn wedi gwneud camgymeriad wrth gyfrif eich bil.

Os dymunwch apelio ar sail un o’r rhain, mae’n rhaid i chi’n gyntaf hysbysu’r adran Treth y Cyngor yn ysgrifenedig er mwyn iddynt gael cyfle i ailystyried yr achos. Os nad ydych yn fodlon ar ymateb cewch apelio ymhellach i Dribiwnlys Prisio. Nid yw apelio yn caniatáu i chi beidio â thalu’r dreth sy’n ddyledus yn y cyfamser, ond os bydd eich apêl yn llwyddiannus bydd gennych hawl i gael ad-daliad o unrhyw dreth ormodol a dalwyd.

Gellir cael manylion pellach am y gweith-drefnau apelio (gan gynnwys swyddogaeth y tribiwnlysoedd prisio) oddi wrth adran Treth y Cyngor.

Canllawiau yn unig yw’r nodiadau byr hyn ac efallai y bydd angen bodloni amodau eraill cyn y gellir rhoi gostyngiad.

Am wybodaeth bellach neu gyngor ynghylch Treth y Cyngor ffoniwch 01554 742200 neu danfonwch e-bost i trethcyngor@sirgar.gov.uk.

Gwnewch gais am ostyngiadau yn ddi-oed er mwyn osgoi unrhyw golled bosibl

Os na fydd ond un oedolyn yn byw mewn tŷ, ceir disgownt o 25%. (ond gweler y nodiadau isod yn ymwneud â Thai Gwag ac Ail Gartrefi). Ni chyfrifir y bobl ganlynol wrth edrych ar nifer y preswylwyr, os bodlonir yr amodau:

  • Myfyrwyr a ystyrir yn rhai amser llawn, myfyrwyr nyrsio a chynorthwywyr ieithoedd tramor.
  • Myfyrwyr o dan 20 oed sy'n astudio cwrs rhanamser er mwyn cymhwyso.
  • Rhywun sy'n briod, yn bartner sifil, neu'n ddibynnydd i fyfyriwr, nad yw'n ddinesydd Prydeinig ac sy'n cael ei atal rhag cymryd gwaith cyflogedig neu hawlio Budd-daliadau Gwladol.
  • Plant y telir Budd-dâl Plant ar eu cyfer.
  • Rhai 18 a 19 oed sydd yn yr ysgol, neu newydd adael.
  • Prentisiaid a rhai ar Gyrsiau Hyfforddiant i’r Ifanc.
  • Pobl sydd â salwch meddwl difrifol.
  • Rhai sy’n byw’n barhaol mewn cartrefi preswyl neu ysbytai GIG.
  • Gofalwyr, ond nid os ydynt yn gofalu am briod, partner neu blentyn dan 18 (os taw'r gofalwr yw'r rhiant).
  • Gweithwyr gofal Awdurdod Lleol / elusennau penodol.
  • Aelodau o gymuned grefyddol (e.e. mynachod neu leianod).
  • Preswylwyr hostel.
  • Aelodau o Luoedd sydd ar Ymweliad neu Bencadlysoedd Rhyngwladol a Chyrff Amddiffyn.
  • Carcharorion a gafwyd yn euog neu sy’n aros eu prawf.
  • Ymadawydd Gofal. Mae Ymadawydd Gofal rhwng 18 a 25 oed. Mae'n cael ei ystyried yn berson ifanc categori 3 fel y'i diffinnir gan adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac nid ydyw bellach yn derbyn gofal gan awdurdod lleol.

Hefyd, yn ychwanegol at y gostyngiadau statudol a grybwyllir uchod, mae gan Gynghorau y grym i roi gostyngiadau ar sail ddewisol ac yn ôl amgylchiadau lleol.

Bydd y rhan fwyaf o eiddo gwag wedi’u heithrio o’r Dreth Gyngor am y chwe mis cyntaf, ac ar ôl hynny bydd tâl o 100%. Mae rhai eithriadau i’r rheol hon (gweler isod), ac o dan rai amgylchiadau ni chodir tâl o gwbl (gweler Anheddau Esempt isod).

