Ôl-ddyledion / Sefydlu cynllun talu

Diweddarwyd y dudalen ar: 24/01/2024

Os ydych chi'n cael trafferth talu eich Treth Gyngor, neu os ydych chi wedi methu taliad, cysylltwch â ni fel y gallwn eich helpu. Os nad ydych yn rhoi gwybod i ni eich bod yn cael anhawster o ran gwneud taliadau, efallai y bydd costau a thaliadau ychwanegol i'w talu. Efallai y bydd modd trefnu cynllun talu i ad-dalu eich Treth Gyngor. Cysylltwch â ni drwy ffonio 01267 228 601 neu e-bostiwch adfer@sirgar.gov.uk i drafod eich opsiynau.

Mae pob cam isod yn esbonio beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n methu taliad a'r costau cysylltiedig.

Os yw taliad yn orddyledus, bydd nodyn atgoffa yn cael ei gyflwyno. Os yw'r taliad yn cael ei wneud o fewn saith diwrnod ar ôl cael y nodyn atgoffa, bydd y rhandaliadau yn parhau. Os ydych ar ei hôl hi unwaith eto o ran eich taliadau, bydd ail nodyn atgoffa yn cael ei gyflwyno.

Gwneud taliad

Os byddwch yn methu taliad arall ar ôl i ail nodyn atgoffa gael ei gyflwyno, byddwch yn colli'r hawl i dalu mewn rhandaliadau. Bydd Rhybudd Terfynol yn cael ei gyflwyno i dalu swm llawn y Dreth Gyngor sy'n daladwy ar gyfer y flwyddyn. Oni dderbynnir y taliad yn llawn o fewn saith diwrnod, bydd Gwŷs Llys yr Ynadon yn cael ei chyflwyno

Gwneud taliad

Os na chaiff y nodyn atgoffa neu'r rhybudd terfynol eu talu'n llawn, bydd Gwŷs Llys yr Ynadon yn cael ei chyflwyno am swm llawn y dreth gyngor sy'n ddyledus am y flwyddyn ynghyd â chostau o £62.00. Os caiff taliad llawn yn cynnwys £62.00 cael ei wneud cyn dyddiad y llys, ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau pellach.

Os nad yw'r swm yn cael ei dalu, bydd cais yn cael ei gyflwyno ar ddyddiad y llys ar gyfer Gorchymyn Dyled.

Mae'n bosibl trefni cynllun ad-dalu ar yr adeg hon ac mae'n bwysig eich bod yn cysylltu a ni ar unwaith trwy ffôn 01267 228601 neu e-bost recovery@carmarthenshire.gov.uk  i drafod eich dewisiadau.

Sylwer, os gwneir trefniant bydd y Cyngor yn dal i wneud cais am y Gorchymyn Dyled.

Gwneud taliad

Mae Gorchymyn Dyled yn rhoi pŵer i ni adennill y ddyled drwy gymryd didyniadau o'ch cyflog neu fudd-daliadau neu rhoi cyfarwyddyd i asiantau gorfodi. Efallai y byddwn hefyd yn ddechrau achos methdaliad yn eich erbyn neu gael gorchymyn arwystlo yn erbyn eich eiddo.

Os nad ydych eisoes wedi cytuno ar gynllun talu erbyn y cam hwn, bydd Gorchymyn Dyled yn cael ei gyflwyno yn gofyn am fanylion ynghylch eich incwm a'ch gwariant. Gofynnir i chi ddarparu adroddiad incwm a gwariant y gallwch ei wneud ar-lein.

Mae'n rhaid cwblhau a dychwelyd y ffurflen hon o fewn 14 diwrnod. Gallech gael dirwy o hyd at £500 am beidio â chwblhau'r ffurflen hon, £1000 am ddarparu gwybodaeth ffug a/neu gael eich galw i Lys yr Ynadon.

Crëwch adroddiad incwm a gwariant

Asiantau Gorfodi

Os nad ydych wedi gwneud trefniant priodol, mae gennym y pŵer dan Orchymyn Dyled i ddefnyddio asiant gorfodi i gasglu'r ddyled. Mae'n rhaid gwneud unrhyw drefniant yn y cam hwn gyda'r asiant gorfodi. Bydd y cam gweithredu hwn yn golygu costau ychwanegol a byddant yn cael eu hychwanegu at y swm sy'n ddyledus.

  • Cam Cydymffurfio: ychwanegir £75.00 at bob gorchymyn dyled cyn gynted ag y caiff ei drosglwyddo i'r Asiant Gorfodi. Mae'r ffi hon yn daladwy cyn y ddyled.
  • Cam Gorfodi: £235.00 yn ogystal â 7.5% o werth y ddyled sydd dros £1500.00. Mae'r ffi hon yn daladwy ar yr ymweliad cyntaf â'ch eiddo. Dim ond un ffi orfodi fydd yn cael ei chodi hyd yn oed os oes mwy nag un gorchymyn dyled.
  • Cam gwerthu neu waredu:£110 yn ogystal â 7.5% o werth y ddyled sydd dros £1500.00. Mae'r ffi hon yn daladwy ar yr ymweliad cyntaf i gael gwared ar eich nwyddau.

Gall yr Asiant Gorfodi hefyd adennill ffioedd rhesymol megis costau gwaredu a storio nwyddau a ffioedd saer cloeau.

Gorchymyn Atafaelu Enillion neu Budd-daliadau

Bydd gorchymyn yn cael ei anfon at eich cyflogwr yn ei hysbysu i adennill y ddyled yn uniongyrchol o'ch cyflog. Bydd y swm sy'n cael ei ddidynnu yn ganran sy'n cael ei phennu gan y gyfraith.

Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Warant Credyd Pensiwn, gofynnir i'r Adran Gwaith a Phensiynau ddidynnu'r ddyled o'ch budd-daliadau. Mae swm y didyniad yn cael ei bennu gan y gyfraith, sef £3.70 yr wythnos ar hyn o bryd.

Achos methdaliad

Efallai byddwn yn dechrau achos methdaliad yn eich erbyn. Bydd y cam gweithredu hwn yn achosi'r canlynol:

  • Effeithio ar eich statws credyd a byddwch yn cael eich atal rhag derbyn unrhyw gredyd pellach.
  • Codi costau ychwanegol ar eich cyfrif
  • Bydd eich cyfrifon banc yn cael eu rhewi
  • Efallai y bydd eich eiddo yn cael ei werthu i adennill y ddyled.

Gorchymyn Arwystlo

Gallwn ni gael gorchymyn arwystlo yn erbyn eich eiddo, a allai olygu y bydd rhaid i chi werthu'r eiddo i adennill y ddyled.