Fodd bynnag, os oes celfi mewn eiddo heb fod neb yn byw ynddo, neu os oes celfi ynddo ac nad yw'n brif breswylfa i neb, fel rheol ni fydd cyfnod esempt (ond gweler Anheddau Esempt isod) ac ni chaniateir unrhyw ddisgownt ychwaith. Felly, bydd yn rhaid i’r perchennog dalu’r Dreth Gyngor yn llawn.

Fodd bynnag, gellir rhoi disgownt o 50% pan fydd y sawl sy'n gyfrifol am y Dreth Gyngor hefyd yn gyfrifol am breswylfa arall, lle y mae'n rhaid iddo/iddi breswylio fel amod o gyflogaeth neu pan fo’n rhaid i aelod o’r Lluoedd Arfog fyw mewn llety hunangynhwysol (e.e. tŷ neu fflat) a ddarperir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae eiddo sydd ddim yn brif breswylfa i neb, ac sy'n cael ei osod am gyfnodau byr (ar gyfer gwyliau gan mwyaf), yn gallu bod yn rhwymedig i Drethi Annomestig ac nid y Dreth Gyngor. Mae swyddogion yn y “Swyddfa Brisio” yn gyfrifol am benderfynu a ddylai eiddo gael ei osod ar Restr Brisio’r Dreth Gyngor neu ar y Rhestr Annomestig. Mae'n debygol y bydd manteision ariannol sylweddol i gwsmeriaid os bydd eu heiddo yn cael ei dynnu oddi ar Restr y Dreth Gyngor a'i osod ar y Rhestr Annomestig.

Er mwyn i eiddo gael ei restru ar gyfer Trethi Annomestig rhaid iddo, fel arfer, fodloni'r amodau canlynol:

  1. rhaid iddo fod ar gael i'w osod yn fasnachol, fel llety hunangynhaliol, am gyfnodau byr sy'n dod i gyfanswm o 252 o ddiwrnodau, o leiaf, yn ystod y 12 mis blaenorol
  2. roedd y cyfnodau pryd y cafodd ei roi ar osod yn dod i gyfanswm o 182 o ddiwrnodau, o leiaf
  3. y bwriad yw y bydd yr adeilad, am y 12 mis nesaf, ar gael i'w osod yn fasnachol fel llety hunangynhaliol am gyfnodau byr sy'n dod i gyfanswm o 252 o ddiwrnodau, o leiaf

Mae'n bosibl y bydd amodau eraill yn berthnasol ond gall y ddeddfwriaeth fod yn llai llym pan fo nifer o adeiladau yn cael eu gosod yn yr un lleoliad neu’n agos iawn at ei gilydd.

I gael rhagor o wybodaeth, neu os ydych yn credu y dylai'ch eiddo gael ei dynnu oddi ar Restr Brisio'r Dreth Gyngor a'i roi ar y Rhestr Brisio Annomestig, cysylltwch â'r swyddogion yn y Swyddfa Brisio (gweler “Apeliadau Prisio” am fanylion cyswllt).

Gwnewch gais yn ddi-oed i osgoi'r posibilrwydd o golli cyfle i gael eich eithrio

Bydd rhaid talu Treth y Cyngor ar y rhan fwyaf o anheddau, ond bydd rhai’n cael eu heithrio ac ni fydd rhaid talu Treth y Cyngor arnynt. Mae’r eithriadau canlynol yn berthnasol, os bodlonir yr amodau:

  • Anheddau a adawyd yn wag a heb ddodrefn. Mae'r eithriad yn gyfyngedig i gyfnod o 6 mis hyd yn oed os yn dilyn newid o berchennog neu Dalwr y Dreth Gyngor.
  • Preswylfeydd sy'n wag ac sydd heb eu dodrefnu ac y mae addasiadau'n cael eu gwneud i'w strwythur neu y mae angen gwneud gwaith adnewyddu sylweddol iddynt cyn bod modd byw ynddynt, a phreswylfeydd lle mae gwaith o'r fath wedi cael ei gwblhau'n ddiweddar. Mae'r eithriad yn gyfyngedig o 12 mis hyd yn oed os yn dilyn newid o berchennog neu Dalwr Y Dreth Gyngor.
  • Anheddau a adawyd yn wag gan gleifion sydd mewn ysbyty/cartref gofal.
  • Anheddau a adawyd yn wag gan bobl sy’n derbyn gofal, ac anheddau a adawyd yn wag gan bobl sy’n darparu gofal mewn mannau eraill.
  • Anheddau a adawyd yn wag wedi i’r perchennog - breswylydd diwethaf farw. Gallai amodau/terfynau amser eraill fod yn gymwys hefyd.
  • Preswylfeydd a adawyd yn wag gan garcharorion.
  • Preswylfeydd sy'n wag ac sydd wedi cael eu hadfeddiannu, neu mewn achos o fethdalu, sydd yn nwylo ymddiriedolwyr.
  • Neuaddau preswyl.
  • Preswylfeydd lle nad oes neb ond myfyrwyr yn byw (neu wŷr/gwragedd priod, partneriaid sifil, neu ddibynyddion penodol nad ydynt yn Brydeinig – gweler y gostyngiadau uchod), rhai sydd newydd adael yr ysgol neu rai o dan 18 oed.
  • Preswylfeydd a adawyd yn wag gan berchennog sy'n fyfyriwr.
  • Anheddau lle nad oes neb ond rhywun sydd â salwch meddwl difrifol yn byw.
  • Eiddo gwag sy'n breswylfeydd offeiriadon/gweinidogion neu y mae elusennau'n berchen arnynt (hyd at chwe mis ar gyfer yr olaf).
  • Pan fo gan yr un sy'n atebol imiwnedd diplomyddol.
  • Tai gwag sydd yn gartrefi clerigwyr neu yn eiddo i elusennau.
  • Anheddau y mae’r ddeddf yn gwahardd pobl rhag byw ynddynt.
  • Rhandai sy'n cael eu meddiannu gan berthynas oedrannus neu anabl i'r preswylwyr sy'n byw yn y brif breswylfa.
  • Rhandai gwag na ellir eu rhoi ar osod ar wahân i’r prif gartref.
  • Llecyn parcio neu angorfa pan nad oes carafán neu gwch yno.
  • Anheddau sy'n cael eu meddiannu gan Ymadawyr Gofal yn unig. Mae Ymadawydd Gofal rhwng 18 a 25 oed. Mae'n cael ei ystyried yn berson ifanc categori 3 fel y'i diffinnir gan adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac nid ydyw bellach yn derbyn gofal gan awdurdod lleol.

Os bydd un neu fwy o’r nodweddion canlynol yn eich tŷ, y mae eu hangen i gwrdd ag anghenion penodol person anabl sydd yn byw yn eich tŷ, yn blentyn neu’n oedolyn, efallai y byddwch yn medru derbyn gostyngiad i’ch bil.

  • ystafell, heblaw ystafell ymolchi, cegin neu doiled, a ddefnyddir yn bennaf gan y person anabl (Sylwer na fydd y gostyngiad yn berthnasol pe bai angen yr ystafell a ddefnyddir gan y person anabl ar yr aelwyd i'w defnyddio fel ystafell wely neu ystafell fyw, hyd yn oed pe na bai ef/hi yn anabl) neu,
  • ail gegin neu ystafell ymolchi a ddefnyddir er mwyn cwrdd ag anghenion y person anabl, neu
  • ddrysau neu fynedfeydd lletach er mwyn medru defnyddio cadair olwyn yn y tŷ.

Ar ôl bwrw golwg dros y tŷ, os byddwch yn gymwys i dderbyn gostyngiad, codir Treth y Cyngor arnoch sydd ar lefel un band yn is na band prisio eich tŷ. Er enghraifft, os yw eich tŷ ym Mand ‘D’, codir tâl arnoch fel petai ym Mand ‘C’.

NODER - O’r 1af Ebrill 2000 ymlaen, mae’r math hwn ar ostyngiad hefyd wedi bod ar gael i bobl sy’n byw mewn tai a osodwyd ym Mand ‘A’. Bydd angen ffurflen gais arnoch oddi wrth Uned Treth y Cyngor.

Bwriad Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yw i helpu pobl sy'n byw ar incwm isel. Er enghraifft, os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm ni fyddwch fel arfer yn talu unrhyw Treth Cyngor. Mae'n bosibl hefyd y byddwch yn gymwys os ydych yn gweithio ond bod eich cyflog yn isel iawn. Fel rheol fydd bod yn gymwys yn dibynnu ar y canlynol:

  • Incwm
  • Cynilion/Cyfalaf
  • Amgylchiadau personol a theuluol  

Os penderfynwyd eich bod yn cael cymorth gan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, dangosir y swm a chyfnod y gostyngiad ar eich bil.

Cofiwch fod yn rhaid ichi roi gwybod i’r Adain Budd-daliadau am unrhyw newidiadau o ran eich amgylchiadau ag allai effeithio ar eich hawl i gael cymorth. Mae enghreifftiau yn y daflen Newidiadau o ran Amgylchiadau a anfonir gyda'ch llythyr rhoi gwybod am gostyngiad. Fe’ch eithrir chi rhag talu Treth y Cyngor am unrhyw gyfnod yr ydych chi wedi cael Gostyngiad Treth y Cyngor o 100%. Cysylltwch a’r Adain Budd-daliadau drwy ffonio 01554 742100 i gael rhagor o wybodaeth.

Mae gan y Cyngor ryddid i godi’r dreth gyngor hyd at 100% o’r gyfradd lawn, yn achos eiddo sydd wedi bod yn wag ac sydd â fawr ddim dodrefn ynddo, am gyfnod parhaus o flwyddyn o leiaf, ac eiddo sydd wedi’i ddodrefnu’n sylweddol ac nad yw’n brif breswylfa i neb. Bydd tâl premiwm o 50% yn berthnasol i'r mathau hyn o anheddau o 1 Ebrill 2024 ymlaen. 

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn rhannu eich gwybodaeth er mwyn darparu gwasanaethau eraill y cyngor ac weithiau rydym yn rhannu gwybodaeth â sefydliadau eraill pan fo'r gyfraith yn caniatáu hyn. Fel arfer bydd hyn yn golygu darparu manylion cyswllt a/neu gadarnhau pwy sy'n byw mewn eiddo.

Dangosir isod enghreifftiau lle mae'n bosibl y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu ag adain arall yn y cyngor:

  1. Helpu i brosesu ceisiadau am Fudd-dal Tai a/neu Ostyngiad y Dreth Gyngor.
  2. Helpu i brosesu ceisiadau am fathodynnau glas neu docynnau bysiau rhad.
  3. Darparu manylion cyswllt i staff Gwasanaethau Cymdeithasol.
  4. Darparu manylion cyswllt:
    a)    landlordiaid i staff yr Adran Dai er mwyn iddynt wirio bod tenantiaethau wedi'u cofrestru â Rhentu Doeth Cymru ac i weld a yw landlordiaid yn fodlon cynorthwyo ag ymholiadau sy'n ymwneud â llety fforddiadwy yn y sir.
    b)    perchenogion tai gwag tymor hir i weld a ellir rhoi cymorth i'w defnyddio eto.
  5. Er mwyn helpu swyddogion gorfodi i ymchwilio i achosion o dipio anghyfreithlon.

Gweler isod enghreifftiau lle mae'n bosibl y bydd gwybodaeth yn cael ei darparu i gyrff allanol:

  1. Helpu'r heddlu i ymchwilio/atal troseddau.
  2. Helpu Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i ymchwilio i achosion o dwyll.
  3. Darparu manylion am breswyliaeth neu fanylion cyswllt i swyddogion treth cynghorau eraill.
  4. Helpu adran y llywodraeth sy'n ymchwilio i fewnforio anifeiliaid yn anghyfreithlon.    

Am ragor o fanylion am hyn, gallwch gysylltu â ni: trethcyngor@sirgar.gov.uk

Llwythwch mwy